Neidio i’r Prif Gynnwys
Amserlen Arholiadau Ysgoloriaethau Mynediad Bangor 2026
Amserlen
- Dydd Mercher 8 Hydref 2025: Ceisiadau am Ysgoloriaethau Mynediad 2026 yn agor
- Dydd Gwener 30 Ionawr 2026: Ceisiadau am Ysgoloriaethau Mynediad 2026 yn cau
- O ddydd Llun 2 Chwefror 2026: Bydd manylion trefniadau’r arholiadau’n cael eu hanfon at y Swyddogion Arholiadau yn ysgolion/colegau’r ymgeiswyr
- Dydd Mercher 11 Chwefror 2026: Arholiad Ysgoloriaethau Mynediad
- Dydd Mercher 11 Chwefror tan ddydd Gwener 13 Chwefror 2026: Papurau arholiad yn dod yn ôl i Brifysgol Bangor
- O ddydd Llun 16 Chwefror 2026: Papurau arholiad yn cael eu marcio gan Brifysgol Bangor
- Mawrth 2026: Ymgeiswyr yn cael e-bost yn rhoi gwybod iddynt a ydynt wedi bod yn llwyddiannus ai peidio
- Diwedd mis Medi 2026: Anfonir e-bost at ymgeiswyr llwyddiannus sydd wedi cofrestru ar eu cwrs ym Mangor i drefnu talu’r ysgoloriaeth
- Tachwedd 2026: Talu ysgoloriaethau i ymgeiswyr llwyddiannus