Her Buddsoddi 2025
Hoffai Ysgol Busnes Bangor wahodd myfyrwyr Blwyddyn 11 a 12 i ymuno gyda ni yn ein Her Buddsoddi, a rhoi brawf ar eich gallu i fuddsoddi trwy fasnachu yn ein hefelychiad rhithiol o’r farchnad stoc.
Bydd disgyblion yn cystadlu i gynhyrchu’r elw mwyaf ar eu portffolio buddsoddi. Does dim rheidrwydd i chi fod wedi astudio Busnes, mae croeso i holl fyfyrwyr.
Bydd disgyblion yn ymgymryd â rolau amrywiol gan gynnwys rheolwr buddsoddi a masnachwr dadansoddol ar farchnad ecwiti fyd - eang, datblygu ac addasu strategaethau masnachu mewn ymateb i newyddion busnes, gwybodaeth am gwmnïau a data am y farchnad.
Bydd y digwyddiad yn helpu i ddatblygu’r sgiliau canlynol:
- Chynllunio
- Trefnu
- Cyfathrebu
- Meithrin Perthynas
- Datrys Problemau
Pa bynnag dîm sy’n gwneud yr elw mwyaf ar eu portffolio sy’n ennill. Bydd y tîm buddugol yn rhoi cyflwyniad 5 munud ar eu strategaeth fasnachu.
Cofrestrwch eich lle nawr.