Archif Newyddion: Mai 2015

Elis Dafydd o Brifysgol Bangor yn ennill y Gadair

Elis Dafydd, myfyriwr o Brifysgol Bangor, sydd wedi ennill cadair Eisteddfod yr Urdd Caerffili a’r Cylch 2015.

Dyddiad cyhoeddi: 29 Mai 2015

Mad Moses: beneath Max’s desert rampage is a classic Jewish odyssey

Dyma erthygl yn Saesneg gan Yr Athro Nathan Abrams, Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol

Dyddiad cyhoeddi: 29 Mai 2015

Camau i wella cyfraddau goroesi canser yng Nghymru

Gallai canfyddiadau astudiaeth fanwl newydd ar ganser ddangos ffyrdd o wella cyfraddau goroesi canser yng Nghymru. 

Canlyniadau'r astudiaeth ddiweddaraf gan y Bartneriaeth Meincnodi Canser Rhyngwladol (ICBP), a ddatgelwyd heddiw yng nghyfnodolyn y BMJ Open, yw'r cyntaf i ddangos bod cydberthynas rhwng parodrwydd meddygon teulu i gynnal archwiliadau'n ymwneud â chanser - naill ai'n uniongyrchol neu drwy gyfeirio'r claf at ofal eilaidd - a goroesi canser. Mae’r astudiaeth yn dangos hefyd fod meddygon teulu ym Mhrydain ac yng Nghymru, mewn arolwg ar lein yn defnyddio enghreifftiau o achosion clinigol, yn llai tebygol o gyfeirio neu archwilio cleifion â symptomau canser posibl pan fyddant yn dod atynt gyntaf, o'u cymharu â'r gwledydd eraill lle cynhaliwyd yr astudiaeth: Awstralia, Canada, Denmarc, Norwy a Sweden. 

Dyddiad cyhoeddi: 28 Mai 2015

Cyn fyfyrwraig Bangor yn cipio'r Fedal Ddrama

Ffion Williams, cyn-fyfyrwraig Prifysgol Bangor, sydd wedi ennill Y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caerffili a’r Cylch 2015 mewn cystadleuaeth o safon uchel a blesiodd y beirniaid yn fawr.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Mai 2015

Kafka is the real ghost of Kubrick’s The Shining

Dyma erthygl yn Saesneg gan Yr Athro Nathan Abrams, Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Mai 2015

Cwrw, Bara a Gwell Iechyd

Gwyddoniaeth Bocs Sebon Abertawe 6.6.15

Mae'n debyg bod cysylltiad rhwng cwrw, bara a gwell iechyd - a burum yw'r cysylltiad hwnnw.

Bydd Jessica Fletcher, gwyddonydd o Brifysgol Bangor, yn egluro'r cysylltiad i'r cyhoedd mewn digwyddiad 'Gwyddoniaeth Bocs Sebon' ym Mhrifysgol Abertawe ddydd Sadwrn 6 Mehefin.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Mai 2015

Hwb ariannol i Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth

Mae Prifysgolion Bangor, Caerdydd ac Abertawe wedi derbyn cyllid gwerth £2,249,927 yn ddiweddar gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (NISCHR gynt) i arwain y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth (NCPHWR), sef Canolfan Ymchwil  Cymru gyfan.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Mai 2015

Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd

Llongyfarchiadau mawr i Ffion Haf Williams, cyn-fyfyrwraig Ysgol y Gymraeg, ar ddod yn fuddugol yng nghystadleuaeth y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd am ddrama a gyfansoddodd yn ystod ei thrydedd flwyddyn ym Mangor fel rhan o’r modiwl Sgriptio.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Mai 2015

Talent Glanaethwy

Llongyfarchiadau mawr i Gôr Glanaethwy ar ddod i’r brig drwy bleidlais gyhoeddus yn rownd gyn-derfynol Britain’s Got Talent! Yn dilyn eu llwyddiant yn y gystadleuaeth nos Lun, bydd y côr, sy’n cynnwys dros 160 o aelodau, yn cystadlu yn rownd derfynol y gystadleuaeth dalent ar ITV.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Mai 2015

Tystiolaeth bellach o boblogrwydd Prifysgol Bangor yn cynyddu

Prifysgol Bangor yw’r brifysgol agosaf i’r brig o ran ei gwelliant cyffredinol yn nhablau cynghrair prifysgolion Y Guardian 2016 (Guardian University Guide), a gyhoeddwyd heddiw (dydd Mawrth 26 Mai).

Dyddiad cyhoeddi: 26 Mai 2015

Cristnogion cynnar o Iwerddon a’r Alban yn wladychwyr cyntaf Ynys yr Iâ

Datgelir mewn gwaith archeolegol sydd newydd ei gyhoeddi nad Llychlynwyr o Sgandinafia oedd trigolion cyntaf Ynys yr Iâ ond, yn hytrach, ymfudwyr o Iwerddon neu lannau gorllewinol yr Alban. Mae pobl Ynys yr Iâ wedi ymddiddori ers amser maith yn yr ymfudwyr cynnar a sefydlodd eu cenedl - un o'r ynysoedd ieuengaf yn y byd i gael ei gwladychu - ac mae eu llyfrau hanes a'u chwedlau ar hyd y canrifoedd wedi datgan mai Llychlynwyr oedd preswylwyr cyntaf yr ynys.

Hefyd, mae erthygl yn y Saesneg, "Viking beaters: Scots and Irish may have settled Iceland a century before Norsemen"  wedi ei gyhoeddi ar The Conversation heddiw gan Kristjan Ahronson. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd.

Dyddiad cyhoeddi: 25 Mai 2015

Extreme athletes gain control through fear, and sometimes pay the price

Dyma erthygl yn Saesneg gan yr Athro Tim Woodman, Pennaeth yr Ysgol Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer, Athro Emeritiws Lew Hardy a Matthew Barlow, Ymchwilydd ôl-radd mewn Seicoleg Chwaraeon yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Mai 2015

Iechyd da i'r gwyliau

Mae gofyn i bobl beth maent yn ei yfed ar wyliau ac achlysuron arbennig eraill yn dangos bod oddeutu 12 miliwn yn fwy o boteli o win yr wythnos yn cael eu hyfed yn Lloegr nag y tybiwyd yn flaenorol. Nid yw'r arolygon blaenorol ar faint o alcohol a yfir wedi rhoi ystyriaeth i'r holl alcohol a werthir. Ymddengys bod ymchwil a ariannwyd gan Alcohol Research UK ac a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn mynediad agored BMC Medicine, wedi cael hyd i'r 'unedau coll' hyn. 

Hefyd, mae erthygl yn y Saesneg, "England's missing booze: 12 million more bottles drunk per week than previously thought" wedi ei gyhoeddi ar The Conversation heddiw gan Mark Bellis, Prifysgol Bangor a Christine Griffith, University of Bath. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd.


Dyddiad cyhoeddi: 22 Mai 2015

No, the rise of the emoji doesn’t spell the end of language

Dyma erthygl yn Saesneg gan Yr Athro Vyv Evans, Ysgol Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Mai 2015

Paralysed patient makes natural movements using robotics and the power of thought

Dyma erthygl yn Saesneg gan Ken Valyar, darlithydd mewn  Niwrowyddoniaeth Wybyddol yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol

Dyddiad cyhoeddi: 22 Mai 2015

Dyfarnu Medal Cwmni’r Brethynwyr i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor

Cafodd myfyrwyr o Brifysgol Bangor eu cyflwyno gyda Medalau’r Brethynwyr yn ddiweddar. Mae Cwmni’r Brethynwyr yn un o Gwmnïau Lifrai hanesyddol dinas Llundain, sydd bellach yn gweithredu fel mudiad dyngarol. Mae dwy fedal yn cael ei chyfrannu bob blwyddyn gan Gwmni’r Brethynwyr i fyfyrwyr ôl-radd.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Mai 2015

Gwobrau Dysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr 2015

Cynhaliwyd y seremoni flynyddol yn dyfarnu Gwobrau Addysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr ynghyd â gwobrwyo Cynrychiolwyr Cwrs am y bedwaredd tro yn ddiweddar.

Dyddiad cyhoeddi: 21 Mai 2015

A tale of two nations: why the Scottish nationalists outperformed Plaid Cymru

Dyma erthygl yn Saesneg gan Dr Mari Wiliam, Darlithydd Hanes Modern a Hanes Cymru a Dr Andrew Edwards, Deaon Celf a Dyniaethau ac Uwch Ddarlithydd Hanes Modern yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Mai 2015

A wnewch chi bleidleisio dros ‘fwydydd Hyll’?

Wnaethoch chi brynu  ‘bwydydd hyll’ o’r Siop dros dro Bwydydd Hyll ym Mangor yn ddiweddar? Ydych chi’n meddwl ei fod yn syniad busnes gwych?

Dyddiad cyhoeddi: 19 Mai 2015

Emoji yn 'iaith newydd sy'n tyfu gyflymaf'

Mae athro ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor wedi ymuno â chwmni TalkTalk i lansio ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus cenedlaethol newydd i wella dealltwriaeth emojis - iaith sy'n seiliedig ar luniau.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Mai 2015

Datblygiad Cynllunio ar gyfer Parc Gwyddoniaeth Menai

Mae Prifysgol Bangor yn croesawu’r newyddion fod Parc Gwyddoniaeth Menai Cyf (M-SParc) wedi derbyn caniatâd cynllunio amlinellol gan Gyngor Sir Ynys Môn ar gyfer datblygiad pwrpasol M-SParc.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Mai 2015

Gwobr nodedig yr Academi Brydeinig i ddarlithydd Bangor

Mae'r darlithydd o Brifysgol Bangor, Dr Helena Miguélez-Carballeira, o'r Ysgol Ieithoedd a Diwylliannau Modern, wedi derbyn bron i £90,000 i gynnal project a fyddai'n cyflwyno achos dros astudio diwylliant a gwleidyddiaeth gyfoes Sbaen o safbwynt ôl-wladychol.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Mai 2015

Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn paratoi ar gyfer Penwythnos Canoloesol

Ymunwch â’r Brenin Arthur a'i farchogion am benwythnos llawn hwyl o ymladd, gwledda, theatr, cerddoriaeth ac antur! Daw cymdeithasau myfyrwyr Phrifysgol Bangor a Chastell Biwmares at ei gilydd unwaith eto i ddarparu adloniant canoloesol, gan gynnwys theatr fyw, arddangosiadau saethyddiaeth, ymladd canoloesol, cerddoriaeth werin, a chynllwyn cyffrous drwy gydol penwythnos 6 a 7 Mehefin.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Mai 2015

Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn paratoi ar gyfer Penwythnos Canoloesol

Ymunwch â’r Brenin Arthur a'i farchogion am benwythnos llawn hwyl o ymladd, gwledda, theatr, cerddoriaeth ac antur! Daw cymdeithasau myfyrwyr Phrifysgol Bangor a Chastell Biwmares at ei gilydd unwaith eto i ddarparu adloniant canoloesol, gan gynnwys theatr fyw, arddangosiadau saethyddiaeth, ymladd canoloesol, cerddoriaeth werin, a chynllwyn cyffrous drwy gydol penwythnos 6 a 7 Mehefin.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Mai 2015

Bangor yn helpu i drechu'r bwlis

 Ymchwilwyr yn y Ganolfan Ymyrraeth ar sail Tystiolaeth (CEBEI), sy'n rhan o'r Ysgol Seicoleg, oedd y rhai cyntaf ym Mhrydain i werthuso effeithiolrwydd rhaglen gwrth-fwlio KiVa a grëwyd yn y Ffindir.

Dyddiad cyhoeddi: 15 Mai 2015

Prifysgol Bangor yn rhannu anrhydeddau yn ystod wythnos Graddio

Bydd naws cerddoriaeth gyfoes i Seremonïau Graddio Prifysgol Bangor eleni wrth i’r Brifysgol anrhydeddu’r cerddor lleol Gruff Rhys a’r troellwr Radio 1 a Radio Cymru, Huw Stephens.

Maent ymysg yr unigolion a fydd yn  derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd yn ystod Seremonïau Graddio’r Brifysgol (11-17 Gorffennaf 2015).

Dyddiad cyhoeddi: 15 Mai 2015

Carreg filltir bwysig yn y gwaith adeiladu ar ddatblygiad pentref myfyrwyr gwerth miliynau o bunnoedd

Mae'r datblygiad £38 miliwn ar lety myfyrwyr yn neuaddau Santes Fair Prifysgol Bangor wedi cyrraedd carreg filltir hollbwysig gyda thîm y project o VINCI yn cyrraedd pwynt uchaf yr adeilad ar ôl cwblhau'r ffrâm a'r to dur ar bob un o'r adeiladau newydd niferus yn y datblygiad.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Mai 2015

Paentiad mwyaf drud yn y byd yn rhy rhywiol eglur i Fox News

Dyma erthygl yn Saesneg gan Andrew Smith darlithydd Celf Gain yn Ysgol Dysgu Gydol Oes sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 14 Mai 2015

Prifysgol Bangor a Siemens Healthcare Diagnostics yn llofnodi memorandwm i gydweithio yn y dyfodol

Mae Prifysgol Bangor a Siemens Healthcare Diagnostics wedi llofnodi Memorandwm o Ddealltwriaeth ffurfiol a fydd yn galluogi'r ddau sefydliad i gydweithio'n agosach yn y blynyddoedd i ddod.  

Dyddiad cyhoeddi: 14 Mai 2015

Myfyrwyr Bangor yn creu cysylltiadau gyda busnesau lleol

Mae myfyrwyr Prifysgol Bangor wedi bod yn manteisio ar gysylltiadau cryf y Brifysgol gyda busnesau lleol. Bu’r cwmni twrisiaeth, Celticos, a leolir yn y Felinheli, yn gweithio’n agos gyda staff a myfyrwyr Bangor i ddarparu cynnwys amlieithog ar gyfer eu gwefan yn ogystal â chyflogi myfyrwyr i alluogi’r cwmni i ddarparu pecynnau hollol addas ar gyfer ymwelwyr.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Mai 2015

Cyflwyno Gwobr Gwirfoddolwr Cefnogi Cyfoedion y Flwyddyn 2015

Pan soniwyd bod yr Arweinydd Cyfoed i ennill Arweinydd Cefnogi Cyfoedion 2015 wedi bod yn tecstio’r myfyrwyr hynny o dan ei gofal i weld os oeddynt wedi trefnu llety ar gyfer y flwyddyn nesaf yn llwyddiannus, ddechreuodd Hannah Lee amau ei bod ei henw ar fin ei chyhoeddi fel enillydd y Wobr flynyddol ym Mhrifysgol Bangor.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Mai 2015

Ffilm gan fyfyrwyr Prifysgol Bangor wedi ei henwebu am Wobr Teledu Myfyrwyr RTS

Mae ffilm fer a grëwyd gan gyn-fyfyriwr a myfyriwr presennol yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor wedi cael ei henwebu am Wobr Teledu Myfyrwyr 2014 y Gymdeithas Deledu Frenhinol yn y categori Drama Ôl-raddedig.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Mai 2015

Gweithdy llwyddiannus am yrfaoedd yn y diwydiant niwclear

Daeth dros 70 o fyfyrwyr o nifer o wahanol ddisgyblaethau yn cynnwys peirianneg, cemeg, gwyddor amgylcheddol, busnes, y gyfraith, seicoleg a daearyddiaeth at ei gilydd mewn gweithdy a gynhaliwyd yn ddiweddar ym Mhrifysgol Bangor i ddysgu am yrfaoedd yn y diwydiant niwclear. Cynhaliwyd y gweithdy mewn partneriaeth â Horizon Nuclear Power, National Skills Academy for Nuclear (NSAN), a'r rhaglen Nuclear Graduates Programme. 

Dyddiad cyhoeddi: 12 Mai 2015

HPC Cymru i arwain rhwydwaith HPC Ewropeaidd

Mae Cyfrifiadura Perfformiad Uchel (HPC) Cymru, gyda chymorth gan Brifysgol Bangor, wedi ei ddyfarnu â grant gan y Comisiwn Ewropeaidd dan raglen Ymchwil ac Arloesi Horizon 2020 yr Undeb Ewropeaidd i arwain Rhwydwaith Canolfannau Cymhwysedd HPC Ewrop ar gyfer Busnesau Bach a Chanolig.

Bydd y Rhwydwaith unigryw’n hyrwyddo mynediad at gyfleusterau cyfrifiadurol, yn cronni arbenigedd ac adnoddau ledled Ewrop ac yn rhannu arferion gorau o ran defnydd diwydiannol HPC, yn codi ymwybyddiaeth o fanteision HPC ac yn cyfrannu tuag at weithrediad y Strategaeth HPC Ewropeaidd. 

Dyddiad cyhoeddi: 12 Mai 2015

Myfyrwyr Prifysgol Bangor yn Arddangos eu Cyflogadwyedd

Cynhaliwyd y Dathliad Cyflogadwyedd blynyddol yn ddiweddar i longyfarch myfyrwyr Prifysgol Bangor sydd wedi cymryd rhan yng Ngwobr Cyflogadwyedd Bangor ac wedi arddangos ymrwymiad arbennig i ddatblygu eu Cyflogadwyedd drwy weithgareddau allgyrsiol a chyd-gyrsiol tra yn y Brifysgol.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Mai 2015

Enwebiad barddol o bwys i Athro o Brifysgol Bangor

Mae bardd ac ysgolhaig o Brifysgol Bangor wedi ei enwebu ar gyfer un o’r swyddi pwysicaf ac amlycaf ym myd barddoniaeth.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Mai 2015

Gall dirywiad mewn niferoedd llysysyddion mawr arwain at “dirwedd wag,” meddai gwyddonwyr

Mae dirywiad mewn niferoedd llysysyddion mawr y byd, yn arbennig yn Affrica a rhannau o Asia, yn arwain at bryder o 'dirwedd wag' mewn rhai o'r ecosystemau mwyaf amrywiol ar y blaned. Mae llawer o boblogaethau o anifeiliaid fel rhinoserosiaid, sebras, camelod, eliffantod a thapiriaid yn gostwng neu mae perygl iddynt ddiflannu'n gyfan gwbl mewn tiroedd glaswellt, safanau, diffeithdir a choedwigoedd, meddai gwyddonwyr.

Dyddiad cyhoeddi: 2 Mai 2015

Archif y mis

Dyddiad cyhoeddi: 1 Mai 2015

Cynhyrchiad Everyman - y ddrama foesol o’r canol oesoedd yr un mor berthnasol heddiw

Dyma erthygl yn Saesneg gan Sue Niebrzydowski  o’r Ysgol Llenyddiaet saesneg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Mai 2015

Llyfr Jerry Hunter ar Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn

Mae llyfr gan Athro o Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor wedi cyrraedd Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2015.

Jerry Hunter yw awdur Y Fro Dywyll, nofel hanesyddol sydd wedi ei lleoli yng Nghymru, Lloegr a gogledd America, a gyhoeddir gan wasg Y Lolfa.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Mai 2015