Newyddion: Gorffennaf 2020
Athro Ysgrifennu Creadigol yn ennill Gwobr
Mae’r Athro a’r bardd, Zoë Skoulding, wedi ennill Gwobr Llyfr y Flwyddyn, yng nghategori Barddoniaeth Saesneg am ei chasgliad diweddaraf, Footnotes to Water . Mae Footnotes to Water yn dilyn hynt dwy afon anghofiedig, sef Afon Adda ym Mangor ac Afon Bièvre ym Mharis, yn ogystal â dilyn defaid ar lwybrau llenyddol hyd fynyddoedd Cymru. Dyma un o’r cyfrolau a ddewiswyd gan y Poetry Book Society y llynedd.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Gorffennaf 2020
Gwobr Llyfr y Flwyddyn i ddarlithydd o Fangor
Mae Ifan Morgan Jones wedi ennill Gwobr Ffuglen Llyfr y Flwyddyn 2020 am ei nofel Babel . Mae Ifan Morgan Jones yn ddarlithydd mewn newyddiaduraeth yn yr Ysgol Cerddoriaeth a'r Cyfryngau. Mae wedi ysgrifennu pedair nofel, ac fe enillodd y gyntaf ohonynt, Igam Ogam , wobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2008. Cwblhaodd ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor yn 2018 ar bwnc y wasg Gymraeg yn y 19eg ganrif a’r ymchwil hwnnw oedd sail ei nofel Babel .
Dyddiad cyhoeddi: 30 Gorffennaf 2020
Mae cyfres newydd Netflix yn dangos agwedd arall ar ferched yn y chwedl Arthuraidd, meddai academydd ym Mhrifysgol Bangor
Ddydd Gwener 17 Gorffennaf, bydd Netflix yn dechrau ffrydio ei ddrama ffantasi epig ddiweddaraf, Cursed, sy'n seiliedig ar y chwedl Arthuraidd ac yn canolbwyntio ar chwedl Merch Llyn y Fan Fach. Mae'r Athro Raluca Radulescu, Cyfarwyddwr y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd ym Mhrifysgol Bangor, yn esbonio pam mae'r cymeriad hynod a phwerus hwn yn y chwedl Arthuraidd yn parhau i apelio at bobl.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2020
Prifysgol Bangor yn ymchwilio i iaith plant sy’n siarad Arabeg
Dyddiad cyhoeddi: 2 Gorffennaf 2020
Tri o Brifysgol Bangor ar restr fer Llyfr y Flwyddyn
Mae creadigrwydd yn y gwynt ym Mangor wrth i ddwy o’n darlithwyr Ysgrifennu Creadigol gyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn, yng nghategori llenyddiaeth Saesneg y gystadleuaeth. Mae Darlithydd newyddiaduraeth hefyd wedi ei gynnwys yng Nghategori Ffuglen Llyfr y Flwyddyn . Cyhoeddir y canlyniadau ar 1 Gorffennaf.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Gorffennaf 2020