Llongyfarchiadau ar eich cynnig o le ym Mhrifysgol Bangor
Croeso i'n hyb deiliad cynigion Gwyddoniaeth Biofeddygol a Gwyddorau Meddygol. Rydyn ni wedi creu'r tudalennau hyn i rannu gwybodaeth fanylach am yr hyn sy'n gwneud astudio ym Mangor yn unigryw ac i'ch helpu chi i wneud y penderfyniad pwysig o ble rydych chi'n mynd i astudio.
Os ydych wedi derbyn eich cynnig rydym yn gyffrous iawn i obeithio eich croesawu i Fangor ym mis Medi a dymuno pob lwc i chi gydag unrhyw arholiadau a gwaith cwrs yr ydych yn astudio ar eu cyfer.
Os ydych chi'n dal i ystyried eich opsiynau gwnewch yn siŵr eich bod chi'n edrych ar ein holl gynnwys ar y dudalen hon i'ch helpu chi i benderfynu ai Bangor yw'r lle i chi ac mae croeso i chi gysylltu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.
Oeddech chi'n gwybod?
Gan fod gan y Gwyddorau Meddygol, Gwyddor Biofeddygol a Ffarmacoleg flwyddyn gyntaf gyffredin mae gennych yr hyblygrwydd i newid cyrsiau o'r ail flwyddyn ymlaen. Gall fod yn anodd gwybod cyn i chi ddechrau pa feysydd yn y gwyddorau meddygol fydd fwyaf diddorol i chi, felly mae hyn yn golygu bod gennych chi gyfle i ddarganfod hyn yn ystod blwyddyn un.
Mae ein hachrediad IBMS ar gyfer ein rhaglen Gwyddor Biofeddygol yn eich helpu i baratoi ar gyfer gwaith cyflym a diddorol labordy patholeg modern gyda disgyblaethau'n amrywio o drefnu trallwysiadau gwaed i ganfod heintiau firaol mewn cleifion.
Mae ein gradd Gwyddorau Meddygol yn llwybr i’n rhaglen Meddygaeth: Mynediad i Raddedigion ar gyfer y rhai sy’n graddio gydag o leiaf 2:1. Sylwch fod gofynion mynediad ychwanegol hefyd yn berthnasol.
Mae hyfforddiant ymarferol yn adeiladu eich sgiliau mewn meysydd fel geneteg, microbioleg, a mecanweithiau afiechyd, gan eich paratoi ar gyfer llwybrau gyrfa amrywiol.
Helo, pawb a llongyfarchiadau i chi ar dderbyn cynnig i ddod yma i Brifysgol Bangor ata ni.
Fy enw i ydy Dr Dylan Wyn Jones a dwi yn arweinwyr ar y cwrs Gwyddorau Biofeddygol ac yn dysgu mwy eang ar gwahanol raglenni o fewn yr ysgol.
Diolch yn fawr iawn am considro (ystyried) ni yn fyma yn Bangor fatha safle eich gradd am y rhai blynyddoedd nesa yma.
Dwi'n gyffyrddus iawn yn gwybod fyddwch chi yn mwynhau eich hun dros y blynyddoedd nesa yma, o ran elfennau cymdeithasol a hyd yn oed yr elfennau dysgu ac addysgu hefyd.
Rwan pan fyddech chi wedi dod i'r Brifysgol dwi'n edrych ymlaen i gael croesawu chi mewn person a be fyddan ni'n wneud yn yr wythnosau cynta o'r flwyddyn academaidd newydd ydi mynd drost bob un o'r modiwlau gwahanol efo chi, so bod chi'n gwybod yn union be fydd eu cynnwys nhw a sut maen nhw'n cael ei asesu.
Un o'r pethau a wnawn ni drafod efo chi pan dych chi'n ymuno efo ni ydi os oes gennych chi ddiddordeb un astudio rhywfaint o'ch cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg.
Yma dan ni'n cynnig nifer o fodiwlau ar hyd parhâd eich gradd chi drwy gyfrwng y Gymraeg a os fyd hynna rhywbeth sydd â diddordeb i chi plis dewch ataf fi yn wythnos groeso a fyddai i mwy na hapus i drafod o efo chi.
Llongyfarchiadau am dderbyn cynnig a dwi'n edrych ymlaen i groesawu chi yn ein Wythnos Croeso.
Cwrdd â'r darlithwyr
Os dewiswch astudio gyda ni ym Mangor byddwch yn cael eich dysgu gan bobl sy'n angerddol am eu pynciau. Isod gallwch ddod i adnabod rhai o'r darlithwyr allweddol a fydd yn rhan o flynyddoedd cyntaf eich gradd.
Ydych chi'n ymuno â ni drwy Glirio neu Extra?
Rydych chi mewn cwmni da. Mae llawer o fyfyrwyr yn ymuno â ni fel hyn bob blwyddyn ac yn mynd ymlaen i gael profiad anhygoel. Gall clirio ddigwydd yn gyflym, ond nid yw hynny'n golygu y cewch eich gadael ar ôl. Mae gennych chi ddigon o amser o hyd i gael trefn ar bopeth, o archebu llety i wneud ffrindiau a hyd yn oed ymweld â'r campws.
Er bod ein diwrnodau ymgeisio wedi digwydd yn y Gwanwyn, mae cyfle o hyd i chi ddod i ymweld â ni ym Mangor. Mae gennym ddiwrnod agored ddydd Sul yr 17eg o Awst lle mae croeso i ymgeiswyr hwyr ymweld ymhlith ymwelwyr ar gyfer y cylch nesaf. Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i'n staff eich bod yn gwneud cais ar gyfer y mis Medi hwn fel y gallant roi'r wybodaeth fwyaf perthnasol i chi.
Unwaith y byddwch wedi derbyn eich cynnig yn UCAS gallwch ymuno ag ymgeiswyr eraill a bod yn rhan o'n cymuned myfyrwyr Bangor hyd yn oed cyn cyrraedd! Cofrestrwch ar gyfer ein ap Campus Connect lle gallwch ofyn cwestiynau, sgwrsio â myfyrwyr presennol a gwneud ffrindiau gydag ymgeiswyr eraill ar eich cwrs ac yn eich llety dewisol. Gwiriwch eich negeseuon e-bost am eich rhif cyfeirnod Prifysgol Bangor, bydd ei angen pan fyddwch chi'n cofrestru.
Po gyntaf y gellwch gadarnhau eich bod yn derbyn eich lle Clirio ym Mangor, cyntaf i gyd y gellwch wneud eich cais am lety. Os ydych ym ymgeisio drwy Clirio am gwrs sydd wedi ei lleoli ar ein campws ym Mangor, rydym yn sicrhau y cewch chi ystafell yn ein neuaddau preswyl cyn belled a'ch bod chi'n dewis Prifysgol Bangor ar UCAS erbyn Dydd Iau, 28 Awst ac yn archebu eich ystafell erbyn Dydd Llun, 1 Medi. Pan fyddwch wedi dewis Prifysgol Bangor ar UCAS, a rydym wedi prosesu a chadarnhau eich lle yn swyddogol trwy UCAS, anfonir e-bost* atoch gyda manylion ar sut i wneud cais am lety. Fel arfer, anfonir yr e-bost atoch 24-48 awr ar ôl i chi ddewis Prifysgol Bangor ar UCAS.
Mwy o gwestiynau?
Oes gennych chi gwestiynau mwy penodol neu eisiau sgwrsio â'n myfyrwyr presennol? Gofynnwch unrhyw beth iddynt am y cwrs, bywyd campws, neu ymgartrefu. Maen nhw wedi bod yn eich esgidiau ac yn hapus i helpu ar Unibuddy.
A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.
Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Gwyddorau Meddygol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?
- Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Gwyddorau Meddygol llwyddiannus ym Mangor?
- Beth allai wneud i baratoi at astudio Gwyddorau Meddygol ym Mangor?
- Sut ydw i yn gwybod mai Gwyddorau Meddygol ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?
@medical.bangor.meddygol Ever wondered what a lab practical is ACTUALLY like? 🥼 Have a peek at our first year students from Medical Sciences, Biomedical Science and Pharmacology undertaking an investigation practical using mushrooms 🍄 Ydych chi erioed wedi meddwl sut beth yw ymarferol labordy? 🥼 Cyfle i gael cipolwg ar ein myfyrwyr blwyddyn gyntaf o'r Gwyddorau Meddygol, Gwyddor Biofeddygol a Ffarmacoleg yn cynnal ymchwiliad ymarferol gan ddefnyddio madarch 🍄 #pharmacology #bangoruniversity #medicalsciences #biomed #STEMtok #laboratory ♬ original sound - Medical @ Bangor Uni