Oriau Agor
Mynediad gyda'r nos a'r penwythnos i'r Brif Lyfrgell
Bydd angen eich cerdyn adnabod arnoch i gael mynediad i'r llyfrgell ar ôl 5yp yn ystod yr wythnos, a thrwy gydol y cyfnod agor dros y penwythnos
Does dim mynediad uniongyrchol i/o'r llyfrgell drwy brif adeilad (ystafell ddarllen Lloyd) ar benwythnosau. Defnyddiwch brif fynedfa'r llyfrgell.
Oriau Agor
Dydd | Oriau Agor | Oriau Cymorth |
---|---|---|
Llun – Gwener | 09:00 – 20:00 | 09:00 – 20:00 |
Sadwrn | 12:00 – 17:00 | 12:00 – 17:00 |
Sul | Ar gau |
Mae’r llyfrgell ar Gampws Wrecsam yn darparu adnoddau helaeth i staff a myfyrwyr sy’n gweithio ac yn astudio ar y safle, ac mae’n cynnwys casgliadau print nyrsio, bydwreigiaeth, radiograffeg a gwyddorau iechyd.
Yn ystod oriau gwasanaeth gyda staff (gweler y tabl isod) mae ein tîm cefnogaeth wrth law i'ch helpu gyda'n gwasanaethau a'n cyfleusterau. Gallwch gysylltu â'r tîm trwy anfon e-bost i llyfrgell@bangor.ac.uk
Oriau Agor
Dydd | Oriau Agor | Oriau Cymorth |
---|---|---|
Llun – Gwener | 10:00 – 16:00 | 10:00 – 16:00 |
Sadwrn - Sul | Ar gau | Ar gau |
Mae ein hystafelloedd cyfrifiadurol a’n mannau dysgu cymdeithasol wedi eu lleoli ar lefel 5 adeilad Pontio (bydd angen eich cerdyn adnabod arnoch i gael mynediad ar adegau).
Mae cyfrifiaduron desg sefydlog ar gael i chi eu defnyddio (wedi eu ffurfweddu ar hyn o bryd ar gyfer gweithio'n ddiogel yn unol â rheoliadau Covid).
Mae hefyd ddigon o le i weithio gyda'ch gliniadur/llechen gyda chysylltiad diwifr a digon o socedi i ailwefru.
Mae’r lleoliadau yn adeilad Pontio yn agored am oriau maith a gallwch fwynhau cyfleusterau eraill Pontio hefyd, sy’n ei wneud yn lle gwych i weithio yn eich amser eich hun.
Gall unrhyw un ymweld â’r Brif Lyfrgell neu â Llyfrgell Wrecsam i bori drwy’r adnoddau ar ein silffoedd a’u defnyddio at ddibenion cyfeirio. Gallwch chwilio ein catalog llyfrgell gartref, neu yn defnyddio’r cyfrifiaduron catalog yn y llyfrgell.
Mae cyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor, trigolion gogledd Cymru sy’n aelodau o’u llyfrgell gyhoeddus leol, a staff a myfyrwyr prifysgolion eraill yn y Deyrnas Unedig hefyd o bosibl yn gymwys i fod yn aelodau benthyca o’r llyfrgell.
Sylwch fod cyfrifon aelodaeth allanol yn cael eu prosesu rhwng 8:30yb a 5:00yp yn unig, o ddydd Llun i ddydd Gwener
I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at Llyfrgell@bangor.ac.uk.
Manylion Cyswllt a Lleoliad
Y Brif Lyfrgell, Prifysgol Bangor, Bangor, LL57 2DG
Y Brif Lyfrgell
Llyfrgell Wrecsam, Berwyn House, Archimedes Centre, Wrecsam Technology Park, Wrecsam. LL13 7YP