Fy ngwlad:

Ystyried Astudio Drwy Gyfrwng Y Gymraeg? Dyma Beth I'w Ddisgwyl Yn Y Diwrnod Agored

Os wyt ti’n ystyried astudio trwy gyfrwng y Gymraeg a byw mewn cymuned wirioneddol ddwyieithog, Prifysgol Bangor yw’r lle i chdi. Mae dewis astudio drwy’r Gymraeg yn gam positif sy’n  siapio dy brofiad academaidd, dy ragolygon gyrfa, a dy dwf personol. Os wyt ti'n siaradwr rhugl neu'n ddysgwr, mae'r Diwrnod Agored yn gyfle perffaith i ddod i wybod beth all astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ei olygu i chdi.

PAM ASTUDIO DRWY'R GYMRAEG?

Mae astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn cynnig profiad dysgu mwy personol. Mae dosbarthiadau llai yn golygu mwy o gyfleoedd i gyfrannu a chysylltu â darlithwyr a chyd-fyfyrwyr. Mae hefyd yn rhoi sylfaen ardderchog i dy yrfa - mae galw mawr am weithwyr dwyieithog ledled Cymru, ac mae astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn dy baratoi i gamu ymlaen i'r byd gwaith gyda hyder.

Cefnogaeth Ariannol Am Astudio Drwy'r Gymraeg

  • £1,000 Prif Ysgoloriaeth Coleg Cymraeg Cenedlaethol – ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio 80 credyd y flwyddyn trwy gyfrwng y Gymraeg. (rhaid sefyll arholiad mynediad Bangor).
  • £500 Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol – ar gyfer y rhai sy'n astudio 40 credyd y flwyddyn.
  • £250 Bwrsari Cymraeg – hefyd ar gyfer 40 credyd y flwyddyn a gellir ei gyfuno gyda'r uchod.
Grŵp o fyfyrwyr yn eistedd ar stepiau yn sgwrsio

BETH I'W DDISGWYL YN Y DIWRNOD AGORED

Mae'r Diwrnod Agored wedi'i gynllunio i roi blas go iawn o sut beth yw astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yma. Dyma beth sydd ar gael.

image of coffe and tea mugs in a circle

Sesiwn Croeso i’r Cymry

Tyrd draw am goffi, cacen a sgwrs yn Siambr y Cyngor (Prif Adeilad) rhwng 1.15–2.00pm i glywed am astudio trwy gyfrwng y Gymraeg a chyfarfod staff a myfyrwyr.

Grŵp o fyfyrwyr yn cerdded tu allan ym mheftref Ffriddoedd

Taith o Neuadd JMJ

Ar ôl y Sesiwn Groeso, bydd taith wedi ei thywys o Neuadd JMJ, y neuadd breswyl benodol i siaradwyr Cymraeg.

Huw Gwynn

Stondin yn y Neuadd Arddangos

Bydd staff o Ganolfan Bedwyr a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gael trwy'r dydd i ateb dy gwestiynau.

Myfyrwyr yn cerdded tu allan i Adeilad y Celfyddydau

Sgwrsio Gyda Myfyrwyr

Bydd llysgenhadon myfyrwyr wrth law i rannu eu profiadau ac ateb dy gwestiynau.

Cefnogaeth i Fyfyrwyr

Mae Prifysgol Bangor yn falch o gynnig mwy o fodiwlau a chyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg nag unrhyw brifysgol arall yng Nghymru ac mae'n cael ei chydnabod am ei gwasanaethau dwyieithog a'i chefnogaeth i fyfyrwyr.

Mae Canolfan Bedwyr yn cynnig cymorth gyda gwaith ysgrifennu academaidd, cyflwyniadau, a pharatoi ar gyfer Tystysgrif Sgiliau Iaith Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

O gyngor ariannol i gwnsela, mae'r holl wasanaethau myfyrwyr ar gael yn Gymraeg.
 

Cei ymuno â gweithgareddau Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB), a chymryd rhan mewn corau, clybiau chwaraeon, cymdeithasau llenyddol, a mwy.
 

Mae cyrsiau iaith Gymraeg am ddim ar gael i'r rhai sydd eisiau dysgu neu wella eu sgiliau.

 

Myfyrwyr mewn theatr ddarlith

Lleisiau Myfyrwyr

Wyt ti eisiau clywed gan y rhai sydd wedi astudio drwy'r Gymraeg? Mae'r gyfres 'Bangor Be Wedyn?' yn cynnwys sgyrsiau gyda chyn-fyfyrwyr am eu profiadau nhw o astudio trwy gyfrwng y Gymraeg a sut mae hynny wedi agor drysau yn eu gyrfaoedd. Mae eu straeon yn ysbrydoli ac yn ffordd wych o ddeall effaith go iawn addysg trwy gyfrwng y Gymraeg.