Clefydau yr Oeddem yn Meddwl Ein Bod Wedi'u Trechu... A Pham Maent Yn Dod Yn Ôl
Roedd y frech goch, twbercwlosis a'r pas yn cael eu hystyried unwaith yn glefydau'r gorffennol. Ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae nifer yr achosion o'r heintiau hyn wedi cynyddu yn y DU ac ar draws y byd. Pam mae clefydau y gellir eu hatal neu eu trin yn dod yn ôl?
Yn y weminar ryngweithiol hon, byddwch yn darganfod y wyddoniaeth sy'n sail i ail-ymddangosiad clefydau heintus ac yn archwilio'r ffactorau sy'n gyfrifol am eu dychweliad. Drwy astudiaethau achos o'r byd go iawn, polau barn byw a thrafodaeth, byddwch yn ymchwilio i'r ffordd y mae gwyddonwyr biofeddygol, gweithwyr iechyd cyhoeddus ac ymchwilwyr yn gweithio i fynd i'r afael â bygythiadau iechyd sy'n dod i'r amlwg.
Mae'r sesiwn hon yn ddelfrydol i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn Gwyddor Fiofeddygol, Gwyddorau Meddygol, Ffarmacoleg, Iechyd y Cyhoedd neu yrfaoedd ym maes gofal iechyd, ac mae'n cynnig cipolwg hynod ddiddorol ar sut y defnyddir gwyddoniaeth i ddeall a rheoli clefydau heintus yn y byd modern.