Mae’r Ysgol Seicoleg yn falch o gyhoeddi lansiad Cyfres Seminarau Seicoleg Celfyddydau John Shrigley; cyfres seminarau flynyddol a fydd yn amlygu ymchwil yn ymwneud â Seicoleg Celf a phynciau cysylltiedig.
I ddechrau'r gyfres, byddwn yn cynnal darlith gyhoeddus ddydd Iau, Mai 28ain, 6-7yp yn Narlithfa Eric Sunderland ym Mhrifysgol Bangor.
Ein siaradwr cyntaf fydd Dr Rebecca Chamberlain o Brifysgol Goldsmiths Llundain. Mae ymchwil Dr Chamberlain yn canolbwyntio ar y seicoleg a’r niwrowyddoniaeth sydd ynghlwm â chynhyrchu a chanfod celf weledol. Mae ganddi ddiddordeb arbennig yn y mecanweithiau y mae artistiaid yn caffael eu harkened drwyddynt, a'r effaith y gall ymgysylltu â'r celfyddydau gweledol ei chael ar addysg ac iechyd meddwl.