Sioe BA Celfyddyd Gain 2022
18 - 29 Mai 2022 (Ar-gau 23 Mai)
Mae’r arddangosfa yma yn ddathliad o waith caled a chyflawniadau creadigol y myfyrwyr yn ogystal â bod yn sioe radd olaf i Brifysgol Bangor.
Sefydlwyd y cwrs rhan amser chwe mlynedd yma yn 1998 yn ddarpariad pwrpasol i fyfyrwyr â phrofiad bywyd a gyrfa blaenorol. Hwn oedd y cwrs cyntaf i gynnig gradd gelf yn seiliedig yn y gymuned yn y DU, a derbyniodd gymeradwyaeth arloesi a rhagoriaeth gan yr UAL. Cafodd y cwrs ei ddysgu ar draws nifer o leoliadau led led Gogledd Cymru gan gynnwys Bangor, Ynys Môn, Bae Penrhyn a Phorthmadog. Yn sgîl diffyg cyfleusterau a strwythurau traddodiadol, mynnwyd arferion dysgu arwlyol er sicrhau profiad dysgu o safon i’r myfyrwyr. Egwyddor sylfaenol y cwrs oedd cefnogi myfyrwyr i ddatblygu ymarfer cynaliadwy yn eu cartrefi a’u cynefinoedd er sicrhau parhad yr ymarfer hwnnw yn artist proffesiynol wedi graddio.
Trwy gynnigion ategol megis artistiad gwadd, ymweliadau orielau, seminarau a thiwtora unigol, darparodd y cwrs y cyfle i fyfyrwyr wireddu eu potensial trwy ddatblygiad creadigol personol o fewn i gyd-destun cyfoes.
Dathlu Celfyddyd Gain
Fe fydd 27 o diwtoriaid sydd wedi addysgu ar y cwrs yn ymgynnull ar gyfer arddangosfa ffarwel yn Storiel, Bangor 9 Gorffennaf – 1 Hydref 2022.