Darganfyddwch ein Cyrsiau Israddedig
Pam Astudio Cadwraeth?
Mae ymchwil wyddonol flaengar yn rhan annatod o'n rhaglenni ymchwil, ac yn treiddio i’n hamgylchedd addysgu. Mae ein harbenigedd yn cwmpasu astudiaethau i ecoleg esblygiadol a phoblogaethau infertebratau'r môr ac ymlusgiaid; geneteg poblogaeth; a newid yn yr hinsawdd ac ecoleg gwlyptiroedd.
Rydym yn defnyddio amrywiaeth eang o ddulliau addysgu yn amrywio o ddarlithoedd, sesiynau ymarferol a gwaith maes i seminarau a thiwtorialau. Mae dinas Bangor wedi ei lleoli rhwng Parc Cenedlaethol Eryri a'r môr sy'n golygu y byddwch yn elwa o fod yn agos at amrywiaeth eithriadol o gynefinoedd tir, môr a dŵr croyw yr ydym yn eu defnyddio i gynnal gwaith maes, sy'n rhan annatod o'r cwrs gradd.
Mae'r seminarau a'r tiwtorialau'n canolbwyntio ar ddatrys problemau, datblygu sgiliau astudio ac atgyfnerthu deunydd a addysgir mewn darlithoedd; mae'r awyrgylch hamddenol ac anffurfiol hefyd yn annog trafodaeth fywiog am faterion cyfoes a dadleuol.
Caiff llawer o'n graddau eu hachredu gan Sefydliad Gwyddorau'r Amgylchedd ac mae gennym Gwobr Aur am Ansawdd Addysgu yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (TEF 2017).
A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.
Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?
- Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr llwyddiannus y pwnc hwn ym Mangor?
- Beth allai wneud i baratoi at astudio'r pwnc hwn ym Mangor?
- Sut ydw i yn gwybod mai'r pwnc hwn ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?
Ein Hymchwil o fewn Cadwraeth
Ymchwil yw'r prif gyfraniad a wnawn at warchod bioamrywiaeth y byd. Mae'n darparu atebion i broblemau damcaniaethol a chymhwysol sylfaenol ym maes bioleg cadwraeth ac yn gosod cyfeiriad ar gyfer ein haddysgu.
Rydym yn cydweithio â phobl o bob cwr o'r byd, gan gynnwys arbenigwyr academaidd a rheolwyr cadwriaethol, i sicrhau bod modd defnyddio ein hymchwil yn y byd go iawn, a sicrhau ein bod yn datblygu agweddau damcaniaethol ar fioleg cadwraeth.
Mae ein hymchwil wedi'i rannu'n themâu: tystiolaeth amgylcheddol a chadwraeth gymdeithasol, mae gennym ddiddordeb hefyd mewn dulliau i liniaru prosesau bygythiol ac mewn cadwraeth planhigion ac anifeiliaid. Mae ein hymchwil yn tueddu i fod yn amlddisgyblaethol iawn - ac yn manteisio ar arbenigedd ein tîm amrywiol.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.