Newyddion: Medi 2019

Bangor yn ennill Cymrodoriaeth Arweinydd y Dyfodol

Mae academydd yn Ysgol Gwyddorau Meddygol Prifysgol Bangor wedi ennill Cymrodoriaeth bwysig Arweinydd y Dyfodol gan Ymchwil ac Arloesi'r DU (UKRI), un o brif gyrff cyllido'r Deyrnas Unedig.

Mae Dr Chris Staples yn ymuno â phrif ymchwilwyr ac arloeswyr  o bob rhan o'r wlad i dderbyn cyfran o'r £78 miliwn a ddyfernir fel Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol. Bwriad y buddsoddiad yw rhoi hwb i'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr gwyddonol, i gynnal eu gwaith ymchwil arloesol ac i ddatblygu annibyniaeth eu hymchwil.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Medi 2019