Llun agos o grys-t Arweinwr Cyfoed

Wythnos Groeso: Ysgol Gwyddorau Iechyd

Dr Elizabeth Mason Pennaeth Ysgol Gwyddorau Iechyd Dros Dro

Croeso cynnes i’n myfyrwyr newydd sy’n cyrraedd yr Ysgol Gwyddorau Iechyd.  Rydym yn falch iawn eich bod wedi dewis Prifysgol Bangor i astudio eich rhaglen radd a dechrau ar y cam nesaf yn eich addysg.  

Cyflwynir y rhaglenni gradd canlynol gan yr Ysgol Gwyddorau Iechyd: 
•    Nyrsio 
•    Bydwreigiaeth 
•    Hylendid Deintyddol 
•    Radiograffeg
•    Ffisiotherapi
•    Gwaith Cymdeithasol 
•    Iechyd a Gofal Cymdeithasol 

Fel myfyriwr newydd rydych ar daith drawsnewidiol wrth i ni gyflwyno amrywiaeth o raddau, y mae rhai ohonynt wedi’u hachredu’n broffesiynol, ond mae pob un ohonynt yn heriol, yn ysgogol, ac yn seiliedig ar ymchwil i sicrhau ein bod yn datblygu graddedigion sy’n wybodus, yn gyflogadwy, yn fedrus iawn ac yn arloesol.  Rydym yn falch o hyfforddi ymarferwyr proffesiynol sy'n dangos ymrwymiad i weithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol gyda’r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ymarfer a datblygu yn y proffesiwn o’u dewis.

Yn ystod eich astudiaethau byddwch yn cael eich dysgu gan staff academaidd profiadol a chymwys iawn sy'n gwerthfawrogi bod dod i'r brifysgol yn benderfyniad pwysig i chi. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau y bydd eich profiad fel myfyriwr yn un o ansawdd da o ran dysgu a datblygiad personol, a gobeithiwn y bydd yr Wythnos Groeso yn ddechrau blynyddoedd difyr a ffrwythlon o astudio gyda ni. Mae astudio yn y brifysgol yn gyfle i greu atgofion gwych, ffrindiau am oes ac ennill gradd a fydd yn gwella eich rhagolygon mewn nifer o lwybrau gyrfa ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym eisiau i chi gael profiad dysgu rhagorol fel myfyriwr a byddwn yn gweithio gyda chi i gyflawni hyn.

Mae amserlen yr Wythnos Groeso yn gyfuniad o weithgareddau, rhai ohonynt wedi’u cynllunio i chi ddod i adnabod eich gilydd a chael gwybodaeth ac mae rhai, yn dibynnu ar eich cwrs gradd, yn rhan o’n prosesau o ofynion proffesiynol y mae’n rhaid i ni eu cwblhau gyda chi. Brynhawn Mercher byddwch yn cyfarfod â'ch tiwtor personol a fydd yn gallu cynnig cyngor ar fodiwlau ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am eich rhaglen astudio. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am drefniadau Wythnos Groeso eich cwrs, cysylltwch â'r ysgol. Bydd gennym arweinwyr cyfoed i gynnig cefnogaeth yn ystod ac ar ôl yr wythnos groeso.
Mae amserlen eich wythnos groeso isod a rhagor o wybodaeth ddefnyddiol am baratoi ar gyfer dechrau'r tymor. 

Dymuniadau gorau, 
Dr Elizabeth Mason
Pennaeth Dros Dro yr Ysgol

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?