Newyddion
- Newyddion diweddaraf
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Hydref 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Holl Newyddion A–Y
Newyddion: Rhagfyr 2014
Prifysgol Bangor yn cael ei chydnabod am ei hymchwil sydd gyda'r orau yn y byd
Mae ymchwil Prifysgol Bangor yn cael effaith o bwys ledled y byd yn ôl asesiad cenedlaethol o ansawdd ymchwil ( REF ) a gyhoeddwyd heddiw.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Rhagfyr 2014
Tyfu tomatos blasus iawn yn yr awyr agored yng Nghymru a'r DU
O’r flwyddyn nesaf ymlaen bydd garddwyr Prydain yn medru tyfu tomatos sy’n medru gwrthsefyll malltod, yn dilyn gwaith ar y cyd gyda Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Rhagfyr 2014
Gallai dealltwriaeth newydd o wenwyn nadredd esgor ar feddyginiaethau gwrthwenwyn mwy effeithiol
Gallai ymchwil newydd, sydd yn gwrthbrofi'r ddamcaniaeth bod gwenwyn wedi esblygu unwaith yn unig mewn ymlusgiaid, arwain hefyd at driniaethau meddygol newydd i wrthweithio effaith brathiadau gan nadredd.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Rhagfyr 2014
Mae treillio’n gwneud lledod yn denau
Nid yn unig y mae treillio gwely’r môr yn codi rhai o’r pysgod sy’n byw yno; mae hefyd yn gwneud rhai o’r rheiny sy’n goroesi yn deneuach ac yn llai iach trwy eu gorfodi i ddefnyddio mwy o egni i gael hyd i fwyd llai maethlon. Dyma gasgliad papur a gyhoeddwyd mewn papur newydd a gyhoeddwyd yn y Proceedings of the Royal Society of London B , ar sail gwaith a gyflawnwyd gan Dr Andrew Frederick Johnson tra oedd yn astudio ar gyfer ei PhD ym Mhrifysgol Bangor. “Roeddem eisoes yn gwybod bod rhai rhywogaethau o bysgod gwely’r môr yn deneuach mewn mannau a dreillir nag mewn mannau eraill, ar sail gwaith cynharach gan Dr Jan Geert Hiddink (2011, Journal of Applied Ecology ), ond hyd yma, cymerwyd mai’r rheswm oedd eu bod yn methu â chael hyd i ddigon o fwyd ac yn newynu trwy hynny.”
Dyddiad cyhoeddi: 11 Rhagfyr 2014
Prifysgol Bangor yn dod â chyllid ymchwil Ewropeaidd sylweddol i ogledd Cymru
Codwyd cyllid ymchwil gwerth bron i £10 miliwn gan ymchwilwyr Prifysgol Bangor o raglen cyllid ymchwil yr Undeb Ewropeaidd gan Brifysgol Bangor, ac mae'r brifysgol yn disgwyl gwella'r canlyniadau hyn yn rhaglen ymchwil ac arloesi newydd Ewrop. Llwyddwyd i ariannu pedwar deg dau o brif brojectau ymchwil Ewrop-gyfan dan arweiniad academyddion Prifysgol Bangor, yn wyneb cystadleuaeth gref yn FP7, sef seithfed Raglen Fframwaith Ymchwil y Comisiwn Ewropeaidd a gynhaliwyd o 2007 tan 2013.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Rhagfyr 2014
Nodweddion gwrywaidd yn cefnogi theori "ymennydd gwrywaidd eithafol" anhwylder sbectrwm awtistaidd
Mae ymchwil diweddar gan Brifysgol Bangor wedi datgelu agwedd newydd ar theori hirsefydlog ym maes anhwylder sbectrwm awtistaidd (ASA). Mae'r theori "ymennydd gwrywaidd eithafol" a gynigiwyd gan Simon Baron-Cohen, yn damcaniaethu bod ASA yn ganlyniad i lefelau testosteron dyrchafedig cyn-geni. Mewn astudiaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn y cyfnodolyn Clinical Psychological Science , ymchwiliodd Naomi Scott a chydweithwyr yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor i oblygiadau posib hynny ar ymddangosiad corfforol a gysylltir ag ASA.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Rhagfyr 2014
Y deyrnas unedig ar drothwy cynnydd sylweddol mewn lefelau clefyd yr ysgyfaint ymysg oedolion ifanc - oherwydd ysmygu spliff trwm?
Mae’r DU angen bod yn barod am gynnydd sylweddol yn y nifer o oedolion ifanc sy’n cael eu heffeithio gan ffurf ddifrifol o glefyd yr ysgyfaint oherwydd eu defnydd rheolaidd o ganabis a thybaco – dyma fydd arbenigwyr yr ysgyfaint yn ei ddweud wrth Gyfarfod y Gaeaf y Gymdeithas Thorasig Brydeinig dydd Mercher 3 Rhagfyr.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Rhagfyr 2014
Draenogod y môr o’r Antartig yn dangos eu bod yn gallu ymaddasu i asideiddio’r cefnfor
Mae astudiaeth o ddraenogod môr o Benrhyn yr Antartig wedi dangos eu bod yn gallu ymaddasu i newidiadau mewn amodau, fel cynnydd yn nhymheredd y môr ac asideiddio. Gan ysgrifennu yn y cyfnodolyn Journal of Animal Ecology , mae'r awduron yn mynd ati i ateb cwestiynau pwysig a sylfaenol ynghylch sut y bydd bywyd yn y cefnfor yn ymateb i newidiadau a ragwelir yn ystod y degawdau i ddod. Er gwaethaf tystiolaeth o asideiddio cynyddol yng nghefnforoedd y byd, mae cwestiynau'n parhau ynghylch a fydd rhywogaethau môr yn gallu addasu i'r newidiadau hyn mewn amodau. Mae'r astudiaeth hon, dan arweiniad gwyddonwyr o'r British Antarctic Survey a Phrifysgol Bangor, yn un o'r rhai hiraf a gynhaliwyd erioed.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Rhagfyr 2014
Dwyieithrwydd a heneiddio
Mae llawer o bobl hŷn yn cadw'n heini'n feddyliol ac yn mwynhau gwneud croeseiriau a gemau i 'hyfforddi'r ymennydd' yn ystod eu hamser hamdden. Ond hyd yma, mae'r wyddoniaeth am eu heffeithiolrwydd yn rhannol ac amhendant. Maes arall nad ydym yn ei ddeall yn iawn ac sydd hefyd wedi arwain at wahanol ganlyniadau, yw'r cwestiwn a yw bod yn ddwyieithog yn ffactor amddiffynnol mewn cyflyrau cysylltiedig ag oed fel clefyd Alzheimer. Arweiniwyd astudiaeth ar raddfa fechan am siaradwyr Cymraeg/Saesneg gan y Cyngor Economaidd ac Ymchwil Gymdeithasol, dan arweiniad yr Athro Linda Clare yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor. Ar ddechrau'r astudiaeth hon nid oedd unrhyw dystiolaeth ar gael am effeithiau dwyieithrwydd mewn siaradwyr Cymraeg hŷn. Mae'r astudiaeth wedi ei chwblhau erbyn hyn ac ni chafwyd tystiolaeth bod Clefyd Alzheimer yn datblygu'n hwyrach mewn siaradwyr dwyieithog Cymraeg/Saesneg. Roedd y canfyddiad hwn yn debyg i'r hyn a welwyd ym Montreal, Canada sef nad oedd bod yn ddwyieithog yn fantais mewn pobl ddwyieithog nad ydynt yn fewnfudwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Rhagfyr 2014
A ydych yn cael digon o ymarfer corff i fynd yn sâl?
A ddylech ymarfer yn galetach neu am fwy o amser? Mae rasys Marathon a rasys dygnwch yn dod yn fwyfwy poblogaidd, ac felly hefyd yr awch am ymarfer yn ddwys, megis mewn dulliau a dosbarthiadau hyfforddi dwys ‘ spike ’ neu ‘ buzz ’. Ond p’un sydd orau i chi? Neu, fel arall, p’un fydd yn achosi’r niwed lleiaf i’ch system imiwnedd? Mae ymchwil newydd gan Brifysgol Bangor yn herio’r meddylfryd cyfredol fod ymarferion hwy, llai straenus yn llai niweidiol i’r system imiwnedd.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Rhagfyr 2014
Mae dysgu rhythmau iaith yn fodd i ddod yn siaradwyr rhugl
As Wales faces a decline in the number of Welsh speakers, it’s even more important that Welsh learners make the transition from second language learners to become fluent Welsh speakers. One identified obstacle to ‘fluency’ is Welsh learner’s difficulty in replicating the sound of Welsh- not only the ‘ll’ ‘ch’ and other sounds unfamiliar to the English ear, but also the stress and rhythm of the language, which is different to that of English, and other languages.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Rhagfyr 2014
Sut y mae prifysgolion Cymru'n datblygu'r byd o'n cwmpas?
Mae heddiw'n nodi lansiad porth newydd – www.researchwales.ac.uk – a fydd yn tynnu sylw at rai o'r enghreifftiau gwych o sut y mae prifysgolion Cymru'n datblygu'r byd o'n cwmpas. Ymhlith yr ymchwil sy'n cael ei arddangos mae enghreifftiau gwych o waith ymchwil gan academyddion Prifysgol Bangor. Mae'r rhain yn cynnwys yr enghreifftiau canlynol.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Rhagfyr 2014
Cymysgu dyfroedd yng Nghefnfor y De
Mae Cefnfor y De yn amgylchynu Antartica ac mae'n chwarae rhan allweddol mewn rheoli'r hinsawdd byd-eang. Yma y mae ceryntau'r cefnfor yn dychwelyd i'r wyneb o'r dyfnderoedd, gan gau'r cefnfor byd-eang a gwyrdroi cylchrediad. Mae'r cylchrediad hwn yn gyrru gwres i gyfeiriad y pegwn, sy'n allweddol i'r tywydd cymharol fwyn a gawn yma ym Mhrydain. Mae ymchwil newydd gan Brifysgol Bangor a'r National Oceanography Centre yn Lerpwl wedi nodi am y tro cyntaf broses newydd sy'n cyfrannu at y dŵr hwn sy'n codi i fyny o'r dyfnder.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Rhagfyr 2014