Fy ngwlad:

Ysgoloriaethau, Efrydiaethau a Bwrsariaethau

Gwobrau'r Brifysgol

Darperir Ysgoloriaethau Price Davies (sydd hefyd yn ymgorffori Ysgoloriaethau Mynediad Price Davies) o incwm cymynrodd a wnaed i Brifysgol Cymru yn 1900 gan y diweddar Mr Price Davies o Leeds.

O ran ysgoloriaethau a ddyfernir yn 2025/26 rhaid i ymgeiswyr fod yn dilyn cynllun astudio gradd ymchwil ôl-radd yn y Celfyddydau neu mewn Gwyddoniaeth ym Mhrifysgol Bangor.

Darperir Ysgoloriaethau Price Davies o incwm cymynrodd a wnaed i Brifysgol Cymru yn 1900 gan y diweddar Mr Price Davies o Leeds.

Meini prawf cymhwysedd ar gyfer ysgoloriaethau Price Davies a ddyfarnwyd yn 2025/26

  • Rhaid i ymgeiswyr fod yn astudio doethuriaeth mewn unrhyw bwnc o fewn y Celfyddydau neu Wyddoniaeth ym Mhrifysgol Bangor.
  • Rhaid i ymgeiswyr fod ar eu hail neu drydedd flwyddyn o'u PhD. Nid yw ymgeiswyr ar flwyddyn gyntaf eu PhD yn gymwys i wneud cais.
  • Rhaid i ymgeiswyr fod yn hunan-ariannu ac ni ddylent fod yn derbyn unrhyw gyllid cyhoeddus na phreifat i gefnogi eu hymchwil PhD.
  • Rhaid i ymgeiswyr gael cefnogaeth trwy lofnod eu goruchwyliwr/goruchwylwyr ar y ffurflen gais, fel sicrwydd bod y PhD yn mynd rhagddo.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Mae pedair ysgoloriaeth gwerth £5,000 yr un ar gael.  Bydd ymgeiswyr cymwys yn cael eu dewis drwy gystadleuaeth agored.
  • Rhaid cyflwyno ceisiadau i'r Ysgol Ddoethurol (pgr@bangor.ac.uk) erbyn hanner nos (BST) fan bellaf Ddydd Llun 8 Medi 2025. Ni fydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu hadolygu.

Lawrlwytho'r ffurflen gais

(Cronfa Dreftadaeth Y Werin)

Mae'r ysgoloriaeth yn cynnig hyd at £1,500 i gefnogi graddedigion dawnus o Brifysgolion Cymru sydd â diddordeb mewn iaith, llenyddiaeth, hanes a hynafiaethau Cymru.

Mwy o wybodaeth a gwneud cais

(Cronfa Dreftadaeth Y Werin)

Mae Ysgoloriaeth Ôl-raddedig Llewelyn Williams yn galluogi ymchwil i Hanes Cymru, gan gynnwys deddfau Cymreig ac agweddau economaidd bywyd Cymreig. Mae'r ysgoloriaeth yn cynnig hyd at £7,000 i gefnogi graddedigion Hanes, Cyfraith ac Economeg dalentog sydd â diddordeb mewn ymchwil ôl-raddedig ym Mhrifysgolion Cymru.

Mwy o wybodaeth a gwneud cais

(Cronfa Dreftadaeth Y Werin)

Mae'r ysgoloriaeth yn cynnig hyd at £2,000 i gefnogi graddedigion dawnus o Brifysgolion Cymru sydd â diddordeb mewn Newyddiaduraeth neu Faterion Rhyngwladol.

Mwy o wybodaeth a gwneud cais

Gall myfyrwyr cofrestredig o’r DU (ac eithrio myfyrwyr o Gymru a myfyrwyr sydd wedi eu hariannu gan y GIG) fod yn gymwys i dderbyn Bwrsari Mynediad Ôl-raddedig a Addysgir.  Mae’r fwrsariaeth ar gyfer myfyrwyr israddedig (yn y flwyddyn academaidd 2023-24) sy’n symud ymlaen i raglen astudio ôl-raddedig a addysgir ym Mhrifysgol Bangor yn 2024-25. Mae hefyd i myfyrwyr nad oes ganddynt gymhwyster ôl-raddedig eisoes ac sy'n ddi-waith cyn dechrau ar raglen astudio ôl-raddedig a addysgir ym Mhrifysgol Bangor.

Bydd bwrsariaeth yn cael ei ddyfarnu i:

  • myfyrwyr a oedd fel myfyriwr israddedig yn 2023-24 wedi derbyn yr uchafswm cyllid myfyrwyr prawf modd.
  • myfyrwyr a oedd yn ddi-waith yn union cyn dechrau eu hastudiaethau ôl-raddedig.

Meini Prawf Cymhwysedd

Oeddech chi:

  1. yn derbyn un o’r canlynol fel myfyriwr israddedig yn ystod blwyddyn academaidd 2023-24:
    • Grant Cynhaliaeth Prawf Modd
    • Benthyciad Cynhaliaeth Prawf Modd
    • Bwrsari Ymddieithrio
    • Bwrsariaeth Profiadol o Ofal
  2. yn ddi-waith yn union cyn dechrau cwrs ôl-raddedig ym Mhrifysgol Bangor ac yn derbyn Lwfans Ceisio Gwaith / Cymhorthdal Incwm / Credyd Cynhwysol.

Proses Ymgeisio

Dylai myfyriwr gysylltu â'r Uned Cymorth Ariannol i gael ffurflen gais, gan ddychwelyd y ffurflen wedi'i chwblhau gyda thystiolaeth o'u dyfarniad cyllid myfyriwr 2023-24, bwrsariaeth neu lythyr dyfarnu budd-daliadau lles.

Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais a ffurflen gais, cysylltwch â'r Uned Cymorth Ariannol.

Mae Prifysgol Bangor yn aelod o siarter Cydraddoldeb Rhwng y Rhywiau Athena SWAN ac felly wedi ymrwymo i gydraddoldeb ac amrywiaeth rhwng y rhywiau, ac i greu a hyrwyddo diwylliant cynhwysol i staff a myfyrwyr ar bob lefel. Diben ysgoloriaethau Bangor Gynhwysol cefnogi myfyrwyr sy'n graddio i barhau â'u hastudiaethau ym Mangor - yn enwedig mewn meysydd lle mae nifer o ein myfyrwyr yn dangos tangynrychiolaeth o rai grwpiau. Ysgoloriaethau yw'r rhain ar gyfer gradd meistr (hyfforddedig neu drwy ymchwil) mewn unrhyw ddisgyblaeth. Dyfernir un ysgoloriaeth i bob Coleg. 

Beth mae'n ei gynnwys?

 Taliad tuag at ffioedd dysgu cwrs Meistr ôl-radd hyfforddedig neu ymchwil am un flwyddyn (neu am ddwy flynedd os yr astudir y cwrs yn rhan amser). Bydd terfyn uchaf o £9,500.  

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â athenaswan@bangor.ac.uk

Mae cynllun Ysgoloriaeth Chwaraeon Bangor yn bwriadu cydnabod a chefnogi rhagoriaeth a chyrhaeddiad mewn chwaraeon. Nid yw'r Ysgoloriaethau, sy'n werth £3,000 y flwyddyn, wedi'u cyfyngu i unrhyw gamp neilltuol nac i fyfyrwyr ar unrhyw gyrsiau penodol.

Mwy o wybodaeth

Allanol

Mae’n bleser gan Ysgol Prifysgol Bangor gynnig ysgoloriaethau ymchwil Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (WGSSS) (Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol yr ESRC) fydd yn dechrau ym mis Hydref 2026.    

Pwnciau

  • Dwyieithrwydd/Ieithyddiaeth
  • Seicoleg
  • Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer
  • Troseddeg a’r Gyfraith
  • Astudiaethau Cymdeithaseg/Gwyddoniaeth a Thechnoleg
  • Gwyddor Data, Iechyd a Lles
  • Addysg
  • Gwaith Cymdeithasol, Gofal Cymdeithasol a Pholisi Cymdeithasol
  • Economeg
  • Rheolaeth a Busnes
  • Cynllunio amgylcheddol

Meini Prawf Mynediad:    

I dderbyn cyllid un o ysgoloriaethau ymchwil yr WGSSS, mae’n rhaid bod gennych chi gymwysterau neu brofiad sy'n cyfateb i radd anrhydedd yn y DU ar lefel dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch, neu radd meistr. Mae croeso i fyfyrwyr sydd â chefndir academaidd anhraddodiadol hefyd wneud cais.   

Hyd yr astudiaeth:   

Mae hyd yr astudiaeth yn amrywio o 3.5 i 4.5 blynedd amser llawn (neu’r hyn sy’n gyfwerth iddi yn rhan-amser).     

Mae hyd yr astudiaeth yn dibynnu ar brofiad ymchwilio blaenorol ac anghenion hyfforddi'r myfyriwr a asesir drwy gwblhau Dadansoddiad o’r Anghenion Datblygu. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau am astudio’n amser llawn ac yn rhan-amser.   

Lleoliad ymarfer wrth ymchwilio:   

Bydd gofyn i bob myfyriwr a ariennir gan yr WGSSS gwblhau lleoliad Ymarfer wrth Ymchwilio a ariennir am gyfanswm o 3 mis (neu’r hyn sy’n gyfwerth iddo yn rhan-amser). Bydd pob myfyriwr yn cael y cyfle i gwblhau lleoliad mewn sefydliad academaidd, polisi, busnes neu gymdeithas sifil.    

Gofynion rhyngwladol ynghylch bod yn gymwys:   

Mae ysgoloriaethau ymchwil yr WGSSS ar gael i fyfyrwyr y DU a myfyrwyr rhyngwladol. Caiff hyd at 30% o'n carfan gynnwys myfyrwyr rhyngwladol. Ni chodir y gwahaniaeth rhwng ffi y DU a'r ffi ryngwladol ar fyfyrwyr rhyngwladol. Dylai ymgeiswyr fodloni gofynion UKRI o ran bod yn gymwys.     

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant:  

Mae’r WGSSS wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu diwylliant sy’n cynnwys pawb. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bob aelod o'r gymuned fyd-eang waeth beth fo'u hoedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.    

Asesu:   

Bydd yr ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rhestr fer yn cael eu gwahodd am gyfweliad. Yn rhan o'r broses gyfweld, bydd gofyn i ymgeiswyr roi cyflwyniad byr ac ateb cyfres o gwestiynau gan y panel 

Sut i wneud cais:   

Dylai ceisiadau ddod i law erbyn 11.12.25 fan bellaf gan gynnwys yr holl ddogfennau sydd eu hangen. Oherwydd nifer y ceisiadau a ddaw i law, ni fydd ceisiadau anghyflawn yn cael eu hystyried.    

Dylid cyflwyno pob cais gan ddefnyddio’r dolenni canlynol (defnyddiwch y cyfeiriad e-bost cywir ar gyfer y llwybr a gyflwynir i:

Cofiwch gynnwys y dogfennau canlynol yn eich cais:   

  • Ffurflen Gais yr WGSSS [WGSSS Studentship Application Form 2026]
  • CV academaidd (dim mwy na dwy dudalen). 
  • Dau eirda academaidd neu broffesiynol (mae’n rhaid i ymgeiswyr gysylltu â chanolwyr a chynnwys y geirdaon yn eu cais. Mae’n rhaid i'r geirdaon fanylu ar gryfderau ymchwil yr ymgeisydd. 
  • Tystysgrifau a thrawsgrifiadau gradd (gan gynnwys cyfieithiadau os yw'n berthnasol)   
  • Os yw'n berthnasol, prawf o Gymhwysedd yn y Saesneg (gweler gofynion mynediad y sefydliad)  

Cyllid:   

Mae ysgoloriaethau ymchwil a ariennir gan yr ESRC yn talu ffioedd dysgu, cyflog byw di-dreth blynyddol yn unol ag isafswm cyfraddau UKRI (£20,780 ar hyn o bryd) ac mae'n cynnwys mynediad at Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil.    

Os oes gennych chi anabledd, efallai y bydd gennych chi hawl i Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA) ar ben eich ysgoloriaeth ymchwil.    

Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol ar Ymchwil Methodoleg Treialon rhwng y Cyngor Ymchwil Meddygol a’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal

Nod Partneriaeth Ymchwil Methodoleg Treialon y Cyngor Ymchwil Meddygol / y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal, yw gwella iechyd trwy wella treialon. Mae ein Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol gyda’r Cyngor Ymchwil Meddygol yn cyflwyno cyfle i ymgymryd â hyfforddiant PhD mewn methodoleg treialon.

Mae projectau Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol ar gael mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys ystadegau, dadansoddeg data a gwybodeg, cyfrifiadureg, economeg iechyd, dulliau ansoddol, dulliau cymysg, meddygaeth glinigol a seicoleg.

Bydd myfyrwyr yn dod yn aelodau o'r Bartneriaeth Ymchwil Methodoleg Treialon, gan gynnig sbectrwm ehangach o weithgareddau hyfforddi a chyfleoedd rhwydweithio y tu hwnt i'w Sefydliad Ymchwil lletyol. Anogir myfyrwyr i ymuno â gweithgorau Partneriaeth Ymchwil Methodoleg Treialon perthnasol, lle byddant yn cwrdd â myfyrwyr PhD eraill, ymchwilwyr ôl-ddoethurol ac uwch aelodau o staff academaidd sy’n ymwneud â themâu ymchwil perthnasol a chyflenwol. Yn ogystal â rhaglen hyfforddi ‘graidd’ strwythuredig, rydym yn gallu cynnig amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddi mwy penodol y gall myfyrwyr ddewis ymgymryd â nhw ar ôl ymgynghori â'u goruchwylwyr.

Aelodau

  • Prifysgol Aberdeen
  • Prifysgol Bangor
  • Prifysgol Birmingham
  • Prifysgol Caergrawnt
  • Prifysgol Glasgow
  • Sefydliad Ymchwil Canser
  • Prifysgol Leeds
  • Prifysgol Lerpwl
  • Prifysgol Newcastle
  • Prifysgol Plymouth
  • Prifysgol Queen Mary, Llundain
  • Coleg Prifysgol Llundain

Cyfleoedd Ysgoloriaeth PhD ar gyfer mynediad yn 2026

Mae ceisiadau nawr ar agor ar gyfer Hydref 2025. Y dyddiad cau i gyflwyno cais yw 12 Ionawr 2026.

Projectau sydd ar gael gan Brifysgol Bangor:

Cyn gwneud cais, dylai ymgeiswyr gysylltu â goruchwyliwr y project i ddysgu mwy am y project ac i drafod eu diddordebau yn yr ymchwil cyn 2 Ionawr 2026.

Mae’r ffurflen gais ar gael ar-lein yn: https://mrctmrpdtp.com/current-opportunities/

Dylech lenwi’r ffurflen i gyd. Ni fydd ffurflenni anghyflawn yn cael eu hystyried. Ni fydd CVs yn cael eu derbyn ar gyfer y cynllun hwn. Nodwch eich dewis cyntaf o broject wrth wneud eich cais. Gallwch ddarparu manylion hyd at ddau broject Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Ymchwil Methodoleg Treialon arall y gallai fod o ddiddordeb i chi (yn unrhyw un o’r Prifysgolion partner) yn adran B y ffurflen gais.

Rhaid dychwelyd ffurflenni cais wedi'u cwblhau at: enquiries@methodologyhubs.mrc.ac.uk. Y dyddiad cau i gyflwyno cais yw hanner dydd (GMT), 12 Ionawr 2026. Ni chaiff ceisiadau hwyr eu hystyried.

Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Ymchwil Methodoleg Treialon

Bwrsariaeth 'Leverhulme Trade Charities Trust'

Mwy o wybodaeth ar gael yma

FindaMasters.com Ysgoloriaeth

Mae FindaMasters.com yn cynnig ysgoloriaeth ar gael ym mhob pwnc mewn unrhyw brifysgol sydd wedi rhestru ar FindaMasters.com. Cofrestrwch yma.

FindaPhD.com Ysgoloriaeth

Mae FindaPhD.com yn cynnig ysgoloriaeth ar gael ym mhob pwnc mewn unrhyw brifysgol sydd wedi rhestru ar FindaPhD.com. Cofrestrwch yma.

Ymholiadau am Astudio Ol-radd ym Mangor

Cyrsiau Wedi'u Hariannu

Mae nifer o gyfleoedd ariannu ar gael. Cysylltwch â'r ysgol academaidd i wybod mwy am y cyllid sydd ar gael.

Cofiwch bod rhai ysgolion academaidd hefyd yn cynnig ysgloriaethau a bwrsariaethau i gefnogi eu pynciau. Ewch i'r dudalen ar ysgoloriaethau a bwrsariaethau neu dudalennau'r ysgolion academaidd i gael mwy o wybodaeth.

Ysgoloriaethau a Gwaddoliadau

Benthyciadau

Arweiniad Amgen Ar-lein at Gyllid Ôl-radd

Mae'r Arweiniad Amgen Ar-lein at Gyllid Ôl-radd yn ymwneud â ffynonellau amgen o gyllid - yn enwedig elusennau - a all ddyfarnu cyllid (ffioedd, cynhaliaeth, costau ymchwil) i unrhyw fyfyriwr, beth bynnag a fo ei (d)dinasyddiaeth. 

Mae'r Arweiniad Amgen Ar-lein â chronfa ddata enfawr o gyfleoedd i gael cyllid, arweiniad cynhwysfawr ac offer niferus i'ch helpu i baratoi cais sy'n mynd i ennill grant ichi. I gynorthwyo ein myfyrwyr, mae Prifysgol Bangor wedi prynu trwydded ar gyfer yr Arweiniad, fel ei fod am ddim i holl fyfyrwyr a staff Bangor ei ddefnyddio! Mewngofnodwch Yn Awr! 

Os ydych yn ddarpar-fyfyriwr ac wedi gwneud cais i ddod i Brifysgol Bangor, anfonwch e-bost er mwyn cael PIN mynediad.

PostgraduateStudentships.co.uk

  • Gwefan yw PostgraduateStudentships.co.uk sy'n dod â'r holl wahanol fathau o gyllid sydd ar gael i ddarpar ôlraddedigion at ei gilydd mewn un lle. Felly, gellwch weld beth sydd ar gael o ffynonellau cyffredinol, yn ogystal â chyfleoedd a chyllid o'r brifysgol ei hun.

Bwrsariaeth Postgrad Solutions

Mae Postgrad Solutions Cyf yn cynnig tri-ar-ddeg Bwrsariaeth ôl-radd, werth £500 yr un. Mwy o wybodaeth...

Addysg

Mae'r Cynllun Cymhelliant Addysg Gychwynnol Athrawon ar gyfer Pynciau â Blaenoriaeth yn gynllun cyfreithiol a wnaed gan Weinidogion Cymru. Mae'r cynllun yn gwneud darpariaeth ar gyfer myfyrwyr cymwys sy'n ymgymryd â rhaglen AGA ôl-raddedig mewn pynciau penodedig (pynciau â blaenoriaeth) fel eu bod yn cael manteisio ar y cymhelliant hwn. O dan y cynllun hwn, mae grant cymhelliant o £15,000 ar gael i bob myfyriwr sy’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd. I fod yn gymwys i gael grant AGA ar gyfer pynciau â blaenoriaeth, rhaid i unigolyn fod â gradd 2.2 neu’n uwch, ac mai un o’r pynciau canlynol yw’r unig bwnc y mae’n ei astudio neu mai un o’r rhain y mae’n ei astudio’n bennaf:

  • Bioleg
  • Cemeg
  • Cymraeg
  • Dylunio a Thechnoleg
  • Ffiseg
  • Ieithoedd Tramor Modern
  • Mathemateg
  • Technoleg Gwybodaeth

Mwy o wybodaeth

Mae Cynllun Cymhelliant Iaith Athrawon Yfory yn gymhelliant a delir i bobl gymwys sy'n cwblhau rhaglen AGA ôl-raddedig achrededig yng Nghymru sy'n eu galluogi i ddysgu trwy gyfrwng Cymraeg neu ddysgu Cymraeg fel pwnc.

Cyfanswm o £5000 ar gyfer athrawon dan hyfforddiant cymwys mewn dau randaliad:

i. £2,500 i bobl gymwys ar ôl cwblhau rhaglen AGA ôl-raddedig gymwys yng Nghymru sy'n arwain at SAC;

ii. £2,500 i bobl gymwys ar ôl cwblhau'r cyfnod sefydlu yn llwyddiannus mewn ysgol uwchradd Gymraeg neu ddwyieithog neu ddysgu Cymraeg mewn unrhyw leoliad uwchradd yng Nghymru.

Manylion llawn

Busnes

dim

Cerddoriaeth

dim

Cyfryngau

dim

Cyfrifiadureg a Pheirianneg

dim

Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer

Fel adran ymchwil sydd ymysg y 5 uchaf yn y Deyrnas Unedig, sy’n cael ei chydnabod yn rhyngwladol gyda'r gorau yn y byd (REF 2021), rydym yn awyddus iawn i wobrwyo rhagoriaeth ymchwil. Rydym yn hynod falch o gynnig gwobr ariannol i un myfyriwr Ymchwil Ôl-radd llwyddiannus tuag at gyflwyno eu project ymchwil mewn cynhadledd academaidd o'u dewis. 

Mae'r wobr yn cynnig hyd at £500 i un myfyriwr ôl-radd yn yr Adran Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff i gyflwyno ymchwil mewn cynhadledd academaidd o'i ddewis. I gael eu hystyried ar gyfer y wobr, rhaid i ymgeiswyr gyflwyno eu gwaith yng Nghynhadledd Flynyddol yr Ysgol Seicoleg a Gwyddorau Chwaraeon. Caiff y wobr ei chyflwyno i'r ymchwilydd llwyddiannus ar ôl i'r Gynhadledd ddod i ben. Mae'r wobr yn cynnwys cefnogaeth ariannol (hyd at £500) i gofrestru gyda'r gynhadledd, hedfan, llety a chynhaliaeth.

Yr Athro Howell yw’r rhoddwr, athro ym Mhrifysgol San Francisco (USF) ers 1997.  Ef oedd yr athro llawn amser cyntaf i’w gyflogi gan raglen Meistr Rheoli Chwaraeon a bu’n dysgu ar nifer o gyrsiau sy'n canolbwyntio ar y cyswllt rhwng chwaraeon, diwylliant a masnach. Ar ôl graddio ym Mangor ym 1981 mewn Addysg Gorfforol/Astudiaethau Addysgol, enillodd MSc ym Mhrifysgol Washington, Seattle a PhD ym Mhrifysgol Illinois yn Urbana-Champaign, 1985-1989. Yn 2015, dyfarnwyd Cymrodoriaeth Anrhydeddus i'r Athro Howell ym Mhrifysgol Bangor am ei wasanaethau i Wyddorau Chwaraeon.

* efallai na fydd y gwobrau a nodir â seren ar gael bob blwyddyn
Os oes gennych gwestiynau am y wobr, cysylltwch â Chyfarwyddwr Ymchwil Ôl-radd yr Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon
 
Dyddiad Cau: 01/07/2026

Dyddiad dechrau: Hydref 2026

Dyddiad cau ceisiadau: 01/07/2026 (gall gau'n gynharach os dewisir ymgeisydd llwyddiannus) 

Hyd: 3 blynedd Llawn Amser

Ymholiadau anffurfiol: Yr Athro Jamie Macdonald (j.h.macdonald@bangor.ac.uk)

Disgrifiad

Mae methiant y galon gyda ffracsiwn alldaflu cadwedig (HFpEF) a chlefyd cronig yr arennau (CKD) yn aml yn digwydd gyda'i gilydd oherwydd ffactorau risg cyffredin fel pwysedd gwaed uchel, diabetes a heneiddio. Mae'r cyfuniad hwn, a elwir yn glefyd cardio-arennol, yn arwain at ganlyniadau gwaeth i gleifion. 

Mae HFpEF yn cyfrif am tua hanner yr holl achosion o fethiant y galon ac mae'n cynyddu'n fyd-eang, yn enwedig ymhlith oedolion hŷn â CKD. Yn aml, mae pobl sydd â'r ddau gyflwr yn profi diffyg anadl, blinder, chwyddo, a goddefgarwch gwael gydag ymarfer corff. Mae'r problemau hyn yn cynyddu nifer y bobl sy'n mynd i'r ysbyty, costau gofal iechyd, y risg o fethiant yr arennau, a marwolaethau. Mewn cleifion dialysis, methiant y galon yw prif achos marwolaeth. 

Mae triniaeth yn heriol oherwydd bod meddyginiaethau diogel yn gyfyngedig, ac mae newidiadau i ffordd o fyw yn anodd eu rhoi ar waith. Mae'r rhan fwyaf o astudiaethau HFpEF yn eithrio cleifion CKD, ac i'r gwrthwyneb, felly nid yw effeithiolrwydd rhaglenni ffordd o fyw i bobl â'r ddau gyflwr yn hysbys. Mae adferiad cardiaidd yn gyffredin, ond mae adferiad yr arennau yn brin, ac yn aml mae cleifion HFpEF yn cael eu heithrio.  

Pwrpas y PhD hwn fydd cyd-ddylunio a gwerthuso ymyrraeth ffordd o fyw ymarfer corff i bobl sy'n byw gyda HFpEF a CKD. Mae gan y rhaglen bedwar amcan: 

  1. i) cwblhau adolygiad llenyddiaeth ar adferiad cardiaidd ac adferiad arennol i arwain dylunio ymyriadau ymarfer corff i bobl sy'n byw gyda HFpEF a CKD
  2. ii) cwblhau dadansoddiad adnoddau mewn nifer o ganolfannau Uned Ymchwil Arennol Cymru (WKRU) a Rhwydwaith Ymchwil Cardiofasgwlaidd Cenedlaethol Cymru (NCRN) i bennu nifer yr achosion lleol o HFpEF a CKD, llwybrau cleifion cyfredol, ac opsiynau adferiad

iii) cyd-ddatblygu (gyda chleifion a staff clinigol) ymyrraeth adferiad corfforol i bobl sy'n byw gyda HFpEF a CKD

  1. iv) cwblhau astudiaeth prawf o gysyniad i werthuso hyfywedd ac effeithiolrwydd yr ymyrraeth adferiad a gynllunnir ar y cyd.   

Bydd y myfyriwr yn cael ei gyd-oruchwylio gan dîm amlddisgyblaethol o wyddonwyr chwaraeon ac ymarfer corff, staff clinigol, entrepreneuriaid a gwyddonwyr data. Bydd y myfyriwr yn datblygu methodolegau meintiol ac ansoddol. Byddant yn cael eu gwahodd i fynychu Ysgol Hyfforddiant Doethurol Prifysgol Bangorhttps://www.bangor.ac.uk/ds} a modiwl Uwch Sgiliau Ymchwil yr Adran Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff {https://www.bangor.ac.uk/courses/postgraduate-modules/JXH-4403}.  Gallai datblygu sgiliau caled gynnwys technegau ffisiolegol uwchsain cardiofasgwlaidd a gweithgaredd nerfau sympathetig cyhyrau, a dadansoddi data uwch (R, Python, deallusrwydd artiffisial). Gallai datblygu sgiliau meddal gynnwys gweithdai cyd-ddylunio, technegau newid ymddygiad, a dylunio treialon clinigol. Bydd y myfyriwr yn rhwydweithio o fewn WKRUNCRN Cymru, Grŵp Gweithgaredd Corfforol, Llesiant ac Adferiad y Deyrnas Unedig, y Rhwydwaith Ymarfer Corff Arennol Byd-eang, a Sefydliad Gweithgaredd Corfforol, Iechyd a Chwaraeon Cymru.  

Cyllid

Mae'r ysgoloriaeth hon yn talu cost lawn ffioedd dysgu a lwfans blynyddol ar gyfradd UKRI (£20,780 ar hyn o bryd ar gyfer 2025/26). Mae'r PhD hwn ar agor i fyfyrwyr y Deyrnas Unedig, yr Undeb Ewropeaidd a myfyrwyr rhyngwladol ond dim ond i ymgeiswyr sy'n gymwys am ffioedd cartref yn y Deyrnas Unedig y gwarantir talu ffioedd.

Gofynion

Dylai ymgeiswyr feddu ar radd israddedig neu radd meistr berthnasol, gallu gweithio'n broffesiynol mewn lleoliadau clinigol, gallu dysgu asesiadau canlyniadau ffisioleg uwch a thechnegau dadansoddi data, ac yn gymwysedig mewn goruchwylio ymarfer corff (neu fod yn barod i ymgymryd â hyfforddiant pellach).

Mae'r PhD hwn ar agor i fyfyrwyr y Deyrnas Unedig, yr Undeb Ewropeaidd a myfyrwyr rhyngwladol ond dim ond i ymgeiswyr o'r Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd y gwarantir talu ffioedd, a rhaid dangos tystiolaeth o sgôr IELTS (Academaidd) o 6.5 o leiaf (gyda 6.0 o leiaf ym mhob cydran, neu gyfwerth) ar gyfer ymgeiswyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ar adeg y cais.

Mae'r gallu i deithio rhwng canolfannau ledled Cymru hefyd yn ofynnol.

Amdanom Ni

Mae WKRU/UYAC (Uned Ymchwil Arennol Cymru/Wales Kidney Research Unit) yn bartneriaeth rhwng Prifysgolion Caerdydd, Bangor ac Abertawe. Rydym yn cael ein hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac maent yn rhan o'i isadeiledd ymchwil craidd sy'n cyflawni strategaeth Cymru gyfan ar gyfer astudio diagnosis, iechyd ataliol, triniaeth a chyd-destun cymdeithasol clefydau'r arennau.

Ceisiadau

Rhaid cyflwyno pob cais trwy ein system ymgeisio ar-lein: https://apps.bangor.ac.uk/applicant/.

Yn eich cais, cofiwch gynnwys llythyr eglurhaol yn egluro eich cymhelliant dros wneud cais am yr efrydiaeth hon, CV cyfredol, Cynnig Ymchwil yn amlinellu eich syniadau ar gyfer y project, a dau eirda.

Gwyddorau Eigion

dim

Gwyddorau Iechyd

Gwyddorau Meddygol

dim

Gwyddorau Naturiol

Mae Ysgol Gwyddorau Amgylchedd a Naturiol ym Mhrifysgol Bangor yn falch iawn o gynnig ysgoloriaeth llawn yn Llwybr Cynllunio Amgylcheddol yr Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol ESRC) a fydd yn dechrau ym mis Hydref 2025, a sy'n agored i ymgeiswyr o’r DU a rhyngwladol.

Dyddiad cau: 12 hanner dydd 5ed Mai 2025 (Amser y DU).

Disgrifiad o'r prosiect: Mae coedwig law dymherus yn gynefin prin yn fyd-eang, a gynrychiolir yng Nghymru gan weddillion ynysig o'r "goedwig law Geltaidd". Mae'n gyfoethog o rywogaethau ac yn storio carbon sylweddol. Mae prosiect arloesol a ariennir gan garbon dan arweiniad yr Ymddiriedolaethau Natur, mewn partneriaeth ag Aviva, yn anelu at adfer y cynefin hwn er budd bioamrywiaeth ac atafaelu carbon, tra'n gweithio'n agos gyda chymunedau lleol.

Mae'r Ymddiriedolaethau Natur yn bwriadu bod eu prosiect yn gweithredu fel esiampl o "atebion sy'n seiliedig ar natur i newid yn yr hinsawdd", ac i ddylanwadu ar reolwyr tir eraill i gynyddu gorchudd coed. Fodd bynnag, mae llawer o ffermwyr yn amheus o ehangu gorchudd coed ac mae pryderon am yr effeithiau posibl ar gymunedau lleol a threftadaeth ddiwylliannol o'r newid yn y defnydd tir a lleihau cynhyrchu amaethyddol. O ganlyniad, mae dadleuon wedi ymwneud â phrosiectau adfer tirwedd a gwerthiadau tir amaethyddol ar gyfer coedwigaeth i wrthbwyso carbon. Felly, bydd trawsnewidiad cyfiawn i sero net yn wynebu heriau, ar gyfer cyfiawnder gweithdrefnol a dosbarthol. Yn ychwanegol, mae gwahanol rhanddeiliaid yn deall yr uchelgais ar gyfer sero net mewn gwahanol ffyrdd. Mae yna tensiynau rhwng buddiannau a dewisiadau tirfeddianwyr preifat, cymunedau lleol a chymdeithas genedlaethol neu fyd-eang. Byddwn yn defnyddio'r prosiect hwn fel enghraifft i ddeall y tensiynau hyn yn well, a sut y gellir eu lliniaru neu eu cyfryngu trwy ddylunio, llywodraethu a chyfathrebu prosiect. Bydd y PhD yn cyfrannu at ddadleuon am lywodraethu amgylcheddol a chyfiawnder yng nghyd-destun heriau byd-eang C21st.

Nod y PhD hwn yw gwerthuso adferiad goedwig law Geltaidd gan y yr Ymddiriedolaeth Natur, fel model ar gyfer coedwigo ac adfer cynefinoedd ehangach ar draws ucheldiroedd y DU, mewn modd sy'n cael ei gofleidio gan gymunedau gwledig. Gallai cwestiynau ymchwil gynnwys: "Beth yw costau a manteision adfer cynefinoedd o safbwyntiau cyhoeddus a phreifat, a yw'n hyfyw yn ariannol ac yn economaidd, o ystyried gwahanol senarios polisi?", "Gan ddefnyddio mewnwelediadau o'r llenyddiaeth newid ymddygiad, sut y gellir cyfathrebu'r wybodaeth hon i randdeiliaid?", "Pa fodelau llywodraethu yn caniatáu ymgorffori dewisiadau rhanddeiliaid lleol a chenedlaethol mewn prosiectau adfer cynefinoedd ar dir preifat, er mwyn galluogi trafodaeth ar wahanol werthoedd a dewisiadau a chefnogi rheolaeth deg?"

Mae'r ysgoloriaeth hon a ariennir yn llawn yn rhan o Ysgol Graddedigion Cymru ESRC ar gyfer y Gwyddorau Cymdeithasol ac mae'n gydweithrediad rhwng Prifysgol Bangor a'r Ymddiriedolaethau Natur. Bydd y myfyriwr wedi'i leoli yng Ngrŵp Ymchwil Gwyddor Cadwraeth ffyniannus Bangor, sy'n rhan o'r Thema Ymchwil Cadwraeth ac Adfer Ecosystemau Gwydn. Bydd y prosiect yn cael ei gynnal mewn cydweithrediad agos â'r Ymddiriedolaethau Natur ar draws eu safleoedd coedwigoedd glaw Celtaidd.

Goruchwylwyr:

1) Dr Sophie Wynne-Jones s.wynne-jones@bangor.ac.uk

2) Yr Athro Julia Jones julia.jones@bangor.ac.uk

3) Dr Neal Hockley n.hockley@bangor.ac.uk   

4) Dr Ruth Swetnam rswetnam@wildlifetrusts.org

Dyddiad dechrau’r PhD: 1af Hydref 2025

Meini Prawf Hanfodol:

  • Gradd anrhydedd ar lefel dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch, neu radd meistr (neu gyfwerth, mae croeso i fyfyrwyr sydd â chefndir academaidd anhraddodiadol hefyd wneud cais).
  • Gallu a chwilfrydedd deallusol cryf
  • Sgiliau rheoli prosiectau rhagorol, gallu i gymryd y fenter.
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol mewn Saesneg ysgrifenedig a llafar.
  • Gwydnwch, parodrwydd i ddatrys problemau a gweithio'n annibynnol.
  • Y gallu i weithio mewn prosiect sy'n cynnwys gwahanol randdeiliaid, diwylliannau ac ieithoedd a pharodrwydd i gyfrannu at ymdrech ymchwil cydweithredol.

Meini prawf dymunol:

  • Y gallu i siarad Cymraeg
  • Profiad o gynnal ymchwil gymdeithasol a gwaith maes mewn ardaloedd gwledig y DU.
  • Gwybodaeth am ddadansoddiad ystadegol R.

Lleoliad: Lleolir y swydd ym Mhrifysgol Bangor, y DU, gyda pheth amser yn gweithio gyda phartneriaid yn yr Ymddiriedolaethau Natur, a bydd yn cynnwys gwaith maes yng Nghymru (ac o bosibl ar safleoedd yn Lloegr a'r Alban). Ni ellir ei wneud o bell.

Hyd yr astudiaeth: Mae hyd yr astudiaeth yn amrywio o 3.5 i 4.5 blynedd amser llawn (neu’r hyn sy’n gyfwerth iddi yn rhan-amser). Mae hyd yr astudiaeth yn dibynnu ar brofiad ymchwilio blaenorol ac anghenion hyfforddi'r myfyriwr a asesir drwy gwblhau Dadansoddiad o’r Anghenion Datblygu. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau am astudio’n amser llawn ac yn rhan-amser.   

Lleoliad ymarfer wrth ymchwilio: Bydd gofyn i bob myfyriwr a ariennir gan yr WGSSS gwblhau lleoliad Ymarfer wrth Ymchwilio a ariennir am gyfanswm o 3 mis (neu’r hyn sy’n gyfwerth iddo yn rhan-amser). Bydd pob myfyriwr yn cael y cyfle i gwblhau lleoliad mewn sefydliad academaidd, polisi, busnes neu gymdeithas sifil.    

Gofynion rhyngwladol ynghylch bod yn gymwys:Mae ysgoloriaethau ymchwil yr WGSSS ar gael i fyfyrwyr y DU a myfyrwyr rhyngwladol. Caiff hyd at 30% o'n carfan gynnwys myfyrwyr rhyngwladol. Ni chodir y gwahaniaeth rhwng ffi y DU a'r ffi ryngwladol ar fyfyrwyr rhyngwladol. Dylai ymgeiswyr fodloni gofynion UKRI o ran bod yn gymwys.     

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant: Mae’r WGSSS wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu diwylliant sy’n cynnwys pawb. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bob aelod o'r gymuned fyd-eang waeth beth fo'u hoedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.    

Asesiad: Bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd i gyfweld. Fel rhan o'r broses gyfweld, gofynnir i ymgeiswyr baratoi cyflwyniad byr ar dasg (a fydd yn cael ei gyfathrebu gyda'r hysbysiad o gyfweliad, heb fod yn hwyrach na 9 Mai) ac ateb cyfres o gwestiynau panel. Cynhelir y rhan fwyaf o'r cyfweliad yn Saesneg ond bydd o leiaf un o'r panel yn siarad Cymraeg.

Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 12 Mai.

Sut i wneud cais:

Dylid derbyn ceisiadau (yn Saesneg) erbyn 12 hanner dydd 5 Mai 2025 gan gynnwys yr holl ddogfennau gofynnol. Oherwydd nifer y ceisiadau a ddaw i law, ni fydd ceisiadau anghyflawn yn cael eu hystyried.

 Dylid cyflwyno pob cais drwy e-bost i s.wynne-jones@bangor.ac.uk gan copïo envirowgsss@bangor.ac.uk. Rhowch eich e-bost y llinell bwnc “WGSS collaborative PhD application (Celtic Rainforest)”

Cynhwyswch y dogfennau canlynol gyda'ch cais:

  • Cofiwch gynnwys y dogfennau canlynol yn eich cais:   
  • Ffurflen Gais yr WGSSS 
  • CV academaidd (dim mwy na dwy dudalen). 
  • Dau eirda academaidd neu broffesiynol (mae’n rhaid i ymgeiswyr gysylltu â chanolwyr a chynnwys y geirdaon yn eu cais. Mae’n rhaid i'r geirdaon fanylu ar gryfderau ymchwil yr ymgeisydd. 
  • Tystysgrifau a thrawsgrifiadau gradd (gan gynnwys cyfieithiadau os yw'n berthnasol)   
  • Os yw'n berthnasol, prawf o Gymhwysedd yn y Saesneg (gweler gofynion mynediad y sefydliad)  

Cyllid:    Mae ysgoloriaethau ymchwil a ariennir gan yr ESRC yn talu ffioedd dysgu, cyflog byw di  dreth blynyddol yn unol ag isafswm cyfraddau UKRI (£20,780 ar hyn o bryd) ac mae'n cynnwys mynediad at Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil.     

Os oes gennych chi anabledd, efallai y bydd gennych chi hawl i Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA) ar ben eich ysgoloriaeth ymchwil.    

Mae Ysgol Gwyddorau Amgylchedd a Naturiol ym Mhrifysgol Bangor yn falch iawn o gynnig ysgoloriaeth llawn yn Llwybr Cynllunio Amgylcheddol yr Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol ESRC) a fydd yn dechrau ym mis Hydref 2025, a sy'n agored i ymgeiswyr o’r DU a rhyngwladol.

Dyddiad cau: 12 hanner dydd 5ed Mai 2025 (Amser y DU).

Disgrifiad o'r prosiect: Environmentally driven migration will pose an increasing challenge throughout the 21st Century and will contribute to further environmental change, as migrants move in search of resources, often drawn to forest frontier areas with high value for biodiversity and ecosystem services. However, rural-rural migration is poorly studied compared to migration to cities and the mechanisms by which migrants impact natural habitats are poorly understood. Madagascar has suffered severe droughts linked to climate change, leading to significant internal migration, reaching almost every part of the island. This puts additional pressures on protected areas and on the communities who rely on their natural resources. Mangabe Protected Area in eastern Madagascar is managed by the Malagasy conservation NGO Madagasikara Voakajy and supported by Chester Zoo’s Global Conservation Programme. Together, they have identified immigration as one of their most serious challenges. Therefore, working with partners, the successful applicant will use Mangabe as a model system to explore some of the key questions in rural-rural migration, contributing to both protected area management and theoretical debates.

The PhD will involve periods of field work in Madagascar. Data collection methods are likely to include quantitative methods, including surveys with immigrants and longer-term residents, choice experiments or experimental games and social network analysis, as well as qualitative approaches including focus groups and semi-structured interviews.

Goruchwylwyr

Dr Neal Hockley n.hockley@bangor.ac.uk   

Yr Athro Julia Jones julia.jones@bangor.ac.uk

Dr Freya St John f.stjohn@bangor.ac.uk

Bridget Johnson b.johnson@chesterzoo.org

Mae'r ysgoloriaeth hon a ariennir yn llawn yn rhan o Ysgol Graddedigion Cymru ESRC ar gyfer y Gwyddorau Cymdeithasol ac mae'n gydweithrediad rhwng Prifysgol BangorSw Caer Madagasikara Voakajy a labordy ymchwil Mitsilo. Bydd y myfyriwr wedi'i leoli yng Ngrŵp Ymchwil Gwyddor Cadwraeth ffyniannus Bangor, sy'n rhan o'r Thema Ymchwil Cadwraeth ac Adfer Ecosystemau Gwydn.

Dyddiad dechrau’r PhD: 1af Hydref 2025

Meini Prawf Hanfodol

  • Gradd anrhydedd ar lefel dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch, neu radd meistr (neu gyfwerth, mae croeso i fyfyrwyr sydd â chefndir academaidd anhraddodiadol hefyd wneud cais).
  • Gallu a chwilfrydedd deallusol cryf
  • Sgiliau rheoli prosiectau rhagorol, gallu i gymryd y fenter.
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol mewn Saesneg ysgrifenedig a llafar.
  • Gwydnwch, parodrwydd i ddatrys problemau a gweithio'n annibynnol.
  • Y gallu i weithio ar draws diwylliannau ac ieithoedd a chyfrannu at gydweithrediad ymdrech ymchwil ryngwladol.

Meini prawf dymunol

  • Y gallu i siarad Malagasy a/neu Ffrangeg
  • Profiad o gynnal ymchwil gymdeithasol a gwaith maes mewn ardaloedd gwledig.
  • Gwybodaeth am ddadansoddiad ystadegol R.

Lleoliad: Lleolir y swydd ym Mhrifysgol Bangor, y DU, gyda pheth amser yn gweithio gyda phartneriaid yn Sw Caer, a bydd yn cynnwys gwaith maes ym Madagascar. Ni ellir ei wneud o bell.

Hyd yr astudiaeth:   

Mae hyd yr astudiaeth yn amrywio o 3.5 i 4.5 blynedd amser llawn (neu’r hyn sy’n gyfwerth iddi yn rhan-amser).     Mae hyd yr astudiaeth yn dibynnu ar brofiad ymchwilio blaenorol ac anghenion hyfforddi'r myfyriwr a asesir drwy gwblhau Dadansoddiad o’r Anghenion Datblygu. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau am astudio’n amser llawn ac yn rhan-amser.   

Lleoliad ymarfer wrth ymchwilio:   Bydd gofyn i bob myfyriwr a ariennir gan yr WGSSS gwblhau lleoliad Ymarfer wrth Ymchwilio a ariennir am gyfanswm o 3 mis (neu’r hyn sy’n gyfwerth iddo yn rhan-amser). Bydd pob myfyriwr yn cael y cyfle i gwblhau lleoliad mewn sefydliad academaidd, polisi, busnes neu gymdeithas sifil.    

Myfyrwyr rhyngwladol:   

Mae ysgoloriaethau ymchwil yr WGSSS ar gael i fyfyrwyr y DU a myfyrwyr rhyngwladol. Caiff hyd at 30% o'n carfan gynnwys myfyrwyr rhyngwladol. Ni chodir y gwahaniaeth rhwng ffi y DU a'r ffi ryngwladol ar fyfyrwyr rhyngwladol. Dylai ymgeiswyr fodloni gofynion UKRI o ran bod yn gymwys.     

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant: 

Mae’r WGSSS wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu diwylliant sy’n cynnwys pawb. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bob aelod o'r gymuned fyd-eang waeth beth fo'u hoedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.    

Asesiad:

Bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd i gyfweld. Fel rhan o'r broses gyfweld, gofynnir i ymgeiswyr baratoi cyflwyniad byr ar dasg (a fydd yn cael ei gyfathrebu gyda'r hysbysiad o gyfweliad, heb fod yn hwyrach na 9 Mai) ac ateb cyfres o gwestiynau panel. Cynhelir y rhan fwyaf o'r cyfweliad yn Saesneg ond bydd o leiaf un o'r panel yn siarad Cymraeg.

Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 12 Mai.

Sut i wneud cais:

Dylid derbyn ceisiadau (yn Saesneg) erbyn 12 hanner dydd 5 Mai 2025 gan gynnwys yr holl ddogfennau gofynnol. Oherwydd nifer y ceisiadau a ddaw i law, ni fydd ceisiadau anghyflawn yn cael eu hystyried. Dylid cyflwyno pob cais drwy e-bost i n.hockley@bangor.ac.uk gan copïo envirowgsss@bangor.ac.uk. Rhowch eich e-bost y llinell bwnc “WGSS Madagascar collaborative PhD application”

Cynhwyswch y dogfennau canlynol (yn Saesneg) gyda'ch cais:

  • Ffurflen Gais yr WGSSS
  • CV academaidd (dim mwy na dwy dudalen). 
  • Dau eirda academaidd neu broffesiynol (mae’n rhaid i ymgeiswyr gysylltu â chanolwyr a chynnwys y geirdaon yn eu cais. Mae’n rhaid i'r geirdaon fanylu ar gryfderau ymchwil yr ymgeisydd).
  • Tystysgrifau a thrawsgrifiadau gradd (gan gynnwys cyfieithiadau os yw'n berthnasol)   
  • Os yw'n berthnasol, prawf o Gymhwysedd yn y Saesneg (gweler gofynion mynediad y sefydliad)  

Cyllid:    

Mae ysgoloriaethau ymchwil a ariennir gan yr ESRC yn talu ffioedd dysgu, cyflog byw di-dreth blynyddol yn unol ag isafswm cyfraddau UKRI (£20,780 ar hyn o bryd) ac mae'n cynnwys mynediad at Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil.     

Os oes gennych chi anabledd, efallai y bydd gennych chi hawl i Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA) ar ben eich ysgoloriaeth ymchwil.    

Hanes, Treftadaeth ac Archaeoleg

dim

Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau

Mae’n bleser gan Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau Prifysgol Bangor gynnig efrydiaeth pedair blynedd wedi'i hariannu'n llawn. Mae'r efrydiaeth yn rhan o brosiect Lles, a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC), a fydd yn ariannu 28 o efrydiaethau ar draws prifysgolion Cymru. Bydd yr efrydiaeth hon yn dechrau ym mis Hydref 2026.

Trosolwg

Bydd yr Efrydiaeth Ddoethurol hon yn cefnogi project ymchwil creadigol ym maes barddoniaeth ecolegol sy'n integreiddio ymarfer ysgrifennu unigol â methodolegau cyfranogol, cymunedol i archwilio dimensiynau cyfunol lle. Mae'n cynnig cyfle cyffrous i siapio ymchwil ym maes ysgrifennu creadigol drwy roi lle blaenllaw i agweddau cymdeithasol trawsnewidiol ymarfer creadigol.

Er bod lles yn aml yn cael ei ddychmygu fel cyflwr preifat, mewnol neu seicolegol, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru yn cynnig cysyniad mwy eang, gan ei fframio fel un sydd wedi'i siapio gan ffactorau diwylliannol, materol, ecolegol a chymunedol a all gwmpasu profiadau cyfunol o dirwedd, adnoddau a rennir, stiwardiaeth amgylcheddol a gwytnwch cymunedol. Mae barddoniaeth ecolegol, fel maes rhyngddisgyblaethol sy'n dwyn ynghyd ysgrifennu creadigol a'r dyniaethau amgylcheddol, wedi dod yn gynyddol ymatebol i'r persbectif ehangach hwn.

Gyda ffocws canolog ar sut mae amgylcheddau naturiol penodol yng ngogledd Cymru yn cael eu profi a'u dehongli, bydd y project yn galluogi datblygu dulliau amrywiol, megis defnyddio cyfweliadau, teithiau cerdded, dulliau amlgyfrwng ac ymchwil rhyngddisgyblaethol i greu gwaith llenyddol sylweddol.

Ochr yn ochr â'r dimensiwn artistig hwn sy'n cael ei arwain gan ymarfer, bydd yr ymgeisydd yn ymgymryd ag archwiliad beirniadol parhaus o weithiau blaenorol sydd wedi galluogi ffyrdd newydd o ddeall lle, amgylchedd, a lles cymdeithasol ac ecolegol.

Byddai croeso cynnes i geisiadau sydd â diddordeb yn y ffordd y mae maes barddoniaeth ecolegol yn datblygu yn rhyngwladol ac yng Nghymru.

Gallai’r cwestiynau ymchwil posibl gynnwys y canlynol:

  • Sut gall arferion barddoniaeth ecolegol gyfrannu at ffurfiau cyfunol o ymgysylltu amgylcheddol?
  • Sut gall dulliau creadigol gefnogi cymunedau i fynegi profiadau a rennir o le?
  • Sut gall arferion ysgrifennu ystyried rolau actorion nad ydynt yn ddynol?
  • Sut gall gwaith creadigol ar y cyd lunio neu drawsnewid dealltwriaeth o les?
  • Pa ffurfiau newydd o farddoniaeth neu gelf gyfranogol sy'n dod i'r amlwg pan roddir meddwl ecolegol yng nghanol ymarfer creadigol?
  • Sut allai'r ffurfiau hyn ddylanwadu ar sgyrsiau diwylliannol ehangach am yr amgylchedd, cynaliadwyedd, a chyfrifoldeb i genedlaethau'r dyfodol?

Bydd y project yn cynnwys lleoliad o leiaf dri mis gyda Llenyddiaeth Cymru.

Tîm Goruchwylio

Athro Barddoniaeth ac Ysgrifennu Creadigol yw Zoë Skoulding, sef y prif oruchwyliwr, ac mae’n fardd a beirniad arobryn. Hi yw Gyd-gyfarwyddwr CAInC, Canolfan Cydweithredu Rhyngddisgyblaethol y Celfyddydau Creadigol Prifysgol Bangor, ac mae’n weithgar mewn rhwydweithiau rhyngwladol ym meysydd barddoniaeth, sain a pherfformiad mewn cyd-destun ecolegol.

Mae barddoniaeth y cyd-oruchwyliwr, Dr Fiona Cameron, yn ymgysylltu â barddoniaeth ecolegol arloesol, ac mae hi'n rhan o gydweithrediad traws-gelfyddyd barhaus sy'n archwilio amser dwfn mewn lleoliad chwe erw arwahanol ac yn canolbwyntio ar gysyniadau o ran graddfa, deiliadaeth ddynol, a bywyd an-ddynol.

Bydd gan Dave Chadwick, Athro Systemau Defnydd Tir Cynaliadwy, rôl gynghorol yn y tîm. Mae ganddo arbenigedd sydd gyda’r gorau yn y byd mewn arferion amaethyddol cynaliadwy, lliniaru allyriadau nwyon tŷ gwydr, lleihau'r risg o drosglwyddo llygryddion i gyrsiau dŵr, a deall effeithiau eilaidd lliniaru llygredd amaethyddol gwasgaredig.

Lles 

Consortiwm o holl brifysgolion Cymru yw Lles sy'n gweithio mewn partneriaeth â chyrff cyhoeddus a thrydydd sector Cymru. Bydd yn ariannu ac yn hyfforddi myfyrwyr PhD i ymchwilio i faterion sy'n ymwneud â lles drwy'r celfyddydau a'r dyniaethau. Ystyr Lles yw ‘budd’ neu ‘llesiant’. Mae ei ddefnydd yma yn nodi sut y bydd myfyrwyr Lles yn elwa o hyfforddiant a datblygiad gyrfa a sut y bydd eu hymchwil ar les er budd cymdeithas ehangach yng Nghymru a thu hwnt.

Mae Lles a'i efrydiaethau ymchwil yn cael eu harwain gan uchelgais, egwyddorion a gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn unigryw yn fyd-eang ac yn rhwymo cyrff cyhoeddus Cymru i osod amcanion a chymryd camau i wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru yn erbyn saith nod: ffyniant, gwytnwch, cydraddoldeb, iechyd, cymunedau cydlynol, diwylliant bywiog a'r Gymraeg, cyfrifoldeb byd-eang. Mae Lles yn ceisio defnyddio'r celfyddydau a'r dyniaethau i gyrraedd a deall y nodau hyn.

Bydd Lles yn ariannu 28 o ysgoloriaethau PhD dros 4 carfan. Bydd efrydiaethau Lles yn archwilio ac yn dangos sut y gall y celfyddydau a'r dyniaethau gyfrannu at blaned, pobl a lleoedd iach. Wrth wraidd y project mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Cynlluniwyd y ddeddfwriaeth unigryw hon i wella lles a chynaliadwyedd pobl a lleoedd yng Nghymru. Nod sylfaenol Lles yw gweithio gyda'r weledigaeth honno a'i datblygu. Bydd holl fyfyrwyr y project yn derbyn hyfforddiant pwrpasol a ddarperir mewn cydweithrediad â Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru ynglŷn â'r Ddeddf, ei phum ffordd o weithio a sut y gellir eu defnyddio mewn bywyd cyhoeddus a pholisi. Bydd pob myfyriwr Lles yn ymgymryd â lleoliad parhaus gyda chorff cyhoeddus yng Nghymru lle byddant yn datblygu eu profiadau ymchwil a chyflogaeth.

Lleoliad

Mae'n ofynnol i bob myfyriwr Lles ymgymryd â lleoliad sy'n para o leiaf dri mis.

Gweminar ymgeiswyr

Cynhelir gweminar i ymgeiswyr ar 3 Mawrth am 4pm. Bydd hwn yn gyfle i drafod project Lles a gofyn cwestiynau. I gofrestru ar gyfer y weminar, cwblhewch y ffurflen ganlynol https://app.onlinesurveys.jisc.ac.uk/s/swansea/lles-q-a

Meini Prawf Mynediad

I dderbyn cyllid efrydiaeth Lles, dylai bod gennych gymwysterau neu brofiad sy'n cyfateb i radd anrhydedd ar lefel dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch, neu radd meistr. Mae croeso hefyd i fyfyrwyr â chefndir academaidd anhraddodiadol wneud cais.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae Lles wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd gwaith cynhwysol i bawb. Rydym yn croesawu ceisiadau gan holl aelodau o’r gymuned fyd-eang, waeth beth fo’u hoedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.

Asesiad

Gwahoddir ymgeiswyr a roddir ar y rhestr fer am gyfweliad. Fel rhan o'r broses gyfweld, gofynnir i ymgeiswyr roi cyflwyniad byr ac ateb cyfres o gwestiynau panel. Gellir cynnal cyfweliadau yn y cnawd, ond byddant hefyd ar gael trwy Zoom/Teams i unrhyw ymgeisydd sy'n dymuno cymryd rhan yn y ffordd honno. Os gofynnir, gellir cynnal cyfweliadau yn y Gymraeg.

Sut i wneud cais

Dylid derbyn ceisiadau ddim hwyrach na 27 Mawrth 2026 gan gynnwys yr holl ddogfennau gofynnol. Oherwydd nifer y ceisiadau a dderbynnir, ni fydd ceisiadau anghyflawn yn cael eu hystyried.

Dylid cyflwyno pob cais drwy https://www.bangor.ac.uk/cy/study/postgraduate-research/apply

Dylech gynnwys y dogfennau canlynol gyda'ch cais:

  • CV - Gall hwn fod ar ffurf naratif, gan ddangos sut mae eich profiad bywyd, eich taith addysgol a/neu waith yn arddangos eich potensial
  • Datganiad yn amlinellu eich diddordeb yn y project hwn, eich syniadau ar ei gyfer a pham rydych yn addas ar ei gyfer (uchafswm o 2 dudalen)
  • Geirdaon academaidd neu broffesiynol (rhaid i ymgeiswyr gysylltu â’r canolwyr eu hunain a chynnwys geirdaon gyda'u cais. Rhaid i'r geirda fanylu ar gryfderau ymchwil yr ymgeisydd).
  • Tystysgrifau gradd a thrawsgrifiadau (gan gynnwys cyfieithiadau os yn berthnasol)
  • Os yw'n berthnasol, prawf o gymhwysedd iaith Saesneg (gweler gofynion mynediad y sefydliad)

Cyllid

Mae'r efrydiaeth a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau yn cynnwys ffioedd dysgu, cyflog byw di-dreth blynyddol yn unol ag isafswm cyfraddau UKRI (£21,805 ar hyn o bryd i fyfyrwyr llawn amser) ac mae'n cynnwys mynediad at grant cefnogi hyfforddiant ymchwil. Croesewir ceisiadau llawn amser a rhan amser. Os oes gennych anabledd, efallai y bydd gennych hawl i Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA) ar ben eich efrydiaeth.

Meddygaeth

dim

Seicoleg

dim

Y Gyfraith, Troseddeg a Gwyddorau Cymdeithas

dim

Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd

dim