Newyddion: Chwefror 2020
‘The future of our oceans’ - darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Bangor gan wyddonydd amlwg
Dyfodol ein cefnforoedd fydd yn cael sylw mewn darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Bangor ddydd Mercher, 4 Mawrth . Y siaradwr fydd Jacqueline McGlade, Athro Gwytnwch a Datblygu Cynaliadwy yng Ngholeg Prifysgol Llundain, a Chymrawd er Anrhydedd o Brifysgol Bangor. Bydd y ddarlith yn cael ei chynnal am 5.30pm yn Narlithfa Eric Sunderland, Prif Adeilad y Celfyddydau . Mae mynediad am ddim, ac nid oes angen tocynnau. Mae croeso i bawb.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Chwefror 2020
Clefydau coed mewn coedwigoedd: mae atal yn well na gwella
Mae afiechydon newydd ar goed yn ymledu i goetiroedd ym Mhrydain ar raddfa gynyddol gan achosi mwy o ddifrod i gynhyrchu coed yn gynaliadwy a'r manteision niferus eraill a gawn o'n coedwigoedd. Mae hyn yn destun pryder arbennig o ystyried ymrwymiad y Llywodraeth i gynnydd'n gyflym faint y coetiroedd a geir ym Mhrydain. Nid ydym eisiau plannu miliynau o goed ac yna'u gweld yn cael eu difodi gan afiechydon. Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgolion Bangor, Strathclyde, Caergrawnt, Glasgow a Warwick, yn ogystal â Sefydliad James Hutton, newydd gyhoeddi adolygiad ffurfiol llawn o'r holl dystiolaeth gyhoeddedig o bob cwr o'r byd tymherus ynghylch pa opsiynau ar gyfer rheoli coedwigoedd sydd fwyaf effeithiol yn erbyn afiechydon coed ( Frontiers of Forestry & Global Change 3: 7. doi: 10.3389 / ffgc.2020.00007). Mae hyn wedi dangos y gall mesurau a gymerir ar ôl i bathogen oresgyn coedwig (megis torri coed a heintiwyd neu rai sy'n debygol o gael eu heintio) wneud dim ond arafu lledaeniad yr afiechyd yn y goedwig. Anaml y maent yn ei atal. Felly, y dull gweithredu gorau o lawer fyddai cynyddu cwarantîn effeithiol i leihau ac arafu ymlediad pathogenau newydd i wlad neu ranbarth, ond anaml y mae hyn i'w weld yn gweithio. Gall sborau llawer o bathogenau, megis y rhai sy'n achosi i goed ynn wywo ar hyn o bryd, gael eu chwythu ymhell gan y gwynt.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Chwefror 2020