Newyddion: Hydref 2019

Botswana is humanity's ancestral home, claims major study – well, actually …

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Isabelle Winder o'r Ysgol Gwyddorau Naturiol sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 31 Hydref 2019

Gwibdaith Amser a Hwyl Hanesyddol – ar gael yn Amgueddfa Hanes Natur Brambell

Os ydych chi'n chwilio am dipyn o deithio amser ac antur hanesyddol, mae Amgueddfa Hanes Natur Brambell, Prifysgol Bangor yn ei ddarparu Hanner Tymor Hydref hwn, (26 Hydref a 3 Tachwedd) fel rhan o Ŵyl Amgueddfeydd Cymru.

Bydd Amgueddfa Hanes Natur Brambell, Prifysgol Bangor ar agor Dydd Sadwrn, 2 o Dachwedd 11-1 fel rhan o’r Ŵyl.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Hydref 2019

Gwyddonydd a darlithydd i arddangos ei gwaith mewn arddangosfa gelf genedlaethol o bwys ar fywyd gwyllt

Mae darlithydd er anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor yn cadw cydbwysedd rhwng ei diddordeb gwyddonol mewn adar a chyfleu ei chariad tuag atynt mewn gwaith celf.

Chough gan Rachel TaylorMae gwaith celf Dr Rachel Taylor bellach wedi ei ddethol o blith 600 o geisiadau i ymddangos ynghyd â gwaith gan rai o artistiaid bywyd gwyllt mwyaf blaenllaw Prydain. Mae’r arddangosfa i’w gweld yn y Mall Galleries rhwng 24 Hydref a 3 Tachwedd 2019.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Hydref 2019

Gallai adleoli diwydiant moch Tsieina arwain at ganlyniadau anfwriadol

Mewn erthygl yn y cyfnodolyn Nature Sustainability (30/9/19) mae grŵp rhyngwladol o wyddonwyr amaethyddiaeth ac amgylcheddol yn rhybuddio y gallai awydd Llywodraeth Tsiena i adleoli ei diwydiant moch o'r De, er mwyn amddiffyn ansawdd dŵr, arwain at ganlyniadau niweidiol anfwriadol.

Yn 2015 gwaharddodd Llywodraeth Tsiena gynhyrchu da byw mewn rhai rhanbarthau i reoli llygredd dŵr wyneb yn agos at afonydd, llynnoedd neu gronfeydd dŵr.  Mae hyn wedi lleihau'r porc sydd ar gael a hynny mewn cyfnod pan ragwelir y bydd ei fwyta'n cynyddu o 690 i 1,000 miliwn o bennau y flwyddyn rhwng 2018-50.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Hydref 2019

Diwrnodau Agored Prifysgol Bangor i rymuso'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr

Nod Coleg Gwyddorau Amgylcheddol a Pheirianneg Prifysgol Bangor yw dangos nad cenhedlaeth o liprod yw ein pobl ifanc trwy gyhoeddi galwad am fyfyrwyr sy'n benderfynol o wneud gwahaniaeth i broblemau'r byd.

Datgelwyd mewn arolwg* diweddar nad lliprod gwangalon a gor-sensitif yw 85% o bobl ifanc, yn wahanol i'r darlun a gawn ar y cyfryngau, a'u bod yn teimlo bod y grym ganddynt i fynd i'r afael â materion fel y cynhesu byd-eang, lefelau'r môr yn codi a llygredd diddiwedd.

Dyddiad cyhoeddi: 4 Hydref 2019