Mae haf 2026 wedi dod ag un o dymhorau tanau gwyllt mwyaf difrifol y Deyrnas Unedig yn ystod y blynyddoedd diwethaf, wedi'i ddwysáu gan wres eithafol ac amodau eithriadol o sych. Cofnodwyd mwy na 500 o danau ledled y wlad ym mis Gorffennaf yn unig, gan effeithio ar dir amaethyddol a gweundiroedd, rhostiroedd, a glaswelltiroedd ucheldir, tirweddau sy'n storio carbon, yn rheoleiddio dŵr, yn lleihau'r risg o lifogydd ac yn cynnal rhai o fioamrywiaeth fwyaf gwerthfawr y Deyrnas Unedig.
Er bod y difrod gweladwy a achosir gan danau gwyllt yn glir, mae'r effeithiau ar iechyd y pridd yn llawer anoddach i'w gweld. Mae'r project yn cael ei arwain gan yr Athro Davey Jones o Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol Prifysgol Bangor, sy’n gweithio â'i gydweithwyr yr Athro Dave Chadwick, yr Athro Robert Griffiths, Dr Emily Cooledge a Dr Karina Marsden.
“Yn aml, gelwir pridd yn ecosystem anghofiedig y Deyrnas Unedig, ond mae'n gwneud llawer iawn o waith i ni o dan ein traed, gan gloi carbon i ffwrdd, hidlo ein dŵr yfed a chefnogi'r planhigion a'r anifeiliaid y mae ein tirweddau'n dibynnu arnynt,” meddai’r Athro Jones. “Yn syth ar ôl tân, gall y pridd ddweud llawer wrthym am ba mor ddrwg y mae wedi’i effeithio. Ond gall rhai o'r signalau hynny newid yn gyflym yn dilyn glaw, erydiad ac adferiad llystyfiant. Dyna pam ei bod mor bwysig ein bod ni’n gallu mynd i’r maes yn gyflym yn dilyn tanau gwyllt.”
Mae tîm Bangor yn defnyddio dull plotiau pâr, gan gymharu tir wedi'i losgi'n uniongyrchol â thir cyfagos heb ei losgi. Mae hyn yn darparu cymhariaeth naturiol sy'n caniatáu i ymchwilwyr nodi newidiadau a achosir gan dân wrth ystyried gwahaniaethau rhwng safleoedd. Mae lleoliadau'n cael eu nodi ledled y Deyrnas Unedig gan ddefnyddio data lloeren NASA, gan ganiatáu i'r tîm ddewis safleoedd addas yn gyflym yn dilyn tanau newydd.
Bydd ymchwilwyr yn mesur newidiadau mewn carbon a maetholion pridd, gweithgaredd a swyddogaeth microbaidd, i ba raddau y mae’n gwrthyrru dŵr a risg erydiad, ochr yn ochr ag effeithiau ar fioamrywiaeth planhigion. Drwy samplu ar draws gwahanol ecosystemau, bydd y tîm hefyd yn ymchwilio i weld a yw rhai cynefinoedd yn fwy agored i danau gwyllt nag eraill.
Mae arsylwadau maes cychwynnol o safleoedd ym Mwlch Sychnant ger Conwy a'r Rhinogydd ger Harlech yng Ngogledd Cymru yn dangos graddfa bosibl yr effeithiau. Mae'r safleoedd yn cynnwys rhostir ucheldirol o fewn tirweddau gwarchodedig iawn sydd wedi'u dynodi'n Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a Gwarchodfa Natur Genedlaethol.
Ym Mwlch Sychnant, mae amcangyfrifon maes rhagarweiniol yn awgrymu bod y tân wedi defnyddio 12–17 tunnell o garbon yr hectar o lystyfiant, gan losgi'n ddwfn i'r haen gwasarn arwynebol. Gwelodd ymchwilwyr hefyd golledion sylweddol o ddeunydd organig yn y pridd, gan dynnu sylw at y cronfeydd mawr o garbon a gedwir yn y tirweddau ucheldirol hyn.
“Mae'r arsylwadau cychwynnol hyn yn rhoi cipolwg i ni ar yr hyn sydd wedi'i golli, ond dim ond rhan o'r stori yw mesur y niwed uniongyrchol," meddai’r Athro Chadwick. “Mae angen i ni ddeall beth sy'n digwydd nesaf, pa mor gyflym y mae'r priddoedd a'r cynefinoedd hyn yn adfer, a yw rhai ecosystemau'n fwy gwydn nag eraill, ac a oes pethau y gallwn ni eu gwneud i helpu adferiad."
Mae'r tîm yn bwriadu dychwelyd i safleoedd astudio 6, 12 a 24 mis ar ôl y tanau, gan ganiatáu i ymchwilwyr olrhain newidiadau yn iechyd y pridd, bioamrywiaeth a swyddogaeth ecosystemau dros amser.
“Nid yw tân gwyllt yn effeithio ar bob tirwedd yn yr un ffordd,” meddai Dr Emily Cooledge. “Drwy astudio gwahanol ecosystemau a dychwelyd i'r un safleoedd dros amser, gallwn ddechrau deall pa briddoedd a chynefinoedd sydd fwyaf agored i niwed, pa rai sy'n gallu adfer yn naturiol, a ble y gallai fod angen ymyrraeth i gefnogi'r adferiad hwnnw. Bydd y dystiolaeth honno'n hollbwysig wrth i ni baratoi ar gyfer dyfodol lle gallai achosion o danau gwyllt eithafol ddod yn fwyfwy cyffredin."
Mae'r project yn cael ei ddatblygu gyda phartneriaid ymateb i danau gwyllt gan gynnwys DEFRA, y Comisiwn Coedwigaeth, Cyfoeth Naturiol Cymru, Natural England, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol, Scottish Forestry a Gwasanaethau Tân ac Achub, sy'n helpu i nodi safleoedd tân addas wrth iddynt ddigwydd.
Bydd canfyddiadau’r ymchwil yn helpu rheolwyr tir, gwasanaethau tân a llunwyr polisi i ddeall canlyniadau uniongyrchol tanau gwyllt a sut mae tirweddau sydd wedi’u niweidio yn adfer. Gallai'r canlyniadau helpu i lywio mesurau i amddiffyn cyflenwadau dŵr yfed, lleihau risgiau llifogydd ac erydiad, a diogelu cynefinoedd agored i niwed wrth i'r risg o danau gwyllt gynyddu ledled y Deyrnas Unedig.
“Drwy ddychwelyd i'r safleoedd hyn dros y ddwy flynedd nesaf, a chymharu adferiad ar draws gwahanol ecosystemau, gallwn ddeall pam mae rhai priddoedd a chynefinoedd yn adfer yn gyflymach nag eraill, ac a oes pethau y gallwn ni eu gwneud i helpu adferiad. Mae'n hanfodol ein bod yn adeiladu'r sylfaen dystiolaeth hon nawr, mewn ffordd gydlynol, fel ein bod wedi ein paratoi'n well ar gyfer hafau'r dyfodol,” meddai’r Athro Griffiths.
Mae'r tîm ymchwil yn croesawu awgrymiadau ar gyfer safleoedd tanau gwyllt addas gan dirfeddianwyr a rheolwyr tir. E-bostiwch d.jones@bangor.ac.uk neu e.cooledge@bangor.ac.uk os oes gennych ddiddordeb.