'Celebrating our Local Heroes and Sheroes' - Digwyddiad Lansio Prifysgol Bangor
Gŵyl y Gwyddorau Cymdeithas
Cynhelir y digwyddiad hwn yng Nghanolfan Celfyddydau Pontio, sef lleoliad celfyddydau cyhoeddus ym Mangor, sydd hefyd yn rhan o Brifysgol Bangor. Bydd y digwyddiad yn ddathliad o bobl leol o gefndiroedd amrywiol. Bydd yn cynnwys cymysgedd o sgyrsiau a chyflwyniadau, arddangosfeydd, ffilmiau, celf a pherfformiadau. Prif ran y digwyddiad fydd perfformiadau gan artistiaid gan gynnwys dawnswyr Indiaidd, drymwyr Caribïaidd, cantorion Affricanaidd, sydd oll yn byw ym Mangor a'r cyffiniau. Bydd y siaradwyr yn gallu siarad am eu profiadau neu rannu manylion am eu gwaith creadigol. O amgylch y digwyddiad bydd gweithiau celf, ffotograffau a gwybodaeth a gasglwyd gan bobl leol i rannu eu straeon.
Prif arweinydd y digwyddiad fydd Dr Marian Gwyn, a fydd yn gweithredu yn rhinwedd ei swydd fel pennaeth treftadaeth Race Council Cymru, sef prif bartner yn y digwyddiad hwn. Bydd y siaradwyr a pherfformwyr yn cynnwys: Jean-Samuel Mfikela, artist o Camerŵn; Shweta Jadhav Patil, dawnswraig Indiaidd draddodiadol; ac Audrey West, bardd o Jamaica. Bydd y buddion yn cynnwys cael gwell dealltwriaeth o'r cymunedau sy'n byw ym Mangor a'r cyffiniau.
Bydd y digwyddiad hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim a bydd yn agored i bawb.
Cynhelir y digwyddiad hwn yng Nghanolfan Celfyddydau Pontio.