Newyddion Ymchwil: Mai 2016

Sut mae sicrhau'r canlyniadau gorau mewn addysg ddwyieithog

Bellach mae'r profion Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol a gynhaliwyd ar draws Cymru eleni i blant ysgol rhwng 6-14 oed bron â dod i ben a bydd arbenigwyr yn trafod y ffordd orau o addysgu plant mewn sefyllfa ddwyieithog mewn cynhadledd ryngwladol o bwys ar Ddwyieithrwydd mewn Addysg. Byddant yn cyflwyno argymhellion ynghylch sut i sicrhau bod plant yn cyrraedd y safonau uchaf ym mhob un o'u hieithoedd.  

Bydd Prifysgol Bangor yn cynnal y Gynhadledd Ryngwladol ar Ddwyieithrwydd mewn Addysg rhwng 10 a 12 Mehefin 2016. Noddir y digwyddiad hwn gan yColeg Cymraeg Cenedlaethol a bydd ymchwilwyr ac ymarferwyr o amryw o wledydd yn dod ynghyd i drafod datblygiadau ac ymarfer gorau ym maes dwyieithrwydd mewn addysg. 

Dyddiad cyhoeddi: 31 Mai 2016

Buddsoddiad £36m sy’n cael cymorth gan yr UE mewn ymchwil ac arloesi ar gyfer busnesau yng Nghymru

Mae’r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi cyhoeddi cynllun newydd £36m sy’n cael cymorth gan yr UE i ddatblygu sgiliau ymchwil ac arloesi ar gyfer graddedigion, a fydd yn cael ei gynnal mewn partneriaeth â busnesau bach a chanolig (BBaCh).

O dan gynllun Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS II), bydd academyddion a myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yn gweithio mewn partneriaeth â mwy na 500 o fusnesau. Byddant yn cydweithio i ddatblygu prosiectau ymchwil arloesol gyda’r nod o ysgogi twf mewn busnesau.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Mai 2016

Prosiect gwyddoniaeth Bangor ar restr fer ar gyfer gwobr UE

Mae BREAD4PLA, project gwyddoniaeth a thechnoleg gwyrdd y chwaraeodd ymchwil Prifysgol Bangor ran allweddol ynddo, wedi ei roi ar restr fer o'r 25 project Amgylchedd LIFE gorau a gyflwynwyd yn 2015.

Dyddiad cyhoeddi: 20 Mai 2016

Astudiaeth newydd i asesu lefelau staffio diogel mewn wardiau ysbytai

Bydd ymchwilwyr Prifysgol Bangor yn gweithio gyda Phrifysgol Southampton ar astudiaeth newydd i asesu gweithredu, effaith a chostau polisïau staffio diogel ar gyfer nyrsio mewn ymddiriedolaethau aciwt.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Mai 2016

Cynghrair i atgyfnerthu ymchwil i goedwigaeth yng Nghymru

Bydd dau sefydliad sydd â hanes hir o arbenigedd ym maes addysg ac ymchwil i goedwigaeth yn cydweithio'n agosach wrth i swyddfa Ymchwil i Goedwigaeth yng Nghymru symud i Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor, sef cartref coedwigaeth yn y Brifysgol.

Dyddiad cyhoeddi: 19 Mai 2016

Bydwreigiaeth yn cyrraedd y cam cyntaf i gael achrediad Prifysgol Menter Cyfeillgar i Fabanod UNICEF y DU

Mae'r rhaglen Baglor mewn Bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Bangor wedi cyrraedd cam cyntaf y daith i gael achrediad Prifysgol Menter Cyfeillgar i Fabanod UNICEF y DU. Maent yn awyddus i fod y brifysgol gyntaf yng Nghymru i ennill achrediad llawn. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw raglenni bydwreigiaeth eraill yng Nghymru sydd wedi cael achrediad llawn Menter Cyfeillgar i Fabanod, gyda dim ond 36% o raglenni bydwreigiaeth yn y DU wedi sicrhau achrediad llawn.  

Dyddiad cyhoeddi: 12 Mai 2016

Ymchwilio i Loegr Oes Elisabeth o safbwynt Ewropeaidd

Mae athro llenyddiaeth yn Ysgol Llenyddiaeth Saesneg y Brifysgol wedi ennill Cymrodoriaeth a roddir fel arfer i'r gwyddorau. Mae Cymrodoriaethau Marie Curie ymhlith gwobrau mwyaf cystadleuol a nodedig Ewrop a'u bwriad yw meithrin ymchwil rhyngddisgyblaethol, hyfforddiant academaidd arloesol a chydweithio rhyngwladol. 

Mae'r Athro Andrew Hiscock, sy'n arbenigo mewn llenyddiaeth Oes Elisabeth a'i lle o fewn cyd-destun Ewropeaidd ehangach, wedi ennill y Gymrodoriaeth a fydd yn golygu y bydd yn ymuno â'r tîm amlddisgyblaethol o ymchwilwyr i'r dadeni yn Université Paul Valéry ym Montpellier am ddwy flynedd.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Mai 2016

The quiet battle to save multilingualism in Europe

Dyma erthygl yn Saesneg gan Marco Tamburelli o’r Ysgol Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.

Dyddiad cyhoeddi: 9 Mai 2016

Generation Beth yn datgelu cenhedlaeth sy’n gwerthfawrogi eu pleidlais ac yn teimlo’n Ewropeaidd

Mae S4C yn galw ar Gymry ifanc i rannu eu profiadau fel rhan o broject rhyngweithiol Ewropeaidd. Gwahoddir y darlithydd Dr Cynog Prys a myfyriwr doethuriaeth Shân Pritchard, Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, i drafod a dadansoddi canfyddiadau’r project sydd â phartneriaid mewn 12 o wledydd Ewropeaidd.

Mae’r project arloesol hwn, sef ‘Generation Beth’ yn esblygiad o arolwg hynod o lwyddiannus a gynhaliwyd yn Ffrainc yn 2013 a elwir yn ‘Generation Quoi’. Y tro hwn, mae 12 o wledydd, gan gynnwys Cymru wedi ymuno â Ffrainc i greu digwyddiad gwirioneddol Ewropeaidd. Mae'r project yng Nghymru yn cael ei arwain gan S4C a'r cwmni cynhyrchu Cwmni Da.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Mai 2016

Perfformiad rhyfeddol lled-ddargludydd yn chwyldroi maes electroneg hyblyg gyflym iawn

Mae deunyddiau electroneg hyblyg ar gyfer rhyngrwyd pethau ar gael erbyn hyn o ganlyniad i dechnoleg newydd a gafodd ei chreu gan gwmni o Ogledd Cymru, SmartKem Ltd, gyda chymorth gwyddonwyr o Brifysgol Bangor

Mae gwyddonwyr yn yr Ysgol Peirianneg Electronig wedi bod yn profi deunydd lled-ddargludydd SmartKem, truFLEX®, ac wedi dangos sut mae gweithredu mewn ffurf electronig ar yr amleddau sydd eu hangen i wireddu gwneud deunyddiau electroneg hyblyg cyflym iawn. Mae hyn yn agor y drws i ystod eang o bosibiliadau yn y maes hwn.

Dyddiad cyhoeddi: 6 Mai 2016

Ymchwil ym Mhrifysgol Bangor yn ymddangos ar HORIZON

Bydd project ymchwil sy’n cael ei gynnal ym Mhrifysgol Bangor, gyda chyfraniad hanfodol aelodau cymunedau ar draws gogledd Cymru, yn derbyn sylw rhifyn nesaf prif gyfres ddogfen y BBC, Horizon (11 Mai 2016 BBC 2 8.00).

Dyddiad cyhoeddi: 5 Mai 2016

On her first birthday, Princess Charlotte already knows much about language

Dyma erthygl gan Anouschka Foltz, Darlithydd mewn seicoieithyddiaeth yn yr Ysgol Ieithyddiaeth ac Iaith Saesnegsydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.


Dyddiad cyhoeddi: 3 Mai 2016