Gwobr fawreddog yw hon a gaiff ei dyfarnu’n flynyddol i dimau o ymarferwyr gan y Centre for the Advancement of Interprofessional Education (CAIPE) a'r Gymdeithas Feddygol Frenhinol. Un aelod o’r tîm arobryn eleni oedd Dr Rebecca Payne, sy’n Uwch Ddarlithydd Clinigol ym Mhrifysgol Bangor.
Cafodd y wobr ei dyfarnu am y papur ‘Making Remote General Practice Safer: a co-produced, whole-team interprofessional training resource and intervention’.
Mae gwaith y tîm yn amlygu sut y gellir dod ag ymchwilwyr academaidd, clinigwyr sy'n ymarfer, swyddogion sy’n ymchwilio i ddiogelwch cleifion yn genedlaethol, ac arbenigwyr ym maes indemniad ynghyd i droi ymchwil ynghylch digwyddiadau go iawn sy’n ymwneud â diogelwch cleifion yn rhywbeth y gall timau ei ddefnyddio wrth eu gwaith.
Mae hwn yn llwyddiant aml-sefydliadol, amlddisgyblaethol a rhyngbroffesiynol yn cynnwys ymchwilwyr a chlinigwyr o Brifysgol Bangor a Phrifysgol Rhydychen, ochr yn ochr â chydweithwyr o NHS Resolution a'r Health Services Safety Investigations Body (HSSIB). Mae gan y tîm arbenigedd ym meysydd meddygaeth teulu, ymchwil i ofal cychwynnol, anthropoleg feddygol a datblygu sefydliadol, indemniad clinigol ac ymchwiliadau cenedlaethol i ddiogelwch cleifion.
Yn rhan o’r gwaith datblygwyd ymyriad hyfforddi i dimau cyfan i wella diogelwch a thegwch meddygaeth teulu o bell. Yn hytrach na chanolbwyntio ar glinigwyr yn unig, mae gwaith y tîm yn dod â meddygon teulu, nyrsys, fferyllwyr, rheolwyr meddygfeydd, staff derbynfa a staff gweinyddol ynghyd i archwilio sut mae penderfyniadau sy'n hanfodol i ddiogelwch yn cael eu gwneud mewn gwirionedd ar draws y practis cyfan.
Cafodd yr hyfforddiant ei dreialu gyda chwech o feddygfeydd y GIG ledled Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Mae'r gwaith hefyd wedi'i gyhoeddi yn BMJ Quality & Safety, ochr yn ochr ag ysgrif olygyddol yn tynnu sylw at oblygiadau ehangach y gwaith i ddysgu rhyngbroffesiynol, gwella ansawdd a diogelwch cleifion.
Dywedodd Dr Rebecca Payne, sy’n Uwch Ddarlithydd Clinigol ym Mhrifysgol Bangor, “Mae cymaint o’r gwaith sy’n cadw cleifion yn ddiogel ym maes meddygaeth teulu’n digwydd y tu allan i’r ystafell ymgynghori, ac yn cael ei wneud gan staff y dderbynfa ac aelodau eraill o’r tîm, y mae eu cyfraniad, yn aml iawn, yn cael ei ddiystyru. Rydan ni fel tîm wedi mynd ati i gydnabod a mynd i'r afael â hyn drwy gyfrwng yr hyfforddiant rydan ni wedi’i ddatblygu, er mwyn cefnogi'r arbenigedd, y crebwyll a'r gwaith tîm sy'n rhan mor bwysig o ddarparu gofal diogel. Mae'n braf gweld pwysigrwydd y gwaith hwnnw'n cael ei gydnabod drwy'r wobr yma, a gweld bod cydnabyddiaeth hefyd i waith y bobl hynny, ar draws gofal cychwynnol, sy'n gweithio’n dawel bob dydd i wneud gwahaniaeth i gleifion.”
Aelodau’r tîm arobryn yw:
- Dr Joseph Clift – Prifysgol Rhydychen
- Dr Francesca Helen Dakin – Prifysgol Rhydychen
- Yr Athro Anwar Khan – NHS Resolution
- Dr Nicholas Woodier – HSSIB
- Yr Athro Trisha Greenhalgh – Prifysgol Rhydychen
- Dr Rebecca Payne – Prifysgol Bangor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Y papur arobryn yw: Clift J, Dakin FH, Khan A, Woodier N, Greenhalgh T, Payne R. Development and pilot evaluation of the implementation of a whole-team training pack to improve the effectiveness, efficiency, safety and equity of remote general practice. BMJ Quality & Safety. 2026. doi: 10.1136/bmjqs-2026-020139.