Newyddion: Ionawr 2020
Arddangosfa Caffael Cyhoeddus
Cynhelir arddangosfa'n trafod Caffael Cyhoeddus a Nodau Deddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol yn Neuadd Reichel, Prifysgol Bangor ddydd Mawrth 4 Chwefror. Yno, bydd swyddogion caffael o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Ngogledd Cymru, academyddion ac arweinwyr eraill ym maes caffael cyhoeddus, yn rhoi sylw i sut y gall cyrff cyhoeddus ddefnyddio bwyd lleol, a gynhyrchir mewn modd mwy cynaliadwy, a chwrdd â'r nodau llesiant.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Ionawr 2020
Could willow be the answer to better lamb growth?
Datganiad Saesneg gan gorff allanol, felly nid oes cyfieithiad Cymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ionawr 2020
Lansio oes gyflymach yn M-SParc
Heddiw (23.1.20) bydd canolfan ymchwil 5G, a allai wneud Cymru yn arweinydd byd-eang yn y dechnoleg a newid sut mae'r rhyngrwyd yn gweithio, yn cael ei lansio'n swyddogol yn M-SParc , Parc Gwyddoniaeth Prifysgol Bangor. Mae'r Ganolfan Prosesu Arwyddion Digidol (DSP) yn cael ei rhedeg gan academyddion o Brifysgol Bangor, sy'n gweithio ar gyflymu band eang, ac yn chwarae rhan hanfodol mewn galluogi 5G. Gyda phartneriaid gan gynnwys Huawei a BT, mae hwn yn waith byd-eang a allai newid y byd.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Ionawr 2020
Gwyddonwyr Bangor yn cryfhau cysylltiadau â Rwsia i ymladd y newid yn yr hinsawdd
Bu gwyddonwyr o ogledd Cymru mewn seminar arloesol ar yr newid yn yr hinsawdd yn Siberia. Gwahoddwyd dau wyddonydd o Brifysgol Bangor gan Gonswl Prydain yn Rwsia i draethu ynghylch eu hymchwil amgylcheddol.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Ionawr 2020