Rhwydwaith LGBTQ
Sefydlwyd Rhwydwaith LGBTQ staff ac ôl-raddedig Prifysgol Bangor yn 2018. Mae’n agored i unrhyw un sy’n gweithio ym Mhrifysgol Bangor ac unrhyw fyfyrwyr ôl-raddedig sy’n nodi eu bod yn lesbiaidd, hoyw, bi, traws, queer neu holi, ynghyd â ffrindiau a chynghreiriaid ein cymuned.
Ein Pwrpas
Sefydlwyd Rhwydwaith LGBTQ Bangor i ddarparu fforwm ar gyfer rhwydweithio a dulliau cymorth, i gynnig cyfle i gydweithwyr o bob rhan o’r Brifysgol hysbysu a chydweithio ar gamau LGBTQ ac i gynyddu gwelededd materion LGBTQ yn y gweithle. Mae croeso i unrhyw staff neu fyfyrwyr ôl-raddedig gymryd rhan yn y gwaith o redeg y Rhwydwaith neu ddod i’r cyfarfodydd dal i fyny anffurfiol.
I gael mwy o wybodaeth am y Rhwydwaith, cysylltwch ag arweinydd y rhwydwaith, Marcel Clusa neu Nia Blackwell ym maes Adnoddau Dynol yn lgbtq@bangor.ac.uk.
Sut mae’r Brifysgol yn Ein Cefnogi
Mae’r Brifysgol yn cynorthwyo ac yn hwyluso’r Rhwydwaith, gan ddarparu adnoddau, ystafelloedd i gwrdd ag ati. Mae'r holl staff a myfyrwyr yn cael eu gwarchod gan Bolisi Urddas yn y Gwaith ac Astudio’r Brifysgol.
Ble a phryd?
Mae Rhwydwaith LHDTC Bangor yn cwrdd ar-lein dros Teams unwaith y mis ac yn cyfarfod hefyd am baned ar ddydd Gwener cyntaf pob mis. Cysylltwch â ni i gael gwybod am y cyfarfod nesaf.
Os hoffech ymuno a ebostiwch lgbtq@bangor.ac.uk am fanylion Zoom.
Mae’r dudalen hon ar gyfer Rhwydwaith LGBTQ y staff a’r myfyrwyr ôl-raddedig. Os ydych chi’n chwilio am Gymdeithas LGBTQ + y myfyrwyr, dilynwch y dolenni hyn isod