The Unwanted Definition of Music in Law
Anna Monnereau (Prifysgol Bangor University)
Cysylltu dau barth 'anghydnaws' o gymdeithas: sicrwydd a diogelwch cyfreithiol yn erbyn creadigaethau cerddorol goddrychol a chymdeithasol.
Mae hawlfraint yn arf cyfreithiol sy'n amddiffyn yr awdur a'r cyhoedd, er i’r cyhoedd, budd y cyhoedd a'r parth cyhoeddus golli gwerth i reolaeth broffidiol dros hawliau unigryw. Sut mae cynrychioli, neu hyd yn oed flaenoriaethu o ran buddiannau'r awdur a'i gyhoedd? Ateb posibl fyddai ailddiffinio’r hawlfraint unigryw’n hawl gynhwysol dros eiddo, drwy ddiffinio cerddoriaeth a’i phrosesau creadigol yn y gyfraith.
Mae ymchwil Anna Monnereau yn bwrw golwg dros ailddiffinio hawlfraint cerddoriaeth: sut mae integreiddio a chynorthwyo 'melodi, rhythm a harmoni' i ryngweithio â therminolegau cyfreithiol traddodiadol? Sut gall hawlfraint gyd-daro â phrosesau creadigol?
Bydd y sgwrs yn bwrw golwg dros wahanol achosion llys i ddangos sut mae arbenigwyr cyfreithiol yn mynd ati i ymdrin â gwerth cerddoriaeth. Efallai y byddwn yn trafod sut mae diffinio 'sylweddolrwydd' mewn cyfraniad artistig, pa drothwy fyddai'n ddelfrydol o ran torri hawlfraint ac a oes angen ystyried Genres i ddiogelu gweithiau cerddorol yn iawn, a rhoi cyfrif am y terfynau cyfreithiol ac artistig.