Newyddion: Ebrill 2020
Rhwyfwr yn ennill ysgoloriaeth ryngwladol a gwobr gan y brifysgol
Bydd myfyriwr o Brifysgol Bangor sydd wedi ennill ysgoloriaeth rwyfo mewn cystadleuaeth fyd-eang i astudio yn UDA hefyd yn derbyn prif wobr chwaraeon y brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Ebrill 2020
Primatolegwyr Bangor yn trydar yn fyw am gyfres arloesol y BBC “Primates"
Mae primatolegwyr Prifysgol Bangor yn disgwyl yn eiddgar am lansiad cyfres nodedig y BBC, gan y byddant yn trydar yn fyw o'u cartrefi yn ystod y cyfnod hwn o gyfyngiadau symud. Cafodd y rhaglenni bywyd gwyllt newydd eu ffilmio dros 2 flynedd gan uned astudiaethau natur y BBC a'r nod yw bwrw goleuni newydd ar fywydau ein perthnasau agosaf o bob cwr o'r byd, yn ogystal ag ar yr heriau cadwraeth sy'n eu hwynebu. I ddathlu'r gyfres newydd hon a rhannu eu hangerdd am brimatiaid, bydd tri phrimatolegydd o Ysgol Gwyddorau Naturiol yn trydar yn fyw am y gyfres wrth iddi gael ei darlledu ar BBC One dros y tair wythnos nesaf.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Ebrill 2020
Monkey teeth fossils hint several extinct species crossed the Atlantic
Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Isabelle Winder o'r Ysgol Gwyddorau Naturiol a Vivien Shaw o'r Ysgol Gwyddorau Meddygol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol .
Dyddiad cyhoeddi: 16 Ebrill 2020
Prifysgol Bangor yn cyfrannu at ymchwil fyd-eang i COVID-19
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi ymuno â'r frwydr fyd-eang yn erbyn y pandemig COVID-19. Bydd grŵp o academyddion blaenllaw yn rhannu eu harbenigedd i ddatblygu ffyrdd newydd o fonitro'n dorfol lefelau SARS-Cov-2, y firws sy'n achosi'r afiechyd a elwir yn COVID-19.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Ebrill 2020
Taith maes rhithiol i fyfyrwyr gwlyptir Bangor
Er gwaethaf y cyfyngiadau symud ar draws y wlad, llwyddodd myfyrwyr o Brifysgol Bangor fynd ar daith maes o amgylch Ynys Môn yn ddiweddar. Ni thorrwyd unrhyw reolau ar bellhau cymdeithasol serch hynny am i'r daith maes gael ei chynnal yn rhithiol fel rhan o gamau'r brifysgol i symud at addysgu ar-lein dros gyfnod y coronafirws. Roedd y 'daith maes rhithiol' yn rhan o fodiwl trydedd flwyddyn yn Ysgol y Gwyddorau Naturio l, a drefnwyd gan yr Uwch Ddarlithydd Dr Christian Dunn.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Ebrill 2020