Mae Swyddfa'r Bwrdd Gweithredol yn darparu cefnogaeth i holl aelodau'r Bwrdd Gweithredol. Rheolir y Swyddfa gan Ysgrifennydd y Brifysgol ac fe'i cefnogir gan dîm o Gynorthwywyr Gweithredol ac Uwch Gynorthwywyr Gweithredol.
Mae Kelly yn cefnogi’r Is-ganghellor ym mhob agwedd ar ei swyddogaeth. Mae Kelly yn gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer pob ymholiad sy’n ymwneud â’r Is-ganghellor dros y ffôn a thrwy ohebiaeth ysgrifenedig/e-bost. Daw Kelly â chyfoeth o brofiad i Swyddfa’r Bwrdd Gweithredol ar ôl gweithio mewn sawl ysgol ar draws y brifysgol, gan gynnwys Ysgol Busnes Bangor a’r Ganolfan Prosesu Signalau Digidol. Cyn hyn, bu Kelly yn gweithio fel Cynorthwyydd Personol i’r Pennaeth yng Ngholeg Llandrillo, yn Ysgrifenyddiaeth Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru ac yng Ngwasanaethau Proffesiynol y Gwasanaeth Tân.
Mae Karen yn cefnogi’r Dirprwy Is-ganghellor, yr Athro Andrew Edwards, a’r Ysgrifennydd y Brifysgol, Gwenan Hine. Mae Karen hefyd yn darparu cefnogaeth i Gadeirydd y Cyngor, Mrs Marian Wyn Jones. Dechreuodd Karen weithio ym Mhrifysgol Bangor yn 1996 fel Cynorthwyydd Swyddfa yn yr Ysgol Cyfrifeg, Bancio ac Economeg. Mae hi wedi bod yn Gynorthwyydd Personol i uwch-aelodau staff y Brifysgol ers dros ugain mlynedd, gan weithio i wahanol Bennaethion Ysgolion, Bennaethion Colegau ac yn fwy diweddar i Ddirprwy Is-gangellorion.
Cynorthwyydd Gweithredol i'r Prif Swyddog Cyllid, Prif Swyddog Gweithredu a’r Prif Swyddog Strategaeth a Chynllunio.
Mae Bethan yn cefnogi’r Prif Swyddog Cyllid, Mr Martyn Riddleston, Prif Swyddog Gweithredu, Mr Michael Flanagan, a'r Prif Swyddog Strategaeth a Chynllunio, Mike Wilson. Mae Bethan wedi gweithio i Brifysgol Bangor ers 2005, yn gweithio’n gyntaf yn y Gwasanaethau Ystadau a Champws ac yna fel Cynorthwyydd Personol i Is-gangellorion blaenorol.
Mae Donna yn cefnogi’r Dirprwy Is-ganghellor (Addysg a Phrofiad Myfyrwyr), yr Athro Nichola Callow, Diprwy Is-Ganghellor (Ymchwil), yr Athro Paul Spencer, a'r Prif Swyddog Marchnata, Mrs Patrcia Murchie. Cyn ei swydd bresennol, roedd Donna yn weinyddwr i’r GIG tra'n astudio HNC rhan-amser mewn Gweinyddu Busnes; Cynorthwyydd Personal am 20 mlynadd yn darparu cymorth cynorthwyydd personol mewn Marchnata, Celfyddydau Pontio; a Chynorthwyydd Gweithredol Cymorth i Ddeon Coleg y Gwyddorau Dynol ym Mhrifysgol Bangor, tra astudio gradd rhan-asmer.