Fy ngwlad:

Cwestiynau Am Gefnogaeth i Fyfyrwyr? Bydd Cyfle i Sgwrsio Gyda Staff ar y Diwrnod Agored

Rydym yn deall y byddi di a dy deulu eisiau gwybod pa gefnogaeth sydd ar gael o'r diwrnod cyntaf. Dyna pam mae staff sy'n cefnogi ein myfyrwyr yn chwarae rhan allweddol yn ein Dyddiau Agored, gan gynnig gwybodaeth ac arweiniad am ein gwasanaethau cymorth arbenigol fydd yn gallu ateb eich cwestiynau.

Os wyt yn ddarpar-fyfyriwr gyda gwahaniaeth dysgu penodol fel dyslecsia, yn riant sydd am wybod mwy am y gefnogaeth iechyd meddwl, neu am ddod i wybod sut mae Bangor yn helpu myfyrwyr i ffynnu, dyma ychydig o'r hyn y gallwch ei ddisgwyl.
 

LLESIANT A CHYNHWYSIANT

Mae Gwasanaeth Llesiant a Chynhwysiant Myfyrwyr Bangor yma i gefnogi dy iechyd meddwl, llesiant emosiynol ac i fynd i'r afael â rhwystrau sy'n gysylltiedig â anabledd.

Mae ein tîm yn cynnig cymorth cyfrinachol gyda phryderon sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl, llesiant, anabledd a chynhwysiant. Os yw straen, iechyd meddwl, neu faterion eraill yn effeithio ar dy ddysgu, cysyllta yn gynnar, rydym yma i helpu.

Rhaglen Cymorth Myfyrwyr 24/7

Rydym yn cynnig mynediad cyfrinachol i Raglen Cymorth Myfyrwyr allanol. Mae'r llinell gymorth 24 awr hon ar gael i fyfyrwyr Prifysgol Bangor 365 diwrnod y flwyddyn gan gefnogi dy iechyd meddwl a dy lesiant.
 

 

Woman in Red Sweater Wearing Black Framed Eyeglasses Sitting on Wheelchair
Credit:Marcus Aurelius @ Pexels
Myfyrwyr yn cerdded tu allan i adeilad Pontio

Fel myfyriwr yma, byddi hefyd yn cael:

  • Cefnogaeth gyda threfniadau rhesymol - fel addasiadau arholiadau - trwy gynllun cymorth dysgu personol (PLSP).
  • Gwybodaeth am anabledd (gan gynnwys namau corfforol, cyflyrau iechyd hirdymor, awtistiaeth, colli synhwyrau) a'r gwasanaethau, cefnogaeth ac addasiadau sydd ar gael.
  • Cefnogaeth i fyfyrwyr gyda gwahaniaethau dysgu penodol (SpLDs) fel dyslecsia, dyspraxia, dyscalculia ac ADHD.
  • Cyngor ar strategaethau i helpu gydag astudio a thasgau bob dydd.
  • Gallwn hefyd roi cyngor i fyfyrwyr y DU ar wneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA), ac ar gyfer myfyrwyr nad ydynt yn gymwys ar gyfer y DSA gallwn roi cyngor ar opsiynau eraill posibl.
     

Yn ystod y Diwrnod Agored, tyrd draw i stondin Cymorth Myfyrwyr yn y Neuadd Arddangos i siarad â staff a fydd yn gallu rhoi cyngor a chefnogaeth gyffredinol ac egluro sut i gysylltu â'n timau arbenigol am wybodaeth fwy penodol.

CYNGOR ARIANOL A CHYLLID MYFYRWYR

Yn poeni am gyllidebu neu gyllid myfyrwyr? Nid wyt ar dy ben dy hun. Mae Tîm Cymorth Ariannol Bangor yn cynnig:

  • Arweiniad ar fenthyciadau a grantiau myfyrwyr
  • Cymorth gyda chyllidebu a rheoli arian
  • Cefnogaeth Cronfa Caledi a bwrsariaethau

Os oes gennyt unrhyw gwestiynau am gyllid myfyrwyr, paid â cholli'r Sgwrs Cyllid Myfyrwyr yn ystod y Diwrnod Agored (lleoliad ac amser yn amserlen y Diwrnod Agored).
 

Person yn teipio ar liniadur ac yn ysgrifennu mewn llyfr nodiadau
Myfyrwyr ar liniadur yn M-SParc

CEFNOGAETH GYRFA A CHYFLOGADWYEDD

Nid yw byth yn rhy gynnar i feddwl am dy dyfodol. Mae Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd Bangor yn helpu myfyrwyr i baratoi ar gyfer bywyd ar ôl y brifysgol gyda:

  • Stiwdio Gyrfaoedd ‘galw heibio’ ar gyfer gwybodaeth, adnoddau a chefnogaeth gyrfaoedd
  • Gweithdai CV a chyfweliadau
  • Ffeiriau gyrfaoedd a digwyddiadau cyflogwyr
  • Hyd yn oed cyn dod yma, gelli ddod i wybod mwy am sut rydym yn helpu myfyrwyr i adeiladu dyfodol llwyddiannus.
     

CWESTIYNAU CYFFREDIN DIWRNOD AGORED

Dyma ychydig o'r cwestiynau y mae ein tîm Gwasanaethau Myfyrwyr yn eu hateb yn rheolaidd yn ystod Dyddiau Agored:

  • A yw'r campws yn hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn?
  • Pa gefnogaeth sydd ar gael i fyfyrwyr gyda dyslecsia?
  • Sut mae Bangor yn cefnogi myfyrwyr gyda heriau iechyd meddwl?
  • A oes ystafelloedd hygyrch yn y Neuaddau?
  • A oes mannau tawel neu Neuaddau tawel?
  • Os oes gennych gwestiynau fel y rhain, bydd ein tîm yn barod i helpu yn ystod y Diwrnod Agored, nid oes unrhyw gwestiwn yn rhy fach.
     
Support your university

Mwy o wybodaeth

Mae mwy o wybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael ar wefan Gwasanaethau Myfyrwyr. Mae yno wybodaeth am bob gwasanaeth, ynghyd â manylion cyswllt os wyt am siarad â rhywun cyn neu ar ôl y Diwrnod Agored.