Tîm o Ysgol Busnes Bangor yn cael eu penodi i archwilio trethi datganoledig Cymru
Yn dilyn proses dendro gystadleuol, mae tîm o Ysgol Busnes Prifysgol Bangor wedi cael eu penodi gan Lywodraeth Cymru i archwilio rhagolygon refeniw trethi datganoledig a fydd yn cael eu cynnwys yng nghyllideb 2018-19.
O ganlyniad i Mesur Cymru 2014 a Mesur Cymru 2017, mae rhai trethi yn cael eu datganoli i Lywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’r pwerau newydd hyn yn ddulliau ychwanegol o effeithio ar ddatblygiad economaidd yng Nghymru yn ogystal â chyflawni nodau polisi penodol.
Bydd y grŵp, dan arweiniad Dr Edward Jones, Darlithydd mewn Economeg wedi ei gyllido’n rhannol gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn cynnwys 6 aelod o’r Ysgol Busnes. Byddant yn asesu ac yn archwilio’n annibynnol rhagolygon refeniw trethi datganoledig y Llywodraeth ac yn cynnig cyngor ar wella methodoleg ar gyfer cyllidebau’r dyfodol.
Wrth drafod y llwyddiant diweddaraf yma i’r Ysgol Busnes, meddai’r Athro Jonathan Williams, Pennaeth yr Ysgol:
"Mae’r llwyddiant yma i Ysgol Busnes Bangor yn dangos yn glir yr ymroddiad a’r cyfraniad y mae’r Ysgol yn ei wneud i economi a phobl Cymru. Mae’r ffaith eu bod wedi eu dewis gan Lywodraeth Cymru i gyflawni’r gwaith yma yn dyst i’r rhagoriaeth ymchwil a’r arbenigeddau niferus sydd gennym ym maes economeg a chyllid yma yn yr Ysgol Busnes".
Dyddiad cyhoeddi: 13 Mawrth 2017