Myfyrwyr yn siarad gydag Arweinwyr Cyfoed yn ystod Wythnos Groeso

Wythnos Groeso: Ysgol Addysg

Yr Athro Carl Hughes, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Addysg

Fy enw i yw Carl Hughes, a fi yw Pennaeth yr Ysgol. Hoffwn estyn croeso cynnes iawn i chi i’r Ysgol Gwyddorau Addysgol. 

 

Ein hangerdd yw rhoi i chi – y bobl sydd â’r potensial i wneud newidiadau cadarnhaol i’r dyfodol – y sgiliau a’r profiadau a fydd yn eich paratoi ar gyfer bywyd a gyrfa sy’n rhoi boddhad ac effaith. Rydym yn falch iawn o’ch croesawu i’n cymuned o fyfyrwyr a staff angerddol ac ymroddedig. Os mai’ch gweledigaeth bersonol chi, fel ni, yw gwneud y byd yn lle gwell i blant a phobl ifanc, rydyn ni yma i’ch helpu chi i gyflawni hynny. 

Byddwn yn gweithio gyda chi i'ch helpu i wneud y gorau o'ch doniau naturiol, eich gwerthoedd, a'ch breuddwydion. Gall profiad prifysgol fod yn un o adegau mwyaf rhyfeddol eich bywyd, ac rydym yma i'ch helpu ar y daith i ddod y gorau y gallwch fod. Fel rhan o gymuned ein Hysgol, byddwch yn gallu dilyn eich astudiaethau dan arweiniad ein staff cefnogol a gwybodus yn ogystal â meithrin perthynas â chyfoedion a fydd, gobeithio, yn para am oes.   

Bydd eich llais a'ch mewnbwn yn hanfodol i'n helpu i weithio fel tîm i wneud hyn. Un ffordd y gallwch chi wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eich amser yma, a dysgu sgiliau arwain allweddol, yw trwy ddod yn Gynrychiolydd Cwrs yn ystod eich amser yma. Rwy'n eich annog i feddwl am hyn a chyfleoedd eraill a ddarperir i ehangu eich profiad.  

Cofiwch fod y brifysgol yn fwy na'r cyrsiau a gymerwch. Mae hefyd yn cynnwys y bobl rydych chi’n cwrdd â nhw, y profiadau newydd a gewch chi, a’r ymdeimlad o ddatblygiad personol rwy’n gobeithio y byddwch chi’n ei deimlo wrth i chi symud ar eich taith bersonol i fod pwy rydych chi am fod yn y dyfodol. I lawer ohonoch mae dechrau yn y brifysgol yn ddechrau newydd – gwnewch y mwyaf o hyn a dewiswch fynd amdani. Mae bywyd yn ffafrio'r rhai sy'n gweithredu. Ymunwch â'r clwb! Gwnewch y ffrindiau! Gweithiwch yn galed a bydd pethau da yn digwydd! 

Edrychaf ymlaen at eich gweld i gyd yn bersonol yn fuan. Gobeithio y byddwch chi'n setlo i mewn yn gyflym ac yn dechrau mwynhau'ch amser yn y lle arbennig iawn hwn. Efallai eich bod chi'n gwybod bod llawer o'r staff wedi dechrau yma fel myfyrwyr ac wedi cwympo mewn cariad â Bangor a byth wedi gadael (gan gynnwys fi ;-)! 

Dymuniadau Gorau,

Carl

Athro a Phennaeth Ysgol

 

Rhaglen Groeso

Dewch o hyd i'ch amserlen trwy chwilio am eich grŵp pwnc neu deitl eich cwrs.

Arweinwyr Cyfoed ac Wythnos Groeso

Helo pawb a chroeso i'r Ysgol Gwyddorau Addysgol. 
 
Mae'r cynllun Arweinwyr Cyfoed yma i'ch helpu yn ystod eich amser ym Mangor, yn enwedig yn ystod wythnosau cyntaf eich cwrs gradd. Bwriad yr Wythnos Groeso, eich wythnos gyntaf ym Mangor, yw eich helpu i ymgartrefu cyn i ddarlithoedd ddechrau, felly gwnewch y gorau ohoni hyd yn oed os ydych eisoes yn byw yn lleol. Mae'n gyfle gwych i gwrdd â myfyrwyr newydd eraill a chael gwybod am eich cwrs newydd. 
 
Bydd Arweinwyr Cyfoed yr Ysgol Gwyddorau Addysgol yn cysylltu â chi ac ar gael trwy gydol yr Wythnos Groeso i helpu ateb eich cwestiynau am fod yn fyfyriwr ym Mangor. Maent yn fyfyrwyr sydd eisoes yn astudio BA Addysg Gynradd neu BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid (gan gynnwys myfyrwyr cydanrhydedd) yn ein hysgol. 
 
Yn ystod yr Wythnos Groeso bydd llawer o weithgareddau i'ch galluogi i gwrdd â myfyrwyr newydd eraill. Mae yna hefyd ddigwyddiadau sy’n cael eu rhedeg gan Undeb y Myfyrwyr, fel Serendipity, lle gallwch chi ddod i wybod am yr holl gymdeithasau a chlybiau chwaraeon sydd ar gael ym Mangor. Bydd Arweinwyr Cyfoed ar gael i ymweld â Serendipity gyda chi ddydd Mercher 21ain Medi am 12.00 canol dydd, gan gyfarfod yn y neuadd chwaraeon, Canolfan Brailsford (LL57 2EH). 
 
Un rhan ddefnyddiol o'r Wythnos Groeso yw cyfarfod â'ch darlithwyr cyn i ddarlithoedd ddechrau. Bydd Arweinwyr Cyfoed yn cwrdd â chi yn Neuaddau Preswyl Ffriddoedd ac yn cerdded gyda chi i'n hysgol er mwyn i chi allu cwrdd â'ch darlithwyr a'ch tiwtoriaid personol. Bydd hyn am 12.45 dydd Llun 19eg Medi yn barod ar gyfer eich Cyfarfod Croeso yn yr Ysgol Gwyddorau Addysgol sy’n dechrau am 1.30. Os ydych yn teithio'n annibynnol, yna cynhelir y digwyddiad hwn i ffwrdd o'r prif gampws ac mae ar Safle'r Normal, Ffordd Caergybi, LL57 2PZ. Bydd Arweinwyr Cyfoed yno i'ch croesawu. 
 
Dros yr wythnos byddwn hefyd yn cynnal cyfarfodydd ar gyfer ein myfyrwyr cydanrhydedd, myfyrwyr aeddfed, myfyrwyr cyfrwng Cymraeg a myfyrwyr Meistr fel y gall darlithwyr ac Arweinwyr Cyfoed roi gwybodaeth ychwanegol i chi er mwyn cefnogi eich astudiaethau. Gwelwch yr amserlen am fanylion. 
 
Yn y cyfamser, os hoffech gysylltu â'ch Arweinydd Cyfoed, ebostiwch ein cydlynydd Arweinwyr Cyfoed a fydd yn eich rhoi mewn cysylltiad. Y cydlynydd yw Fliss Kyffin (f.kyffin@bangor.ac.uk). 

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?