Neuaddau Preswyl y Brifysgol a Campws Byw
Byddwch wedi cael yr holl wybodaeth angenrheidiol yn ystod y broses archebu ystafell ond cofiwch:
- Cwblhewch y modiwl iechyd a diogelwch
- Trefnwch eich cynllun talu ar gyfer eich ystafell
- Cyrhaeddwch ar yr amser yr ydych chi wedi ei archebu trwy'r system ar-lein
Gwiriwch ein gwefan https://www.bangor.ac.uk/llety am fanylion llawn gan gynnwys pori drwy’r adran cwestiynau cyffredin.
Os nad ydych chi wedi archebu ystafell mewn neuadd breswyl eto, ond yr hoffech chi wneud hynny, e-bostiwch neuaddau@bangor.ac.uk neu ffoniwch 01248 382667 cyn gynted â phosibl.
Campws Byw

Ymgartrefwch yn y neuaddau preswyl trwy ymuno â'n digwyddiadau Campws Byw.
Trwydded Parcio Myfyrwyr
Mae trywydded parcio myfyrwyr nawr ar gael i'w prynu am £40 o'r siop ar-lein.
Mae angen trwydded barcio bellach ar unrhyw un sydd eisiau parcio ym meysydd parcio’r brifysgol, yn cynnwys meysydd parcio'r brifysgol ar gampws Wrecsam.
Mae lleoedd parcio i fyfyrwyr ar gael ar draws yr ystad a rhoddir trwyddedau parcio ar sail naill ai lle rydych yn byw neu lle rydych yn astudio. Sylwer nad yw'r holl feysydd parcio ar gael i fyfyrwyr barcio ynddynt. Bydd copi caled o'r map yn cael ei gynnwys gyda'r trwydded.
Os ydych yn ddeiliad bathodyn glas neu'n fyfyriwr ag anawsterau symud, anfonwch e-bost at y Cynghorydd Gwasanaethau Anabledd disabilityservice@bangor.ac.uk i gael cyngor ar ba drwydded sydd ei hangen arnoch.
Nid yw’r ffaith bod trwydded wedi ei rhoi yn gwarantu y bydd lle parcio ar gael i ddeiliad y drwydded. Pan fyddwch yn gwneud cais am drwydded, byddwch yn cytuno i gadw at reoliadau parcio Prifysgol Bangor. Gellir cosbi perchnogion cerbydau sydd wedi parcio mewn ardaloedd nad oes ganddynt hawl i barcio ynddynt.
Cofiwch sicrhau eich bod yn nodi eich cyfeiriad post llawn a'ch rhif cofrestru myfyriwr ar y cais. Caniatewch 3 diwrnod gwaith i ni brosesu eich cais.

Digwyddiadau’r Wythnos Groeso
Darganfyddwch pa ddigwyddiadau a gynhelir yn ystod yr Wythnos Groeso.

Support and Welfare
Bangor has a wide range of support available should you need a little help or advice - either academic or to do with your wellbeing.