person filming another person using a mobile phone video

Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cyllid ar gyfer Academïau Sgrin Cymru

Mae cefnogaeth ariannol wedi cael ei ddarparu ar gyfer prosiect newydd, a arweinir gan Brifysgol Bangor, Ysgol Ffilm a Theledu Prifysgol De Cymru, a Screen Alliance Wales, i greu tair Academi Sgrin 

Mae Academïau Sgrin Cymru wedi’u sefydlu i wella’n uniongyrchol y cyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc yng Nghymru ddilyn gyrfa yn y diwydiant ffilm a theledu. Mae Prifysgol Bangor yn falch o fod yn cydweithio’n agos gydag Stiwdios Ffilm Aria ar Ynys Môn, Prifysgol De Cymru a Chynghrair Sgrin Cymru er mwyn adeiladu ffrwd gynaliadwy a chynhwysol ar gyfer diwydiant sgrin ffyniannus Cymru. Mae datblygu’r dalent gorau gyda’r sgiliau proffesiynol priodol a darparu cyfleoedd yn y Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg yn greiddiol i’n cenhadaeth fel prifysgol, ac mae creu cynnwys bellach yn ddiwydiant byd-eang sy’n cynnig cyfleoedd enfawr i’n myfyrwyr yma yng Nghymru a thu hwnt.
Yr Athro Ruth McElroy,  Pennaeth yr Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau ym Mhrifysgol Bangor

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?