Mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru yn nodi'r weledigaeth i Gymru ddod yn wlad wrth-hiliol. Mae'r Cynllun yn adlewyrchu ymrwymiad cadarn Llywodraeth Cymru i feithrin cymdeithas gynhwysol ac ecwitïol ar gyfer cymunedau du, Asiaidd ac ethnig lleiafrifiedig yng Nghymru.
Daeth Prifysgol Bangor yn aelod o Siarter Cydraddoldeb Hil Advance HE yn 2022.
Cenhadaeth y Siarter Cydraddoldeb Hil yw gwella cynrychiolaeth, profiad, dilyniant a llwyddiant staff a myfyrwyr ethnig lleiafrifiedig mewn addysg uwch. Mae'n darparu fframwaith trylwyr a chadarn y mae sefydliadau'n gweithio drwyddo i adfyfyrio'n feirniadol a gweithredu ar rwystrau sefydliadol a diwylliannol sy'n rhwystro cynnydd a llwyddiant staff a myfyrwyr lleiafrifol.