Newyddion: Hydref 2020
Prifysgol Bangor yn datblygu'n arweinydd byd-eang mewn dyfodol ynni niwclear
Bydd Prifysgol Bangor yn dod yn safle ymchwil niwclear o safon fyd-eang ar ôl buddsoddiad gwerth £3 miliwn gan Lywodraeth Cymru mewn 15 o swyddi gwyddoniaeth newydd.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Hydref 2020
Gall llanwau mawr fod wedi bod yn ffactor allweddol yn esblygiad pysgod esgyrnog a thertapodau esgyrnog
Mae ymchwil arloesol, a gyhoeddwyd yn Proceedings of the Royal Society A , sy’n edrych ar y llanw yn ystod y cyfnod Silwraidd hwyr a’r cyfnod Defonaidd (420 Ma - 380 Ma), yn awgrymu y gallai llanwau mawr fod wedi bod yn ffactor amgylcheddol allweddol yn esblygiad pysgod esgyrnog a thetrapodau cynnar, sef y fertebratau cyntaf i fyw ar y tir.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Hydref 2020
Sewage signals early warning of coronavirus outbreaks
Dyma ddatganiad yn y Saesneg gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) sydd yn disgrifio sut y mae gwyddonwyr o Brifysgol Bangor yn cyfrannu at raglen a arweinir gan y Llywodraeth sydd yn rhoi rhybudd cynnar o achosion coronafirws drwy fonitro carthffosiaeth ar draws y wlad.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Hydref 2020
Project NERC dan arweiniad Bangor i ymchwilio i wastraff plastig yn y môr yn Ynysoedd y Philipinau / Bangor-led NERC project to investigate marine plastic waste in the Philippines
Bydd project NERC newydd gwerth £1.5M yn edrych ar sut mae gwastraff plastig yn effeithio ar amgylchedd y môr, ac ar gymunedau sy'n dibynnu ar y môr am eu hincwm. Mae gan Ynysoedd y Philipinau broblem llygredd plastig difrifol sy'n effeithio ar dwristiaeth, y sector sy'n cyfrannu'n sylweddol at ddatblygiad y wlad. Gellir olrhain llawer o'r broblem i sut y caiff plastigau untro eu gwaredu.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Hydref 2020
Steve Backshall yn arwain ei ddarlith gyntaf ym Mhrifysgol Bangor
Cynhaliwyd darlith gyntaf y cyflwynydd teledu a'r fforiwr, Steve Backshall, fel rhan o dîm addysgu Prifysgol Bangor yr wythnos hon.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Hydref 2020
Darganfod rhywogaeth newydd o gloron yn ystod astudiaeth Primatolegydd o Brifysgol Bangor
Gwnaeth Dr Alexander Georgiev, primatolegydd ym Mhrifysgol Bangor, ddarganfyddiad anarferol wrth astudio epaod yn y Congo.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2020
Arbenigwr mewn brathiadau nadroedd yn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r perygl yn India
Mae Dr Anita Malhotra, Gwyddonydd a Herpetolegydd ym Mhrifysgol Bangor yn arbenigo mewn ymchwil i nadroedd gwenwynig a'u fenwm ac eleni mae'n cymryd rhan mewn ymgyrch fyd-eang i godi ymwybyddiaeth o’r perygl.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2020
Yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig yn ennill gwobr Efydd Athena SWAN
Mae'n bleser gan Brifysgol Bangor gyhoeddi bod cais diweddar yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig am wobr Efydd Athena SWAN wedi bod yn llwyddiannus.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Hydref 2020