Newyddion: Mehefin 2019

Coedwigwyr Bangor yn San Steffan

Cafodd pump o goedwigwyr o Brifysgol Bangor y fraint o gael eu gwahodd i ymuno â myfyrwyr eraill, gweithwyr coedwigaeth, Aelodau Seneddol a chynrychiolwyr ac arbenigwyr o'r diwydiant coedwigaeth i nodi  lansiad cenedlaethol Confor Cystadleuaeth #TheFutureIsForestry yn ddiweddar.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Mehefin 2019

Prifysgol Bangor yn cynnal digwyddiad llwyddiannus i gyn-fyfyrwyr ym mhedwaredd Gyngres Coedamaeth y Byd ym Montpellier, Ffrainc

Ddydd Llun 20 Mai 2019, gyda chefnogaeth y Ganolfan Addysg Ryngwladol, cynhaliwyd digwyddiad ym mhedwaredd Gyngres Coedamaeth y Byd ym Montpellier, Ffrainc gan staff yr Ysgol Gwyddorau Naturiol. Mae gan Brifysgol Bangor nifer fawr o fyfyrwyr rhyngwladol a bydd yn gwneud pob ymdrech i gadw mewn cysylltiad â chyn-fyfyrwyr ble bynnag yn y byd y bônt. Cyfarfu staff, cyn-fyfyrwyr, myfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr yng ngwesty'r Oceania i rannu hanesion, rhwydweithio a dysgu am ddatblygiadau diweddar ym Mhrifysgol Bangor a thu hwnt.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Mehefin 2019

Coedwigwyr Bangor ym Mhalas Buckingham

Mynychodd dau o goedwigwyr Prifysgol Bangor, Sarah Ellis a James Walmsley, Barti Gardd Brenhinol ar dir Palas Buckingham yn ddiweddar, o ganlyniad i'w gwaith gyda'r elusen fechan, Woodland Heritage. Treuliodd y coedwigwyr lawer o'u prynhawn yn archwilio'r gerddi helaeth, sy’n safle 40-erw yng nghanol Llundain a chartref i gasgliad trawiadol o goed specimen. Cawsant hefyd gipolwg ar aelodau'r teulu Brenhinol, gan gynnwys y Frenhines a’r Tywysog Harry.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Mehefin 2019