Cerddoriaeth Cymru
Mae’r ffaith fod yr Ysgol Cerddoriaeth yn cymryd rhan weithgar yn y maes ers diwedd y 19eg ganrif yn gadarnhad o’i safle unigryw fel prif ganolfan ymchwil yn arbenigo yng ngherddoriaeth Cymru. Mae diddordeb cychwynnol Dr J. Lloyd Williams mewn cerddoriaeth draddodiadol o Gymru, cynnyrch Harry Evans ac E.T. Davies o ran cyfansoddiadau, ac yna statws Reginald Smith Brindle a William Mathias ym maes cerddoriaeth yng Nghymru yn rhoi cefndir a chyd-destun ar gyfer y gweithgareddau presennol. Ers canol y 1980au, mae gan yr Ysgol enw da yn rhyngwladol fel canolfan ar gyfer perfformio, cyfansoddi, addysgu ac ymchwil i gerddoriaeth Cymru.
Mae Canolfan Uwchastudiaethau Cerddoriaeth Cymru (CAWMS) yn trefnu cynadleddau ac yn golygu’r cylchgrawn dwyieithog Hanes Cerddoriaeth Cymru/ Welsh Music History. Archif Cerddoriaeth Draddodiadol Cymru yw’r prif adnodd yn y byd o ran ymchwil yn y maes (dan gyfarwyddyd Wyn Thomas) ac mae’r arbenigwyr mewn perfformio cerddoriaeth werin (Stephen Rees), cerddoriaeth yn y Gymru Ganoloesol (Sally Harper) ac ymchwil i gerddoriaeth boblogaidd (Pwyll ap Siôn a Craig Owen Jones) yn mynd ati i hyrwyddo gwell dealltwriaeth o’r pwnc.
Yr Ysgol hefyd yw ceidwad Archif Cerddoriaeth Boblogaidd Cymru (cyfarwyddwr – Craig Owen Jones). Mae’r archif yn cynnwys recordiadau a deunyddiau ymchwil yn gysylltiedig â cherddoriaeth boblogaidd yng Nghymru yn hanner olaf yr 20fed ganrif.