Roedd y noson yn dathlu dysgwyr, prentisiaid ac addysgwyr sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol at addysg drydyddol cyfrwng Cymraeg a dwyieithog dros y flwyddyn ddiwethaf.
Enillodd Phil y wobr am arwain y prosiect arloesol, 'Mwy na Geiriau: Y Gymraeg fel Sgil Glinigol', a derbyniodd ei wobr gan y ddarlledwraig ac ymgyrchydd iechyd, Beti George.
Modiwl sy'n cael ei gyflwyno gan diwtoriaid ac arbenigwyr polisi Canolfan Bedwyr mewn cydweithrediad â staff Ysgol Feddygol Gogledd Cymru ydy 'Mwy Na Geiriau'. Mae'r modiwl yn sicrhau bod pob myfyriwr Meddygaeth blwyddyn gyntaf yn derbyn gwers Gymraeg neu sesiwn ymwybyddiaeth iaith unwaith yr wythnos fel rhan integredig o'u cwrs. Mae cynnwys y sesiynau wedi'u teilwra er mwyn arfogi'r myfyrwyr gyda'r sgiliau iaith ac ymwybyddiaeth iaith y maen nhw eu hangen yn y cyd-destun clinigol.
Mae’r prosiect yn seiliedig ar egwyddorion cynllun Llywodraeth Cymru o’r un enw, ac wedi ei ddylunio i hyrwyddo’r Gymraeg fel sgil glinigol hanfodol. Ei nod yw sicrhau bod myfyrwyr — beth bynnag eu hyder yn yr iaith — yn gallu datblygu eu sgiliau Cymraeg yn ystod eu cwrs Meddygaeth ynghyd â dealltwriaeth o'r cyd-destun ieithyddol.
Meddai Phil: “Dwi’n falch o’r wobr oherwydd pwysigrwydd y Gymraeg yn y sector iechyd a’n bod ni wedi creu rhywbeth sydd am wneud gwahaniaeth ar lawr gwlad. Mae’n dangos fod dysgu Cymraeg a magu hyder pobl ifanc i siarad yr iaith yn ffitio’n daclus o fewn rhaglenni academaidd dwys, fel Meddygaeth. Y gobaith yn y dyfodol ydy ymestyn y cwrs, y rhaglen a’r cysyniad i gynlluniau academaidd eraill yn y sector iechyd.”