Ein Cyrsiau
Gyda chymaint o gyrsiau cyffrous ar draws y celfyddydau, y dyniaethau a’r gwyddorau rydym yn hyderus y byddi yn dod o hyd i dy gwrs perffaith.
Sut i Wneud Cais
I wneud cais mae angen ymweld â gwefan UCAS. Mae angen defnyddio côd B06 i wneud cais am Brifysgol Bangor.
Rydym yn argymell gwneud cais cyn gynted ag sydd yn bosib gan y byddwn yn dechrau ystyried ceisiadau a gwneud cynigion ar unwaith.
Ar gyfer mynediad 2026, dyddiad cau cychwynnol UCAS ar gyfer meddygaeth yw 15 Hydref 2025 a dyddiad cau cychwynnol UCAS ar gyfer cyrsiau eraill yw 14 Ionawr 2026, fodd bynnag rydym yn croesawu ceisiadau ar ôl y dyddiad hwn. Bydd ceisiadau a dderbynnir rhwng 14 Ionawr a 30 Mehefin yn parhau i gael eu hanfon ymlaen at brifysgolion gan UCAS a byddant yn cael eu hystyried pan fydd lleoedd ar gael o hyd.
Fel rhan o dy broffil ar UCAS, bydd angen i ti ysgrifennu dy ddatganiad personol. Mae hyn yn rhan bwysig o’r broses ymgeisio.
Dyma dy gyfle i berswadio’r brifysgol y dylent dy dderbyn di ar y cwrs. Cei ond 4,000 llythyren i egluro pam rwyt ti wedi dewis y cwrs a’r sgiliau neu brofiad sydd gen ti sy’n hanfodol ar gyfer astudio ar lefel prifysgol.
I ysgrifennu datganiad personol gwerth chweil, ddylet ti fod efo dealltwriaeth o’r cwrs a’r pwnc byddet yn ei astudio. Cofia dy fod yn ysgrifennu un datganiad personol ar gyfer dy 5 dewis felly mae angen gwneud yn saff bod dy gyrsiau yn rhai tebyg a sicrhau nad wyt yn cyfeirio at unrhyw un o’r cyrsiau na unrhyw brifysgol yn benodol yn y datganiad personol.
I wneud cais am le mewn prifysgol mae'n rhaid i ti wneud cais trwy UCAS a fydd wedyn yn cael ei drosglwyddo i'r prifysgolion a restrwyd.
Gall wneud cais am hyd at bum cwrs ond cofia y bydd yr un ffurflen gais a'r un datganiad personol yn mynd i'r 5 dewis.
UCAS yw’r Gwasanaeth Derbyniadau i Brifysgolion a Cholegau. Mae pob cais i’r brifysgol yn cael ei brosesu drwy UCAS ac yna’n cael ei drosglwyddo i’r prifysgolion a restrwyd.
Côd UCAS Prifysgol Bangor yw B06.
Mae Prifysgol Bangor wedi ymrwymo i ehangu mynediad i addysg uwch ac mae’n derbyn myfyrwyr o amrywiaeth eang o gefndiroedd.
Er mwyn cefnogi myfyrwyr i fynd i addysg uwch, rydym yn defnyddio nifer o ddangosyddion i nodi myfyrwyr a allai fod dan anfantais o ran cael mynediad i addysg uwch, er mwyn darparu cefnogaeth ychwanegol iddynt.
Pam dewis Bangor?
Ym Mangor, byddi di'n cael dy addysgu gan arweinwyr yn eu maes sy’n frwd dros eu pynciau, ac sydd wedi ymrwymo’n llwyr i dy ddysg.
Mae ein cyfleusterau yn cynnwys darlithfeydd modern, labordai, ardaloedd dysgu cymdeithasol, ein llong ymchwil ein hunain, fferm a gardd fotanegol.
Gallet ti ddewis astudio neu weithio dramor am flwyddyn neu wneud profiad gwaith am hyd at flwyddyn.
Mae rhan o dy brofiad myfyriwr yn ymwneud â dod o hyd i dy bobl, gwneud ffrindiau oes, a dod yn rhan o gymuned fywiog, fyd-eang.
Darganfod cymunedau amrywiol drwy:
- Taith ddysgu
- Neuaddau preswyl
- Clybiau chwaraeon
- Cymdeithasau myfyrwyr
- Prosiectau gwirfoddoli
- Rhwydweithiau myfyrwyr
Nid oes angen i ti fod yn berson 'awyr agored' i syrthio mewn cariad â Phrifysgol Bangor.
Dychmyga gampws lle mae mynyddoedd, môr, a bywyd dinas yn dod at ei gilydd. Fe allet ti fwynhau’r golygfeydd syfrdanol yn ystod dy daith i ddarlithoedd neu wrth ymlacio ar y pier, fe allet ti dreulio dy benwythnosau yn y mynyddoedd, neu fe allet ti wneud dy hun yn gartrefol yn ein sinema a’n theatr ar y campws.
Byw ac astudio mewn lle sy'n siarad â phob ochr i ti.
P'un a wyt ar gyllideb dynn neu'n barod am fywyd moethus, mae Prifysgol Bangor yn sicrhau bod gen ti y rhyddid i ddewis.
Mae gan Brifysgol Bangor lawer o fentrau i sicrhau bod dy arian yn mynd ymhellach, gan gynnwys:
- Cyfleoedd gwaith rhan-amser ar draws y campws
- Prisiau'r olchfa wedi'u rhewi
- Darparu cynnyrch mislif am ddim ar draws campysau’r brifysgol i holl fyfyrwyr Prifysgol Bangor sy’n cael mislif.
Yn ogystal, gallet ti ddewis opsiynau sy'n gyfeillgar i'r gyllideb gan gynnwys:
- Prydau fforddiadwy yn y Brifysgol
- Neuaddau fforddiadwy
- Tirwedd naturiol syfrdanol ar garreg eich drws
Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ar gael i fyfyrwyr.
Rydym yn gwarantu ystafell yn ein neuaddau ar gyfer holl fyfyrwyr newydd sy'n dewis Bangor fel eu Dewis Cadarn.
Mae gennym ddau safle llety; Pentrefi Ffriddoedd a Santes Fair, ac mae’r ddau o fewn pellter cerdded i holl brif adeiladau a chyfleusterau’r brifysgol. Mae Neuadd John Morris-Jones (JMJ) ar gyfer siaradwyr Cymraeg a dysgwyr sydd eisiau byw mewn awyrgylch Gymreig.
Yn gynwysedig gyda’ch rhent mae:
- Wi-Fi a mynediad i'r rhyngrwyd â gwifrau
- Pob bil (rhyngrwyd, dŵr, gwres, trydan)
- Aelodaeth Campfa a Bywyd Campws
Dy Ddyfodol Ar Waith
Testun: DYMA
Disgrifiad Gweledol: Clip fideo drôn ysgubol wedi'i saethu dros Afon Menai, gyda Phorthaethwy i'r dde a Bangor i'r chwith. Mae Pont Menai yn sefyll yn y canol o dan awyr glir.
Testun: BRIFYSGOL
Disgrifiad Gweledol: Mae myfyriwr yn darllen ar fainc o flaen adeilad Hen Goleg Prifysgol Bangor ar ddiwrnod heulog, braf.
Testun: BANGOR
Disgrifiad Gweledol: Prif Adeilad y Celfyddydau Prifysgol Bangor, wedi'i fframio gan goed yng nghanol y ddinas ar ddiwrnod braf.
Testun: Lle mae uchelgais a pherthyn yn cyfarfod Disgrifiad Gweledol: Myfyriwr yn sefyll y tu allan i adeilad Cerddoriaeth y brifysgol, yn edrych yn uniongyrchol i'r camera ac yn siarad â'r gwyliwr.
Testun: Mae Bangor wedi ei amgylchynu gan harddwch syfrdanol
Disgrifiad Gweledol: Triawd o fideos drôn o Eryri wedi’u cyflwyno mewn arddull taflunydd ffilm retro, yn dangos Llyn Padarn yn Llanberis, Yr Wyddfa, a chopa’r Wyddfa.
Testun: Ni allwch helpu ond cael eich ysbrydoli
Disgrifiad Gweledol: Myfyriwr yn cerdded heibio'r murlun lliwgar y tu allan i Pontio, gan edrych yn syth i'r camera a siarad â'r gwyliwr.
Testun: O leoedd tawel
Disgrifiad Gweledol: Dilyniant o bum llun: – Chwe myfyriwr yn ymarfer ioga yng Ngardd Fotaneg Treborth. – Myfyriwr yn astudio coeden yng Ngardd Fotaneg Treborth. – Pedwar myfyriwr yn cymdeithasu ac ymlacio wrth Bont Menai. – Myfyriwr yn padlfyrddio ar Lyn Padarn. – Grŵp o bedwar myfyriwr yn tynnu hunlun ar draeth Aberffraw.