Newyddion: Mai 2019
Dychwelliad y Ddraig
Ffrindiau'n trefnu gŵyl i godi arian i gefnogi darlithydd a gafodd anaf i'r ymennydd ac i'r Ardd Fotaneg sydd mor hoff ganddi. Ar y 8fed o Fehefin, bydd gerddi botaneg Prifysgol Bangor yn Nhreborth yn llawn cerddoriaeth wych ar dair llwyfan, bwyd llysieuol blasus, plant yn crwydro'r coetiroedd a'r dolydd hynafol, teuluoedd yn dysgu drymio a dawnsio gyda'i gilydd, a llawer mwy. Mae'r cyfan yn cael ei drefnu gan ffrindiau a chydweithwyr Dr Sophie Williams, cyn ddarlithydd o Brifysgol Bangor a gontractiodd lid yr ymennydd Japaneaidd tra oedd hi ar waith maes yn Tsieina yn 2015.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Mai 2019
Dylunio ar gyfer pobl sy'n byw efo dementia
Ers deng mlynedd, mae Menter trwy Ddylunio wedi gweithio gyda gwahanol gwmnïau ar draws Gogledd Cymru, gan ganolbwyntio'n bennaf ar y sector twristiaeth antur. Eleni, mae timau myfyrwyr wedi cael brîff buddiol a heriol dros y broses 10 wythnos, gan greu profiadau cofiadwy i ymwelwyr â dementia i Ogledd Cymru. Cynhaliwyd yr ornest derfynol eleni yn Pontio ddechrau mis Ebrill a chafwyd amrywiaeth eang o syniadau cynnyrch gan dimau israddedig o Seicoleg , Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig , Busnes , Dylunio Cynnyrch , Cerddoriaeth a'r Cyfryngau , a Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer . Y nod i dîm 2019 oedd creu cynnyrch neu wasanaeth a fyddai'n gwneud Gogledd Cymru yn fwy cofiadwy i dwristiaid sydd â dementia arnynt.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mai 2019
Arloesedd newydd yn derbyn Gwobr y Gymdeithas Fetelegol
The Royal Meteorological Society’s Vaisala Award for Weather Observing and Instrumentation for 2018 has been awarded to Professor Tom Rippeth and his research team at Bangor University’s School of Ocean Sciences . Prof Rippeth is interested in how different water masses mix within our oceans and how the mixing of waters of different temperatures and salinity drives and affects global climate and weather patterns.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mai 2019
Arbenigedd Bangor yn helpu ennill Gwobr Aur yn Chelsea
Treuliodd Curadur Gardd Fotaneg y Briofysgol, Natalie Chivers, yr wythnos ddiwethaf hyd at ei phenelinoedd mewn pridd yn rhan o dîm dylunio cynllun plannu Gardd Montessori St Nicholas yn Sioe Flodau Chelsea. Treuliodd Natalie yr wythnos yn plannu pob blodyn a ddewiswyd yn ofalus iawn ar gyfer yr Ardd a enillodd Wobr Aur enwog Chelsea.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mai 2019
Ymchwil newydd ym Mhrifysgol Bangor yn helpu i daflu goleuni ar y posibilrwydd o fywyd ar y blaned Gwener yn y gorffennol
Er bod y blaned Gwener heddiw yn lle anial a digroeso iawn, gyda thymheredd yr arwyneb yn ddigon poeth i doddi plwm, mae tystiolaeth ddaearegol, a gefnogir gan efelychiadau model cyfrifiadurol, yn dangos y gallai fod wedi bod llawer oerach biliynau o flynyddoedd yn ôl a bod ganddi gefnfor, ac felly'n debyg iawn i'r Ddaear.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mai 2019
Yn hyblyg ac ymhobman- ac eto gall fod y babŵn wrth risg
Er ei fod mor gyffredin i rai ardaloedd yn Affrica Is-Sahara fel eu bod yn cael ei ystyried yn boendod i rai cymunedau, mae ymchwil newydd yn dangos y gall hanner y chwe rhywogaeth o fabŵn sydd yn bresennol yn y rhanbarth fod mewn peryg o beidio ag oroesi erbyn canol y ganrif. Er bod y rhan fwyaf o rywogaethau o fabŵn yng nghategori ‘o Bryder Lleiaf’ n ôl Rhestr Goch yr IUCN o Rywogaethau wrth Risg, mae papur diweddar yn y J ournal of Biogeography yn datgelu y gallent brofi ymdrech i fodoli o dan amodau hinsawdd y dyfodol.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mai 2019
Ymchwilio i siâp hydrodynameg eiconig glas y dorlan
Mae siâp pigfain eiconig glas y dorlan, sy'n enwog am eu gallu i ddeifio heb wneud sŵn, wedi ysbrydoli dyluniad trenau bwled cyflym. Mae gwyddonwyr wedi bod yn profi siâp pigfain rhai o'r 114 o rywogaethau glas y dorlan a welir ledled y byd, i asesu pa siâp yw'r mwyaf hydrodynameg. Bu'r biolegydd adar, Dr Kristen Crandell a'r myfyriwr trydedd flwyddyn, Rowan Howe, ym Mhrifysgol Bangor, yn creu modelau printiedig 3D o siapiau pig nifer o rywogaethau glas y dorlan sy'n deifio, yng Nghanolfan Arloesi Pontio y brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mai 2019
Replanting oil palm may be driving a second wave of biodiversity loss
Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Simon Willcock o’r Ysgol Gwyddorau Naturiol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 13 Mai 2019
Gwobr Goffa Llew Rees 2019
Mae'r Brifysgol wedi dyfarnu ei gwobr flynyddol am lwyddiant ym maes y campau, Gwobr Goffa Llew Rees, i Theo Schoebel, am flwyddyn eithriadol o lwyddiannau Karate ar lwyfannau domestig a rhyngwladol.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mai 2019
Dyfodol y Dechnoleg Rithwir
Bu'r Dr Ll ŷr ap Cenydd, Darlithydd ym Mhrifysgol Bangor, yn Siarad am Ddyfodol y Dechnoleg Rithwir wrth i Oculus, sy'n eiddo i Facebook, lansio eu clustffonau newydd Oculus Quest.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Mai 2019