Ysgol Busnes Bangor i gynnal cynhadledd o bwys ar Economïau Mwslimaidd
Sut y gellir hyrwyddo datblygiad ariannol yn y byd Mwslimaidd? Dyma’r cwestiwn a ofynnir ac sydd i’w trafod mewn cynhadledd ym Mhrifysgol Bangor ym Medi, mewn cydweithrediad â’r Banc Datblygu Islamaidd (IDB).
Cynhelir ‘Finance and Development in Muslim Economies’ ochr yn ochr â’r Sefydliad Hyfforddiant Ymchwil Islamaidd (IRTI) o fewn IDB, a bydd yn archwilio pam y mae gwledydd Islamaidd mor bell y tu ôl i genhedloedd eraill o ran datblygiad economaidd, a’r camau y gellir eu cymryd i newid hyn.
“Mae cyfanswm CGC (cynnyrch gwladol crynswth) y 57 o wledydd Mwslimaidd yn 8% yn unig o CGC y byd, tra bo cyfanswm eu poblogaeth yn 1.3 biliwn, sef rhyw 21% o boblogaeth y byd,” eglura’r athro Shahid Ebrahim, trefnydd y gynhadledd ac Athro Bancio a Chyllid Islamaidd yn Ysgol Busnes Bangor. “Gwelir canlyniadau yr un mor wael o ddadansoddiad o Fynegai Datblygiad Dynol (MDD): o 57 o wledydd Mwslimaidd, cafodd 21 sgôr isel, 31 sgôr ganolig, a 5 yn unig o wledydd Mwslimaidd a gafodd sgôr uchel.”
Bydd y gynhadledd yn fforwm ar gyfer cyfnewid syniadau, a gobeithir y bydd yn annog astudiaethau a fydd yn ymchwilio i’r persbectif ariannol sy’n sylfaenol i feysydd eang, megis rheolaeth ariannol, isadeiledd ariannol, sefydliadau ariannol ac offerynnau ariannol.
Cyd-drefnid y digwyddiad gan Turkhan Ali Abdul Manap (IRTI), yr Athro Phil Molyneux (Prifysgol Bangor), M. Azmi Omar (IRTI) a Steven Ongena (Prifysgol Zürich). Bydd yr holl drefnwyr, yn cynnwys yr Athro Ebrahim, yn cyd-olygu rhifyn arbennig o’r Journal of Financial Services Research, lle caiff detholiad o bapurau o’r gynhadledd, o bosibl, eu cyhoeddi.
Cewch fwy o wybodaeth am y gynhadledd, sydd i’w chynnal ym Mhrifysgol Bangor ddydd Llun 15 Medi, ar http://www.bangor.ac.uk/business/news/call-for-papers-conference-on-finance-and-development-in-muslim-economies-17482.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Medi 2014