Fy ngwlad:
Main Arts inner quad with people walking across

Rethinking Educational Ethnography 2026 The 12th Rethinking Educational Ethnography Conference

Diwylliant a Hanes y Gynhadledd                                                                 

Yng nghynhadledd ECER 2010 yn Helsinki, trafododd ymchwilwyr o'r Rhwydwaith Ethnograffeg bryderon ynglŷn ag ethnograffeg rithwir a darganfod diddordeb cyffredin. Y diddordeb cyffredin hwn a arweiniodd at y gynhadledd Rethinking Educational Ethnography gyntaf. Ers hynny, trefnwyd un ar ddeg o gynadleddau rhyngwladol yn Boras, Helsinki, Porto, Barcelona, Napoli, Copenhagen, Klaipeda, Budapest, Graz, Freiburg a Zaragoza. Bob blwyddyn, mae cyfranogwyr yn trafod pynciau sy'n ymwneud ag epistemoleg, methodoleg ac ymarfer ethnograffig. Mae'n gynhadledd fach gyda 20 o bapurau ar y mwyaf, ac mae papurau'n cael eu dosbarthu cyn y gynhadledd. Mae pob sesiwn yn para tri chwarter awr, chwarter awr i'r awdur(on) bwysleisio'r prif bwyntiau a dadleuon, a'r hanner awr sy'n weddill ar gyfer sgwrs a thrafodaeth gyffredin am y papur. Mae amrywiaeth reolaidd o gyfranogwyr profiadol a dibrofiad o bob rhan o Ewrop yn dod i’r gynhadledd yn rheolaidd.

Mae'r ddeuddegfed gynhadledd yn adeiladu ar ddiwylliant cynadleddau’r gorffennol a chaiff ei threfnu gan dîm Tlodi a Dysgu mewn Ysgolion Trefol (PLUS) Bangor yn Ysgol Addysg Prifysgol Bangor, mewn cydweithrediad â’r European Educational Research Association EERA Network 19 Ethnography.

Thema’r Gynhadledd: Ethnograffeg ac Eiriolaeth Polisi

Mae thema’r gynhadledd yn tynnu sylw at ddau fater i’w trafod: Ethnograffeg fel methodoleg ar gyfer ymchwil mewn sefydliadau addysgol a chanolfannau addysgol, ac ethnograffeg fel llwyfan ymchwil i eiriolaeth polisi sy'n ymgysylltu â gwleidyddion, cyfryngwyr pŵer a llunwyr polisi. Mae ethnograffeg yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau casglu data sydd â'r gallu i ddogfennu profiadau bywyd, disgrifio'r cyd-destun gan gynnwys y cyd-destun hanesyddol ac ymdopi â'r amgylchiadau. Mae gan ethnograffeg hefyd y gallu i ddarparu dealltwriaeth, gwybodaeth eang a synnwyr dwfn o bosibiliadau ond hefyd rhwymedigaethau proffesiynol a chymdeithasol i ymchwilio i gysylltiadau pŵer a'u hanghydraddoldebau. O ran ymateb i heriau ymdrin â’r cysylltiad rhwng ymarfer, ymchwil, damcaniaeth a pholisi, mae’n galw ar ymarferwyr sy’n weithgar ym maes ymchwil i gwestiynu’r cysylltiadau hyn a moeseg cyfrifoldebau i ymgysylltu nid yn unig mewn dadleuon cyfredol ynglŷn â chyfraniad ethnograffeg at ddylanwadu ar benderfyniadau polisi ond hefyd mewn camau gweithredu i’r perwyl hwn. Mae'r materion hyn wedi eu hadlewyrchu yn y galwad am bapurau, ac mae llawer i'w ddysgu gan gynrychiolwyr sy'n rhannu eu hymchwil ethnograffig a wnaed mewn gwahanol gyd-destunau cenedlaethol lle mae polisïau addysg yn gynyddol yn destun dysgu polisi. Mae hyn bob amser yn fwy ffrwythlon pan fydd dadansoddiadau'n taflu goleuni ar yr amodau lle mae polisïau'n cael effaith, sy'n cael ei wneud yn fwy tebygol os ydynt yn ganlyniad i gamau ymarferol sy'n seiliedig ar ymchwil i newid yr amgylchiadau a realiti bywyd lle bo angen.  

Cyflwyno Crynodebau

Mae’r gynhadledd Rethinking Educational Ethnography yn galluogi ac yn annog cyfranogiad gweithredol gan ymchwilwyr profiadol ac ymchwilwyr dibrofiad. Gall crynodebau gyfeirio at astudiaethau wedi eu cwblhau, gwaith maes neu waith sydd ar y gweill. Dylai eich crynodeb fod yn berthnasol i'r alwad a dylai gynnwys adrannau ar brif y pwyntiau, dulliau gwaith maes, dulliau dadansoddol a chasgliadau. Ni ddylai fod yn hwy na 400 gair (heb gynnwys cyfeiriadau) a dylid ei gyflwyno yn Saesneg. Cyflwynwch i: ECERConference@bangor.ac.uk

Gwahoddir papurau o blith y crynodebau a gyflwynir a rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2000 o eiriau. Rhennir yr holl bapurau ymhlith cyfranogwyr y gynhadledd er mwyn treulio llai o amser ar gyflwyniadau a chanolbwyntio ar sgwrsio a thrafod papurau yn ystod y sesiynau. Mae'r gynhadledd yn cysylltu â'r cyfnodolyn Ethnography and Education, sy'n croesawu erthyglau ar sail papurau sydd wedi eu llunio i'r gynhadledd.

Dyddiadau Pwysig

  • Galwad am Bapurau: 30 Medi 2025
  • Cyflwyno crynodebau: 6 Chwefror 2026
  • Gwahoddiadau i roi papurau: 27 Chwefror 2026
  • Dyddiad cau cyflwyno papurau: 1 Mai 2026
  • Dyddiad cau cofrestru: 8 Mai 2026