Newyddion: Mehefin 2019
Coedwigwyr Bangor yn San Steffan
Cafodd pump o goedwigwyr o Brifysgol Bangor y fraint o gael eu gwahodd i ymuno â myfyrwyr eraill, gweithwyr coedwigaeth, Aelodau Seneddol a chynrychiolwyr ac arbenigwyr o'r diwydiant coedwigaeth i nodi lansiad cenedlaethol Confor Cystadleuaeth #TheFutureIsForestry yn ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mehefin 2019
Prifysgol Bangor yn cynnal digwyddiad llwyddiannus i gyn-fyfyrwyr ym mhedwaredd Gyngres Coedamaeth y Byd ym Montpellier, Ffrainc
Ddydd Llun 20 Mai 2019, gyda chefnogaeth y Ganolfan Addysg Ryngwladol , cynhaliwyd digwyddiad ym mhedwaredd Gyngres Coedamaeth y Byd ym Montpellier, Ffrainc gan staff yr Ysgol Gwyddorau Naturiol . Mae gan Brifysgol Bangor nifer fawr o fyfyrwyr rhyngwladol a bydd yn gwneud pob ymdrech i gadw mewn cysylltiad â chyn-fyfyrwyr ble bynnag yn y byd y bônt. Cyfarfu staff, cyn-fyfyrwyr, myfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr yng ngwesty'r Oceania i rannu hanesion, rhwydweithio a dysgu am ddatblygiadau diweddar ym Mhrifysgol Bangor a thu hwnt.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Mehefin 2019
Newid cyflym mewn riffiau cwrel yn arwain at alwadau byd-eang am ailystyried y sefyllfa
Mae arbenigwyr ar riffiau cwrel o bedwar ban byd yn galw am ailystyried ein nodau hinsawdd rhag blaen yng ngoleuni tystiolaeth gynyddol fod yr ecosystemau bregus hyn yn newid a dirywio yn hynod gyflym. Mae riffiau cwrel, sydd wedi gweithredu'n gymharol ddigyfnewid am oddeutu 24 miliwn o flynyddoedd, bellach yn mynd trwy newidiadau eithriadol o ran eu gwneuthuriad.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Mehefin 2019
Coedwigwyr Bangor ym Mhalas Buckingham
Mynychodd dau o goedwigwyr Prifysgol Bangor, Sarah Ellis a James Walmsley, Barti Gardd Brenhinol ar dir Palas Buckingham yn ddiweddar, o ganlyniad i'w gwaith gyda'r elusen fechan, Woodland Heritage. Treuliodd y coedwigwyr lawer o'u prynhawn yn archwilio'r gerddi helaeth, sy’n safle 40-erw yng nghanol Llundain a chartref i gasgliad trawiadol o goed specimen . Cawsant hefyd gipolwg ar aelodau'r teulu Brenhinol, gan gynnwys y Frenhines a’r Tywysog Harry.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Mehefin 2019