Rydym yn cynnal cyfres o sesiynau gwybodaeth ar-lein i’n rhaglenni seicoleg ôl-radd hyfforddedig ym Mhrifysgol Bangor. Mae pob sesiwn yn canolbwyntio ar raglen benodol ac yn cael ei chyflwyno'n fyw gan arweinydd y rhaglen.
Beth i'w ddisgwyl
Yn ystod pob sesiwn, gallwch ddisgwyl y canlynol:
- Trosolwg ar strwythur y rhaglen a chynnwys y cwrs
- Gwybodaeth am ofynion mynediad a llwybrau ymgeisio
- Gwybodaeth am lwybrau gyrfa a hyfforddiant pellach
- Cyfle i ofyn cwestiynau a siarad â staff academaidd
Cynhelir pob sesiwn ar-lein trwy Microsoft Teams, ac mae’n rhaid cofrestru. Os ydych yn ansicr pa sesiwn fydd fwyaf perthnasol i chi, mae croeso cynnes i chi fynd i fwy nag un.