Bangor University Campus Photos showing Dean Street building

Cameron yn Brif Gymrawd yr Academi Addysg Uwch

Yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig yn llongyfarch Dr Cameron Gray (Darlithydd mewn Seiberddiogelwch) am ennill clod fel Uwch Gymrawd yr Academi Addysg Uwch (SFHEA).

Amlygir ymrwymiad Prifysgol Bangor i ragoriaeth mewn addysgu trwy ei phartneriaeth ag AdvanceHE a’u rhaglen i gydnabod Datblygiad Proffesiynol Parhaus. Rhaglen yw hon i academyddion ac addysgwyr ddangos eu bod yn cyflawni meini prawf Fframwaith Safonau Proffesiynol y Deyrnas Unedig ar gyfer addysgu a chefnogi dysgu mewn addysg uwch. Yn ddiweddar mae Cameron Gray wedi derbyn statws Uwch Gymrawd. Fel a nodir ym meini prawf AdvanceHE, mae wedi dangos “dealltwriaeth eang o ddulliau addysgu a chefnogi dysgu effeithiol fel cyfraniadau allweddol at ddarparu dysgu o ansawdd uchel i fyfyrwyr.”

Cafodd Cameron ei chyfweld gan yr Athro Jonathan Roberts (Cyfarwyddwr Effaith ac Ennyn Diddordeb Myfyrwyr) am ei llwyddiant diweddar.

Dywedodd Cameron “Roedd ennill Uwch Gymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch (SFHEA) yn ystod yr haf eleni yn anrhydedd mawr imi.  Mae’r lefel hon yn gwobrwyo ymrwymiad parhaus i wella addysgu, ond yn benodol mae hefyd yn cynnwys rhannu arfer gorau a mentora eraill.  Mae rhaglen Bangor yn annog ymarfer adfyfyriol ar bob lefel, a dim ond trwy edrych yn feirniadol ar ymdrechion y gorffennol y gallwn gadw'r elfennau sy’n gweithio a gwella ar yr elfennau na weithiodd cystal ag y gobeithiwyd.”

Dr Cameron Gray,  Lecturer in Cyber Security

Sut newidiodd y pandemig eich dulliau addysgu?

Newidiodd y pandemig y ffordd y mae llawer o academyddion yn mynd ati i addysgu. Gan symud o ddulliau addysgu traddodiadol i ddulliau ar-lein. Roedd yn rhaid i lawer o bobl newid eu ffyrdd o addysgu, beth wnaethoch chi?

O ran fy addysgu, rwyf wedi bod yn defnyddio athroniaeth Lluniadaeth Sgaffaldedig. Lle rwy'n darparu strwythurau, technegau, a gwybodaeth (sgaffaldiau) sy'n rhoi digon o gymorth i fyfyrwyr, yn enwedig wrth ddechrau dysgu am bwnc newydd. Mae hyn yn annog y myfyrwyr i ymgysylltu â'r pwnc a chymryd cyfrifoldeb gweithredol am eu proses ddysgu eu hunain. Yn ogystal, yn ystod y pandemig, llwyddais i helpu academyddion eraill. Fe wnaethom weithio'n dda gyda'n gilydd fel tîm, a llwyddais i helpu rhai o'm cydweithwyr gyda'u heriau technegol. Fe wnaeth yr ymdrech hwn gan y tîm sicrhau llwyddiant y cwricwlwm ac, yn ei dro, cynyddu llwyddiant y myfyrwyr.

Trwy gydol y pandemig, fe wnaethon ni i gyd wedi wynebu cyfnod heriol. Ychydig iawn o gyfle a gawsom i gydweithio - gan ei gwneud yn bwysicach nag erioed i rannu technegau a phrofiadau. Fel ym mhob ysgol, yn ystod y pandemig, fe wnaethom symud o ddarpariaeth draddodiadol i ddarpariaeth ar-lein. Ond rhoddodd hyn gyfle enfawr i ni arloesi yn ein haddysgu, a chyfle i bobl ddatblygu eu sgiliau technegol,

Dr Cameron Gray,  Darlithydd mewn Seiberddiogelwch

Ac yn olaf

Yn olaf, hoffwn ddiolch i'm cydweithwyr a'm mentoriaid am fy helpu i ddatblygu fel addysgwr, ac yn benodol i Dr Caroline Bowman a'i thîm o adolygwyr, a wnaeth ennill y wobr hon yn bosib i mi. Diolch!

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?