Newyddion
- Newyddion diweddaraf
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Hydref 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014
- Awst 2014
- Gorffennaf 2014
- Mehefin 2014
- Mai 2014
- Ebrill 2014
- Mawrth 2014
- Chwefror 2014
- Ionawr 2014
- Rhagfyr 2013
- Tachwedd 2013
- Hydref 2013
- Medi 2013
- Awst 2013
- Gorffennaf 2013
- Mehefin 2013
- Mai 2013
- Ebrill 2013
- Mawrth 2013
- Chwefror 2013
- Ionawr 2013
- Rhagfyr 2012
- Tachwedd 2012
- Hydref 2012
- Medi 2012
- Awst 2012
- Gorffennaf 2012
- Mehefin 2012
- Mai 2012
- Ebrill 2012
- Mawrth 2012
- Chwefror 2012
- Ionawr 2012
- Rhagfyr 2011
- Tachwedd 2011
- Hydref 2011
- Medi 2011
- Awst 2011
- Gorffennaf 2011
- Mehefin 2011
- Mai 2011
- Ebrill 2011
- Mawrth 2011
- Chwefror 2011
- Ionawr 2011
- Rhagfyr 2010
- Tachwedd 2010
- Hydref 2010
- Medi 2010
- Holl Newyddion A–Y
Newyddion: Rhagfyr 2018
Bodaod tinwyn a grugieir coch: Canfod tir cyffredin mewn gwrthdaro parhaus
Bu gwrthdaro ers degawdau rhwng cadwraethwyr sy'n gweithio dros warchod niferoedd y bodaod tinwyn a'r rheiny sy'n gwneud bywoliaeth o saethu grugieir coch yn fasnachol yn ucheldiroedd Lloegr, a hynny heb arwydd o gymod. Gan dynnu ar waith a wnaed ym maes seicoleg, mae astudiaeth newydd a gyhoeddir heddiw yn y cyfnodolyn People and Nature yn ymchwilio i'r gwerthoedd sylfaenol sydd gan saethwyr a chadwraethwyr sy'n ei gwneud hi mor anodd i ddod o hyd i atebion ar y cyd. Mae astudiaethau ecolegol dros y 30 mlynedd ddiwethaf wedi dangos y gall bodaod tinwyn ac adar ysglyfaethus eraill leihau niferoedd y grugieir i'r fath raddau bod perygl i saethu grugieir fynd yn anhyfyw yn economaidd. O ganlyniad, caiff bodaod tinwyn eu lladd yn anghyfreithlon ar weunydd grugieir, er eu bod wedi'u diogelu o dan ddeddfwriaeth y Deyrnas Unedig ers 1952.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Rhagfyr 2018
Administrative justice can make countries fairer and more equal – if it is implemented properly
Dyma erthygl yn Saesneg gan Sarah Nason o Ysgol y Gyfraith sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 13 Rhagfyr 2018
Mae cyfiawnder gweinyddol yn effeithio arnom i gyd - nawr yw'r amser i roi mwy o ystyriaeth iddo
Efallai nad ydych erioed wedi ystyried cyfiawnder gweinyddol, ond mae'n effeithio ar bob un ohonom - ac mae llawer ohono wedi'i ddatganoli yng Nghymru. Mae hyn yn golygu y gallwn fynd at gyrff penodol i geisio iawn os ydym yn anhapus gyda'r gwasanaeth a gawsom mewn ystod eang o sefyllfaoedd. Mae Sarah Nason, Darlithydd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor, newydd gyhoeddi adroddiad sy'n adolygu beth yw'r sefyllfa bresennol a'r camau nesaf i gyfiawnder gweinyddol yng Nghymru drwy dynnu ynghyd y penderfyniadau gweinyddol a ddatganolwyd i Gymru a gwneud argymhellion ar gyfer y dyfodol.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Rhagfyr 2018
Astudiaeth £1.85m i ymchwilio i ficrobau'n "ffawdheglu" ar blastig yn y môr
Mae arbenigwyr ym Mhrifysgol Bangor yn gweithio gyda Phrifysgolion Stirling a Warwick ar broject newydd gwerth £1.85 miliwn sy'n ymchwilio i'r ffordd y mae plastig yn y môr yn cludo bacteria a firysau - a'r effaith bosibl ar iechyd pobl. Mae'r gwyddonwyr yn ceisio deall sut mae plastig yn gweithredu fel cerbyd, a allai ledaenu pathogenau ar hyd yr arfordir, neu hyd yn oed o wlad i wlad, a sut mae hynny'n effeithio ar iechyd.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Rhagfyr 2018
Llygredd golau arfordirol
Ydych chi erioed wedi meddwl sut y gall llygredd golau yn ein trefi arfordirol effeithio efallai ar greaduriaid y môr? Mae'r Ysgol Gwyddorau Eigion ym Mhrifysgol Bangor yn arwain project newydd pedair blynedd a gyllidir gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, a fydd yn gwella ein dealltwriaeth o'r ffordd mae llygredd golau o drefi a dinasoedd arfordirol yn effeithio ar fywyd ar hyd ein glannau.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Rhagfyr 2018
Pam mae alcohol yn gwneud rhai pobl yn dreisgar
Astudiaeth genedlaethol yn trafod peryglon oedolion â phlentyndod trawmatig sy’n yfed yn drwm Mae yfwyr trymach yn llawer mwy tebygol o fod yn rhan o drais os ydynt wedi dioddef lefelau uchel o Brofiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod (ACEsi), yn ôl astudiaeth newydd.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Rhagfyr 2018
Mynd i’r afael â thlodi bwyd
Bu tri aelod o staff Prifysgol Bangor yng nghyfarfod cyntaf Cynghrair Tlodi Bwyd Gogledd Cymru (NWFPA) yng Nghanolfan OpTIC Llanelwy yn ddiweddar. Mae Cynghrair Tlodi Bwyd Gogledd yn ford gron a nifer o sectorau’n aelodau o dan gadeiryddiaeth Cyngor Sir Fflint. Nod y Gynghrair yw mynd i’r afael â’r heriau lu sydd o ran tlodi bwyd yn y gogledd.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Rhagfyr 2018
Ocean acidification will increase the iodine content of edible seaweeds and their consumers
Dyma erthygl gan Georgina Brennan , o'r Ysgol Gwyddorau Naturiol a'i chyd-ymchwilwyr, sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 7 Rhagfyr 2018
Agroforestry can help the UK meet climate change commitments without cutting livestock numbers
Dyma erthygl yn Saesneg gan Charlotte Pritchard ,o’r Ysgol Gwyddorau Naturiol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 7 Rhagfyr 2018
Madagascar: fear and violence making rainforest conservation more challenging than ever
Dyma erthygl yn Saesneg gan yr Athro Julia Jones o’r Ysgol Gwyddorau Naturiol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Rhagfyr 2018
Beth mae casglu o'r glannau yn ei olygu i gasglwyr a helwyr yn yr oes sydd ohono.
Mae Liz Morris-Webb, ymchwilydd yn Ysgol Gwyddorau'r Eigion ym Mhrifysgol Bangor, yn chwilio am bobl sy'n casglu o lannau môr Cymru i gymryd rhan yn ei hymchwil. Os ydych chi'n chwilota am fwyd, abwyd, arian, addysg, meddyginiaethau, ymchwil neu rywbeth mwy anarferol, gallwch gymryd rhan.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Rhagfyr 2018
Ymchwil rhyngwladol yn datgelu her canser y coluddyn
Mae Canolfan Ymchwil Gofal Sylfaenol Gogledd Cymru Prifysgol Bangor wedi bod yn rhan o adolygiad mawr, rhyngwladol o amseroedd triniaeth i bobl â chanser y coluddyn. Cydweithrediad rhwng gwledydd â systemau gofal iechyd tebyg sy'n meddu ar ddata o ansawdd uchel yw'r Bartneriaeth Meincnodi Canser Rhyngwladol (ICBP) a aeth ati i olrhain pob cam yr aeth pobl â chanser y coluddyn trwyddo cyn cael triniaeth. Cydlynwyd yr astudiaeth yn y Deyrnas Unedig gan Cancer Research UK, ac ariannwyd elfen Cymru o'r astudiaeth gan Ymchwil Canser Cymru. Adroddwyd am yr astudiaeth yn BMJ Open . Archwiliwyd holiaduron gan 2,866 o gleifion a'u meddygon yn rhyngwladol, yn ogystal â chofnodion meddygol cleifion a gafodd ddiagnosis rhwng 2013 a 2015.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Rhagfyr 2018