Ym mis Hydref eleni, bydd dinas Bangor yn cymryd lle canolog mewn dathliad bywiog o'i gorffennol, ei phresennol a'i dyfodol gyda Gŵyl Hanes Bangor, sy'n coffáu 1,500 o flynyddoedd ers sefydlu un o ddinasoedd hynaf Prydain a dinas hynaf Cymru.
Cynhelir yr ŵyl ddeuddydd yn Pontio, Prif Adeilad y Celfyddydau Prifysgol Bangor, Storiel ac Eglwys Gadeiriol Bangor. Mae’n cynnwys rhaglen gyfoethog o weithdai, trafodaethau, arddangosfeydd rhyngweithiol, a sgyrsiau gwadd, pob un wedi'i gynllunio i ddod â hanes rhyfeddol Bangor yn fyw.
Mae'r digwyddiad yn ystod y dydd yn rhad ac am ddim ac ar agor i'r cyhoedd, gyda rhaglenni dwyieithog yn y Gymraeg a'r Saesneg i adlewyrchu gwreiddiau diwylliannol y ddinas.
Prif Sgyrsiau gyda Greg Jenner a Kate Williams
Un uchafbwynt rhaglen gyda'r nos yr ŵyl ar y ddau ddiwrnod fydd dwy brif sgwrs: Bydd Greg Jenner, hanesydd cyhoeddus Prydeinig, awdur llwyddiannus, a darlledwr, yn traddodi “Ask a Historian: “An Evening with Greg Jenner”, yn dod â hanes yn fyw gyda’i hiwmor a’i fewnwelediad nodweddiadol, tra bydd yr hanesydd, y darlledwr, a’r awdur llwyddiannus, yr Athro Kate Williams, yn cyflwyno “Queens, Castles and Welsh Heroines: “Secrets Behind The Castle Walls”, gan ddatgelu straeon a gwaddol pwerus merched nodedig yn hanes Cymru. Mae tocynnau ar werth ar wefan Pontio, a thocynnau ar gyfer sesiynau’r bore a’r prynhawn o’r gweithdai “Get thy Bearings!” ar gael ar wefan Storiel.
Mae'r digwyddiad yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Bangor (gan gynnwys Pontio), Cyngor Dinas Bangor, Storiel ac Eglwys Gadeiriol Bangor, gyda chefnogaeth gan sawl sefydliad lleol allweddol. Mae Gŵyl Hanes Bangor yn fwy na digwyddiad yn unig; mae'n ddathliad o gymuned, hunaniaeth, a'r straeon sydd wedi llunio ein gorffennol ac a fydd yn dylanwadu ar ein dyfodol.
Bydd bwyd a diod ar werth yng nghaffi Cegin, Pontio (Lefel 2) rhwng 10am a 5pm.
Edrychwch ar fanylion holl ddigwyddiadau’r ŵyl Hanes isod, yn ein hamserlen o ddigwyddiadau ar gyfer y diwrnod.
Dydd Gwener 17.10.2025
6 YH - 7 YH
Mae Greg Jenner yn hanesydd, awdur a darlledydd poblogaidd, ymysg ei weithiau mae rhaglen deledu ‘Horrible Histories’, cyfres llyfrau ‘Totally Chaotic History’ a podcast ‘You’re Dead to Me’.
Ymunwch â Greg wrth iddo roi ei farn ar bob dim sy’n ymwneud â hanes!
Rhagor o wybodaeth: https://www.pontio.co.uk/cy/digwyddiadur/g%C5%B5yl-hanes-bangor
Theatr Bryn Terfel, Pontio
Mae hwn yn ddigwyddiad tocynnau.
Safonol a Henoed £10
Myfyriwr a Phlentyn £5
Darperir y sesiwn yn Saesneg
Dydd Sadwrn 18.10.2025
Trwy'r dydd
Mwynhewch gweithgareddau, pethau rhyngweithiol a phethau i blant ar stondinau ein partneriaid!
- Ymddiriedolaeth Genedlaethol
- Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
- Canolfan Ddysgu Arforol Bangor
- Sefydliad Confucius
- M-SParc
- Coleg Treftadaeth Bangor
- Menter Iaith Bangor
- Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor
- LleCHI LleNI Cyngor Gwynedd
- Canolfan Astudiaethau Arthuraidd Prifysgol Bangor
- Heneb
10am – 4pm
Mwynhewch yr arddangosfeydd e.e. Meddygaeth yng ngogledd Cymru, Ystad Penrhyn a chaethwasiaeth, Pêl droed ym Mangor, addysg ym Mangor, Kate Roberts a Choleg Bangor o dan arweiniad tîm yr Archifdy 10yb – 4yp.
Bydd y Pontifical hefyd i’w weld fel rhan o’r arddangosfa am y Gadeirlan yng nghoridor Siambr y Cyngor.
11am-5pm
Dewch i ymweld a Storiel 11yb-5yp. Fel rhan o’r Wyl.
10am - 3pm
Croeso cynnes i bawb i ymweld â’r Gadeirlan
10 YB
Croeso gan Yr Arglwydd Dafydd Wigley. Cyflwyniad i’r drafodaeth gan Roland Evans, Pennaeth Cynorthwyol Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd. Panel trafod am hanes a threftadaeth llechi gydag Elin Tomos, Dr Dafydd Gwyn a Dr Dafydd Roberts.
Pontio PL5, lefel 5
Sesiwn gyda chyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg
Er ein bod yn gwybod ble mae’r mwyafrif o long-ddrylliadau o amgylch ein harfordir, dydyn ni dal ddim yn gwybod llawer am beth yn union ydynt. Bydd y drafodaeth yn rhannu gwybodaeth am waith môr-fesur y mae tîm o Brifysgol Bangor wedi bod yn ei wneud ers mwy na degawd gyda’r bwriad o adnabod llong-ddrylliadau ym Môr Iwerddon. Dyma gyfle unigryw i ddarganfod pam mae’r ymchwil yma mor bwysig yn nhermau helpu i ddiogelu ein hanghenion ynni yn y dyfodol a dysgu am ddarganfyddiadau sydd wedi creu syndod yn ddiweddar o ran y cysylltiadau rhwng rhai o’r llong-ddrylliadau hyn a hanes lleol. Dewch i ddysgu mwy am hanes yr ardal a’r llong-ddrylliadau gyda Dr Michael Roberts, Ysgol Gwyddorau Eigion, Prifysgol Bangor.
Pontio PL2, lefel 2
Darperir y sesiwn yn Saesneg
Mae’r Gadeirlan, a hithau’n fan claddu tywysog cyntaf Cymru, yn sefydliad eglwysig dihafal yng Ngwynedd, ac wedi bod o dan lywodraeth esgob ers y 6ed ganrif. Trwy edrych ar lythyrau gwreiddiol a dogfennau eraill, bydd y drafodaeth, dan arweiniad Dr Shaun McGuinness o Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas, Prifysgol Bangor, yn edrych ar rai o’r digwyddiadau dramatig a ddigwyddodd yn y gadeirlan yng nghanol yr Oesoedd Canol, digwyddiadau y chwaraeodd esgobion Bangor ran allweddol ynddynt. Noddir y sesiwn gan Gymdeithas Hanes Sir Gaernarfon.
Darperir y sesiwn yn Saesneg
Cadeirlan
Dyma gyflwyniad i hanes cyfieithu Shakespeare i’r Gymraeg o’r 1800au hyd at y presennol gan archwilio rôl ac arwyddocâd y cyfieithiadau mewn gwahanol gyfnodau ac ar amryw lwyfannau. Gosodir y cyd-destun drwy edrych ar ‘y Shakespeare Rhyngwladol’, cyn dychwelyd i’r lleol a’r cenedlaethol yng Nghymru, a chynodiadau cyfieithu un o ddramodwyr mwyaf yr iaith Saesneg i iaith leiafrifol fel y Gymraeg. Yn ail hanner y sgwrs, rhoddir sylw penodol i gyfieithiadau J. T. Jones yn yr ugeinfed ganrif, a’r perfformiadau niferus ohonynt a gafwyd yn ystod y ganrif honno. Daw’r sgwrs i ben drwy edrych ar y presennol, ar hanes yn cael ei greu, gyda golwg ar gynhyrchiad mwyaf diweddar Theatr Cymru, sef cynhyrchiad dwyieithog o Romeo a Juliet. Cyflwyniad gan Manon Gwynant, Ymarferydd Creadigol, Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor.
Darlithfa Eric Sunderland (MALT), Prif Adeilad y Celfyddydau
Sesiwn gyda chyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg
Hanes dinas Bangor (sesiwn ddwyieithog).
Man cyfarfod: Derbynfa Pontio ger Ffordd Deiniol.
Rhys Mwyn, y cerddor a’r archaeolegydd fydd yn tywys y daith.
11 YB
Croeso gan Yr Athro William Heath, Pennaeth Ysgol, Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg, Prifysgol Bangor.
Cyflwyniad i ‘Tom Parry Jones: Dyfeisiwr yr Anadlydd Electronig: Gwyddonydd, Entrepreneur a Dyngarwr’ (John Brinley Jones, PPM Technology) a ‘W.E. Williams: peiriannwr ac arloeswr hedfan’ (Yr Athro Iestyn Pierce, Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg, Prifysgol Bangor).
Darlithfa Eric Sunderland (MALT, Prif Adeilad y Celfyddydau)
Sesiwn gyda chyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg
Sesiwn ar hanes a hunaniaeth y gêm ym Mangor a’r gogledd. Cadeirir gan Dr Jonathan Ervine, Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau, gyda Beth Jones, ymchwilydd PhD, Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas, Prifysgol Bangor; Dr Glynne Roberts, cefnogwr a hanesydd pêl-droed Bangor; a Mei Emrys, hanesydd pêl-droed Cymru.
Pontio PL2, lefel 2
Sesiwn gyda chyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg
Man cyfarfod:Y dderbynfa ger Ffordd y Coleg.
Lynette Williams, Prifysgol Bangor fydd yn tywys y daith.
11.15 YB
Dewch i ddysgu mwy am hanes y chwareli gyda Dr Leona Huey a Dr Gary Robinson, Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas, Prifysgol Bangor.
Pontio PL5, lelel 5
Darperir y sesiwn yn Saesneg
11.30 YB - 1 YP
Sesiwn 1af
Gweithdai liw a llun i'r teulu syn ymwneud a mapiau Bangor
Dewch i ddysgu mwy am fapiau John Speed o Fangor.
Gweithdai yn cyfuno daearyddiaeth gyda chelf a chrefft. Hwyl i’r teulu oll, bydd cyfle i greu mapiau a chymharu mapiau Bangor y gorffennol, y presennol a’r dyfodol! Dan arweiniad Rhys Lloyd Jones, Storiel.
Storiel
Sesiwn dwyieithog
12 YP
Croeso gan Yr Athro William Heath, Pennaeth Ysgol, Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg, Prifysgol Bangor. Dewch i ddysgu mwy am hanes Pont Borth gyda John Cole a Gareth Jones, Ymddiriedolaeth Treftadaeth y Fenai.
Darlithfa Eric Sunderland (MALT, Prif Adeilad y Celfyddydau)
Sesiwn dwyieithog
Mae addysg wedi bod yn bwysig iawn i drigolion y gogledd-orllewin ers canrifoedd lawer, ac mae Bangor wedi chwarae rôl allweddol yn y datblygiad ers sefydlu Ysgol Friars yn 1557. Agorwyd ysgolion yn yr ardal gan: Griffith Jones Llanddowror; Yr Eglwys Anglicanaidd; Y Gymdeithas Ysgolion Brytanaidd ynghyd â byrddau ysgol lleol, a’r cynghorau sir. Dewch i ddysgu mwy am y gwahanol fathau o ysgolion trwy glywed hanesion rhai o’r athrawon mwyaf difyr a diddorol gyda Gwyn Ellis, Swyddog Addysg Archifdy Gwynedd.
Pontio PL5, lefel 5
Sesiwn gyda chyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg
Yn draddodiadol mae haneswyr wedi gweld ‘Seisnigeiddio’ yr uchelwyr fel agwedd gritigol yn hanes cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol Cymru ers y Deddfau Uno yn 1534 a 1543. Er hyn, mae ansicrwydd sylweddol yn parhau ynglŷn â phryd, pam ac i ba raddau y collodd y grŵp dylanwadol yma y gallu i siarad Cymraeg. Yn y drafodaeth hon bydd Dr Shaun Evans, Darlithydd Hanes Cymru a’r Cyfnod Modern Cynnar ym Mhrifysgol Bangor, a Chyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, yn edrych ar y berthynas rhwng yr uchelwyr a’r Gymraeg. Er gwaethaf dirywiad hir-dymor diamheuol y Gymraeg yn yr haen hon o gymdeithas, mae’n nodi i nifer o berchnogion tir barhau i ddefnyddio ac arddel y Gymraeg hyd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae’r ymchwil yn tynnu sylw at natur ieithyddol yr uchelwyr Cymreig a’u plastai, ac yn cynnig dealltwriaeth bwysig o’r berthynas rhwng y tenant a’r perchennog tir yn ystadau Cymru ac o weinyddiaeth cyfiawnder yng nghymunedau Cymru, ac mae’n darparu cynnwys pwysig ar hanes dwyieithrwydd yng Nghymru .
Pontio PL2, lefel 2
Darperir y sesiwn yn Saesneg
Man cyfarfod: Y dderbynfa ger Ffordd y Coleg.
Helen Gwerfyl, Prifysgol Bangor fydd yn tywys y daith.
1 YP
Yn y drafodaeth hon byddwch yn dysgu mwy am Nennius, y mynach a’r hanesydd o’r nawfed ganrif a oedd, mae’n debyg, yn ddisgybl i Elvodotus, Esgob Bangor. Mae Nennius yn fwyaf adnabyddus ymysg ysgolheigion am Historia Brittonum (Hanes y Prydeinwyr), sydd yn cynnwys, ymysg pethau eraill, yr unig restr mewn bodolaeth o frwydrau y credir i Arthur, yr arwr chwedlonol, fod yn ymladd ynddynt – neu Y Brenin Arthur fel y caiff ei alw mewn storïau yn nes ymlaen yn y canol oesoedd. Dan arweiniad Yr Athro Raluca Radulescu, Cyd-gyfarwyddwr Y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd, Prifysgol Bangor.
Darlithfa Eric Sunderland (MALT, Prif Adeilad y Celfyddydau)
Darperir y sesiwn yn Saesneg
Dewch i ddysgu mwy am y berthynas rhwng lleoliadau, emosiynau ac ymddygiad gyda’r cerddor a’r archaeolegydd Rhys Mwyn.
Pontio PL5, lefel 5
Sesiwn gyda chyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg
Dewch i ddysgu mwy gyda John Richard Williams, awdur ‘Er Lles Llawer: Meddygon Esgyrn Môn’.
Pontio PL2, lefel 2
Sesiwn gyda chyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg
2 YP
Ydych chi’n meddwl eich bod yn gwybod am hanes Iddewig Bangor? Wel, meddyliwch eto a dewch i ddysgu mwy am fileniwm o gysylltiadau Iddewig, gan gynnwys esgobion, cadeirlannau, tywysogion a’r goron gyda’r Athro Nathan Abrams, Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor.
Darlithfa Eric Sunderland (MALT, Prif Adeilad y Celfyddydau)
Darperir y sesiwn yn Saesneg
Dewch i ddysgu mwy am hanes yr ardal a chymryd rhan yn y dathlu gyda Dr Marian Gwyn a Race Council Cymru.
Pontio PL2, lefel 2
Darperir y sesiwn yn Saesneg
2il sesiwn 2yp – 3:30yp
Gweithdai liw a llun i'r teulu syn ymwneud a mapiau Bangor
Gweithdai yn cyfuno daearyddiaeth gyda chelf a chrefft. Hwyl i’r teulu oll, bydd cyfle i greu mapiau a chymharu mapiau Bangor y gorffennol, y presennol a’r dyfodol!
Dan arweiniad Rhys Lloyd Jones, Storiel
Sesiwn prynhawn - https://www.eventbrite.co.uk/e/gwyl-hanes-bangor-history-festival-tirffurf-get-thy-bearings-tickets-1676253983789?aff=oddtdtcreator
Storiel
Sesiwn dwyieithog
3 YP
“Y bygythiad mwyaf i’r diwylliant Cymreig a fu erioed”. Efaciwîs, y BBC a bomio Maesgeirchen (Maes G).
Dan arweiniad Dr Martin Hanks, Cyfarwyddwr Dinesig, Cyngor Dinas Bangor, bydd y sesiwn hon yn edrych ar effaith yr Ail Ryfel Byd ar Fangor ac yn trafod rhai o’r pethau a gafodd eu gwneud i warchod ei hunaniaeth unigryw.
Darlithfa Eric Sunderland (MALT, Prif Adeilad y Celfyddydau)
Darperir y sesiwn yn Saesneg
Ymhell cyn sefydlu Bangor yn swyddogol yn AD 525, roedd y rhanbarth yn llawn bywyd ac unigolion chwedlonol ac mae tipyn go lew o archaeoleg sy’n siŵr o’ch synnu. Yn y siwrne fywiog hon trwy amser, bydd Dr Erin Lloyd Jones yn darganfod be oedd yma Cyn Bangor – o aneddiadau cyn-hanesyddol a chofebau llawn dirgelwch i ffyrdd ac arteffactau Rhufeinig sy’n sibrwd storïau o Wynedd a Môn yr henfyd. Meddyliwch am hyn fel “Bangor Cyn Crist” – y ‘prequel’ sydd heb gael ei adrodd o’r blaen gyda llai o seintiau a mwy o gerrig. Dewch ar gyfer yr archaeoleg, arhoswch ar gyfer y storïau, a gadewch yn gwybod fod gwreiddiau Bangor yn mynd dipyn dyfnach nag yr oeddech yn ei feddwl...yn llythrennol.
Pontio PL5, lefel 5
Darperir y sesiwn yn Saesneg
Dewch i ddysgu mwy am hanes dyddiau cynnar y Brifysgol gyda’r hanesydd Gari Wyn. Bydd pwyslais y sgwrs ar gyfraniad unigolion amlwg yn ogystal â chyfraniad brodorion lleol y cylch a bydd hefyd yn egluro sut yn union y llwyddwyd i esblygu o fod yn brifysgol mewn gwesty i fod yn brifysgol ac iddi enw da ac un o’r adeiladau mwyaf eiconig a welwyd yn Nghymru erioed.
Pontio PL2, lefel 2
Sesiwn gyda chyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg
Man cyfarfod: Y dderbynfa ger Ffordd y Coleg.
Lynette Williams, Prifysgol Bangor fydd yn tywys y daith.
3.30 YP
dewch i ddysgu mwy am drysorau Storiel!.
Frances Llewellyn, Ffrindiau Storiel fydd yn tywys y daith.
Storiel
Darperir y sesiwn yn Saesneg
4 YP
Dewch i ddysgu mwy am fywyd Charlotte Price White a Gladys Thoday gyda Dr Dinah Evans, Cydymaith Ymchwil er Anrhydedd, a Shan Robinson, Uwch Gynorthwyydd Casgliadau Arbennig, Prifysgol Bangor.
Darlithfa Eric Sunderland (MALT, Prif Adeilad y Celfyddydau)
Darperir y sesiwn yn Saesneg
Dewch i wrando ar hanes a phrofiadau unigolion sydd wedi cynrychioli etholaethau lleol. Gyda’r Cyng. Medwyn Hughes, Maer Bangor, yn cadeirio, ar y panel bydd Siân Gwenllian AS (Plaid Cymru), Aelod o’r Senedd dros Arfon ers 2016; Robin Millar (Y Ceidwadwyr), Aelod Seneddol dros Aberconwy 2019-2024; a Joanna Stallard (Y Blaid Lafur), Ymgeisydd ar gyfer Senedd 2026 yn etholaeth Bangor Conwy Môn.
Pontio PL5, lefel 5
Sesiwn gyda chyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg
Mae enwau lleoedd yn bwysig ac yn ein cysylltu â’r gorffennol. Dewch i ddysgu mwy am hanes enwau ardal Bangor a thu hwnt gyda’r Athro Emeritws Hywel Wyn Owen, un o sylfaenwyr Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, Is-Lywydd er Anrhydedd yr English Place-Name Society a chyn-Lywydd y Society for Name Studies in Britain and Ireland.
PL2, Lefel 2, Pontio
Sesiwn gyda chyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg
Man cyfarfod: Y dderbynfa ger Ffordd y Coleg.
Helen Gwerfyl, Prifysgol Bangor fydd yn tywys y daith.
6 YH - 7 YH
Yr Athro Kate Williams, sy’n hanesydd, awdur a chyflwynydd teledu, fydd yn cloi'r ŵyl. Ymysg ei gweithiau mae ‘England’s Mistress’, ‘Becoming Queen’ a ‘The Ring and the Crown: A History of Royal Weddings 1066 – 2011’. Ymunwch â Kate am daith hwyliog a diddorol drwy hanes, a fydd yn siŵr o brocio’r meddwl.
Rhagor o wybodaeth: https://www.pontio.co.uk/cy/digwyddiadur/g%C5%B5yl-hanes-bangor
Theatr Bryn Terfel, Pontio
Mae hwn yn ddigwyddiad tocynnau.
Safonol a Henoed £10
Myfyriwr a Phlentyn £5
Darperir y sesiwn yn Saesneg
Partneriaid
