Newyddion: Hydref 2018
Taflu goleuni ar dechnoleg y robot - Dr Mazia Nezhad yn ennill Cymrodoriaeth EPSRC i ddatblygu micro-robotiaid sy'n cael eu pweru gan oleuni
Dr Maziar Nezhad of Bangor University and PI to NRN Project 105 has been awarded an Innovation Fellowship from EPSRC.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Hydref 2018
Prifysgol Bangor yn derbyn dwy wobr Athena SWAN
Mae Prifysgol Bangor yn falch iawn i gyhoeddi y bu cais diweddar am wobr Efydd Athena SWAN ar lefel sefydliad yn llwyddiannus. Roedd cais yr Ysgol Gwyddorau Eigion am wobr Efydd ar lefel adrannol hefyd yn llwyddiannus. Mae'r gwobrau hyn yn cydnabod ymrwymiad y Brifysgol i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhywiol mewn addysg uwch.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Hydref 2018
Dewch i ryfeddu ar y casgliadau sbesimenau yn Amgueddfa Hanes Natur Brambell
Bydd Amgueddfa Hanes Natur Brambell, Prifysgol Bangor yn ymuno ag amgueddfeydd ar draws y wlad ar gyfer Gŵyl Amgueddfeydd Cymru eleni, gaiff ei chynnal rhwng 27 Hydref – 4 Tachwedd. Mae'r digwyddiad blynyddol unigryw hwn yn gyfle i bawb sy'n byw yng Nghymru, neu'n ymweld dros hanner tymor, i archwilio a thyrchu yn yr amgueddfeydd gwych sydd gennym ledled Cymru. Unwaith eto caiff rhaglen o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd amrywiol eu cynnal gyda rhywbeth at ddant pawb, o arddangosfeydd, atgynyrchiadau a gweithdai i weithgareddau thema Calan Gaeaf.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Hydref 2018
Edible crabs won't cope with the effects of climate change on seawater – new study
Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Nia Whiteley o’r Y sgol Gwyddorau Naturiol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 23 Hydref 2018
More in depth data is required to reveal the true global footprint of fishing
Dyma erthygl yn Saesneg gan Mike Kaiser, Athro er Anrhydedd yn yr Ysgol Gwyddorai Eigion sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 23 Hydref 2018
Cynaeafu data amgylcheddol gydag ap
Mae economi Cambodia ymysg yr economïau sydd yn datblygu gyflymaf yn y byd. Mae’r wlad yn symud o economi wledig i un ddiwydiannol a dinesig yn gyflym iawn, ond mae’r llywodraeth hefyd, yn ei hawydd i ddatblygu, yn awyddus i fod yn gynaliadwy ac i beidio â cholli adnoddau naturiol gwerthfawr. Bydd ymchwil newydd gan wyddonwyr amgylcheddol a chymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor, ynghyd â chydweithwyr ym Mhrifysgol Efrog Newydd (UDA) a chorff anllywodraethol yn Cambodia, Keosothea Nou (Cymdeithas Datblygu Cymunedol, Cambodia) yn rhoi golwg gyffredinol ar adnoddau amgylcheddol y wlad, a sut y cânt eu defnyddio gan unigolion gwahanol. Bydd y wybodaeth yn helpu’r llywodraeth i ddatblygu polisïau cynaliadwy i’r wlad rymus hon. Mae hwn yn un o 13 project newydd a gyllidir drwy gais ESRC Transformative Research .
Dyddiad cyhoeddi: 23 Hydref 2018
We tracked coral feeding habits from space to find out which reefs could be more resilient
Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Gareth Williams o’r Ysgol Gwyddorau Eigion ac eraill sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 22 Hydref 2018
Gall gwyddonwyr nawr ragweld arferion bwydo cwrel o'r gofod
Mae ymchwil newydd wedi datgelu bod cwrel trofannol sy'n byw mewn dyfroedd mwy cynhyrchiol yn manteisio ar y cynnydd mewn bwyd sydd ar gael ac y gellir rhagweld yr arferion bwydo hyn o loerennau sy'n troi o gwmpas ein planed.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Hydref 2018
Prifysgol Bangor yn agor canolfan ymchwil biotechnoleg newydd
Ym mhresenoldeb gwyddonwyr ymchwil o bob rhan o Ewrop, cynrychiolwyr y diwydiant a swyddogion o Lywodraeth Cymru, agorwyd canolfan ymchwil newydd ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar. Bydd y ganolfan yn darganfod ensymau newydd sydd â'r potensial i drawsnewid effeithlonrwydd diwydiannau sy’n ymwneud â biotechnoleg.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Hydref 2018
Cymrodoriaeth rhyngwladol o bwys i ymchwilydd addawol lleol
Mae ymchwilydd ôl-ddoethuriaeth yn Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol Bangor wedi ennill Cymrodoriaeth Fyd-eang Marie Sklodowska Curie , a gyllidir drwy Horizon 2020 y Comisiwn Ewropeaidd. Mae’r Gymrodoriaeth, sydd yn hyrwyddo symud rhyngwladol a chyfnewid gwybodaeth, yn galluogi Dr Karina Marsden o Fethesda i dreulio dwy flynedd yn gweithio ym Mhrifysgol Melbourne, Awstralia, cyn dychwelyd i Brifysgol Bangor ar gyfer blwyddyn olaf ei phroject ymchwil. Dyfarnwyd y Gymrodoriaeth yn dilyn cais ar y cyd rhwng Prifysgolion Bangor a Melbourne.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2018
Are electric fences really the best way to solve human-elephant land conflicts?
Dyma erthygl yn Saesneg gan Liudmila Osipova, myfyrwraig doethurol ym Mhrifysgol Bangor sydd wedi ei gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 12 Hydref 2018
Myfyrwraig o Brifysgol Bangor yn cyrraedd rownd gynderfynol cystadleuaeth busnes cenedlaethol
Mae myfyrwraig coedwigaeth o Brifysgol Bangor wedi cyrraedd rownd gynderfynol cystadleuaeth busnes cenedlaethol a gynhelir gan elusen sy'n cefnogi entrepreneuriaid sy'n fyfyrwyr neu'n raddedigion. Mae Jemima Letts, 21, wedi cyrraedd y rhestr fer yng nghategori Effaith Cymdeithasol Tata am ei busnes Tree Sparks , menter gymdeithasol sy’n bwriadu cychwyn trafodaeth ymhlith pobl ifanc 15-19 oed am ymwybyddiaeth amgylcheddol, yn ogystal ag amlygu bod swyddi o fewn y sector amgylcheddol yn ddichonadwy i bobl ifanc.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2018
Mae data cydraniad uchel yn cynnig y lluniau manylaf erioed o ôl troed pysgota treillio ledled y byd
Daw tua chwarter o fwyd môr y byd sy'n cael ei ddal yn y cefnfor o dreillio'r gwaelod, dull sy'n golygu tynnu rhwyd ar hyd gwely'r môr ar silffoedd a llethrau cyfandirol i ddal berdys, penfras, pysgod creigiog, lledod chwithig a mathau eraill o bysgod a physgod cregyn sy'n byw ar waelod y môr. Mae'r dechneg yn effeithio ar ecosystemau gwely'r môr, mae'r rhwydi'n gallu lladd neu darfu ar fywyd a chynefinoedd morol eraill yn anfwriadol. Mae dadansoddiad newydd sy'n defnyddio data cydraniad uchel ar gyfer 24 o ranbarthau'r môr yn Affrica, Ewrop, Gogledd a De America ac Awstralasia yn dangos mai dim ond 14 y cant o lawr cyffredinol y môr sy'n fasach na 1,000 metr (3,280 troedfedd) sy'n cael ei dreillio.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Hydref 2018
Tansanïa i fabwysiadu polisïau newydd i ddiogelu stociau pysgod
Mae Gweinyddiaeth Da Byw a Physgodfeydd Tansanïa yn bwriadu mabwysiadu argymhellion ar gyfer cadw'r amrywiaeth genetig unigryw o tilapia ar gyfer diogelwch bwyd. Mae'r argymhellion yn seiliedig ar ganfyddiadau ymchwil dan arweiniad yr Athro George Turner o Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol Bangor, mewn cydweithrediad â chydweithwyr ym Mhrifysgol Bryste, Sefydliad Earlham yn Norwich ac yn Tanzania Fisheries Research Institute (Tafiri), a ariennir gan y Gymdeithas Frenhinol, yr Ymddiriedolaeth Leverhulme, y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC) a'r Cyngor Ymchwil Amgylchedd Naturiol (NERC).
Dyddiad cyhoeddi: 8 Hydref 2018
Tree Sparks yn mynd o nerth i nerth
Mae cwmni eco-ymwybyddiaeth a sefydlwyd gan fyfyrwraig yn dilyn cyfnod o waeledd wedi derbyn sêl bendith gan rwydwaith busnes dylanwadol.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Hydref 2018