Diwrnod Agored
Ymunwch â ni ar Ddiwrnod Agored
Dyma'r amser i gael blas go iawn ar fywyd prifysgol trwy ddod i Ddiwrnod Agored. Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld.
Yn ystod y Diwrnod Agored, byddwch yn:
- Cael mwy o fanylion am eich pwnc
- Gweld yr adnoddau a chyfleusterau cwrs-benodol
- Cyfarfod staff dysgu a myfyrwyr presennol
- Gweld y llety i fyfyrwyr
- Cael blas ar fywyd myfyriwr ym Mangor
- Mynychu cyflwyniadau ar bynciau fel bywyd myfyriwr a chyllid
- Ymgyfarwyddo ag adeiladau’r Brifysgol a dinas Bangor.