Bod yn barod at fis Medi: Paratoi at wneud gradd yn Meddygaeth a Porth i Feddygaeth
Pryderus am ddechrau eich cwrs ym mis Medi? Does dim angen i chi fod.
Mae’r sesiwn ar-lein am ddim hon wedi’i dylunio i’ch helpu i deimlo’n hyderus ac wedi’ch paratoi wrth i chi ddechrau eich astudiaethau. P’un a ydych yn ymuno â’n cwrs Meddygaeth neu’r cwrs Porth i Feddygaeth ym mis Medi, gallwch ymuno â’n tîm academaidd i gael cyflwyniad i sut beth yw astudio ym Mangor.
Mae’r sesiwn ar agor i fyfyrwyr a rhieni fel ei gilydd. Byddwch yn dysgu sut bydd eich wythnosau cyntaf yn edrych, yn cael awgrymiadau ymarferol i’ch helpu i baratoi, ac yn cael cyfle i leddfu unrhyw bryderon sydd gennych cyn dechrau yn y brifysgol. Bydd sesiwn holi ac ateb hefyd lle gallwch ofyn unrhyw gwestiynau.