Dr. Eirini Sanoudaki i roi darlith wadd ym Mhrifysgol Essex
Mae Dr. Eirini Sanoudaki, wedi cael gwahoddiad i roi darlith ym Mhrifysgol Essex, fel rhan o gyfres o seminarau yn yr Adran Iaith ac Ieithyddiaeth, ar 5 Mawrth. Testun ei darlith fydd “Bilingual acquisition: interactions in the domain of phonological structure”. Am fwy o wybodaeth, gweler: http://www.essex.ac.uk/langling/news_and_seminars/seminarDetail.aspx?e_id=6760
Dyddiad cyhoeddi: 23 Chwefror 2015