Ynglŷn â'r Gwasanaeth Cyflogadwyedd
Rydym yn dîm o weithwyr proffesiynol ymroddedig sydd wedi ymrwymo i'ch helpu chi i gyflawni eich potensial o ran gyrfa yn ystod eich cwrs ac ar ôl graddio.
Dysgwch fwy am ein timau isod, a sgroliwch i lawr i weld manylion am ein staff a sut i gysylltu.
Tîm Cyswllt Cyflogwyr a TARGETconnect
Mae ein Tîm Cyswllt Cyflogwyr a TARGETconnect yn gweithio gyda chyflogwyr a sefydliadau eraill i gynorthwyo gyda'r gwaith o ddatblygu, gwirio a hyrwyddo swyddi i raddedigion, interniaethau, lleoliadau gwaith a chyfleoedd eraill am brofiad gwaith. Maent yn gweithio gyda chyflogwyr o bob maint, yn gwmnïau rhyngwladol mawr ac yn fusnesau ar raddfa fach, ac yn dod o hyd i gyfleoedd i fyfyrwyr yn rhyngwladol, yn genedlaethol ac yn lleol. Mae'r tîm yn datblygu ac yn rheoli platfform TARGETconnect Bangor, gan sicrhau bod myfyrwyr yn gallu chwilio am gyfleodd a gwneud cais am gyfleoedd, rheoli eu lleoliadau, a llawer mwy yn ddidrafferth. Mae'r tîm hefyd yn cydlynu Rhaglen Interniaeth Israddedig y brifysgol.
Tîm Cyngor a Chanllawiau/a Chyswllt Ysgolion Academaidd
Mae ein Tîm Cyngor a Chanllawiau/a Chyswllt Ysgolion Academaidd yn cynnig arweiniad un i un i fyfyrwyr ar bob agwedd ar chwilio am yrfa a rheoli gyrfa, yn cynnwys ystyried yr opsiynau sydd ar gael gyda'ch gradd, trafod profiad gwaith ac astudiaethau ôl-radd, perffeithio eich CV a pharatoi at gyfweliadau. Maent yn cydlynu rhaglen weithdy/gweminar reolaidd, a ddarperir gan staff, cyflogwyr, ymarferwyr a chyn-fyfyrwyr, ac yn gweithio gydag ysgolion academaidd i ddarparu sesiynau cyflogaeth a chefnogi mentrau a gweithgareddau ysgolion.
Tîm GO Wales
Mae ein Tîm GO Wales yn darparu cefnogaeth un i un i fyfyrwyr sy'n wynebu rhwystrau, ystyried yr opsiynau gorau am brofiad gwaith, gan ddarparu cefnogaeth trwy gydol y lleoliad/profiad, a'u helpu i fagu hyder. Mae project 'GO Wales' yn helpu myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau cyflogadwyedd a chynyddu eu cyfle o gael swydd addas i raddedigion ar ôl gadael y brifysgol.
Mae lleoliadau GO Wales wedi eu teilwra i gyd-fynd â'ch gofynion chi, o ran eich bywyd, eich astudiaethau ac unrhyw ymrwymiadau eraill. Gall y profiad gwaith fod o unrhyw hyd rhwng 1 diwrnod ac 20 diwrnod.
Tîm B-Fentrus
Mae ein Tîm B-Fentrus yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i fyfyrwyr Prifysgol Bangor a graddedigion yng Nghymru i'w helpu i ddatblygu eu sgiliau menter neu eu cefnogi i ddechrau busnes newydd. Maent yn trefnu ac yn hyrwyddo gweminarau a gweithdai rheolaidd ar bynciau fel 'Sut i Werthu' a 'Sut i fod yn Ymgynghorydd', ac yn trefnu ac yn cefnogi digwyddiadau, cystadlaethau a chyfleoedd rhwydweithio. Mae mentora busnes un i un ar gael hefyd.
Rhaglen Cefnogaeth i Raddedigion
Mae ein Rhaglen Cefnogaeth i Raddedigion ar gael i gyn-fyfyrwyr a raddiodd rhwng 2020, 2021 a 2022 ac yn cynnwys cefnogaeth amrywiol i raddedigion sydd angen cefnogaeth i gael troedle ym myd gwaith.
Mae'r rhaglen yn cynnig ystod o ddigwyddiadau, cefnogaeth 1:1, hyfforddiant a phrofiad gwaith i helpu graddedigion i gynyddu eu siawns o gael cyflogaeth ar lefel graddedig.
Tîm Gwobr Cyflogadwyedd Bangor
Mae Tîm Gwobr Cyflogadwyedd Bangor yn cydlynu, datblygu a rheoli gwobr cyflogadwyedd y brifysgol, gan ddarparu cyngor a chymorth ar bob agwedd ar y wobr i staff a myfyrwyr.
Ein Staff
Cyswllt Cyflogwyr / TARGETconnect
Enw | Swydd | Ebost | Ffon |
---|---|---|---|
Alix Charnley | Rheolwr Recriwtio Graddedigion a Phrofiad Gwaith | a.charnley | 01248 382645 |
Ffion Davies | Swyddog Ymgysylltu â Chyflogwyr Graddedigion | f.davies | 01248 382332 |
Tess Cameron |
Swyddog Cyswllt Cyflogwyr | t.cameron | 01248 388521 |
David Pritchard | Swyddog Cyflogadwyedd | d.pritchard | 01248 388427 |
Caryl Pritchard | Cynorthwy-ydd Gweinyddol | caryl.pritchard | 01248 382689 |
Ffion Priestley | Cynorthwy-ydd Gweinyddol (Profiad Gwaith) | ffion.priestley | 01248 382071 |
Cyngor ac Arweiniad / Cyswllt Ysgolion Academaidd
Clare Brass | Rheolwr Cyflogadwyedd | c.l.brass | 01248 382115 |
Elinor Churchill | Ymgynghorydd Cyflogadwyedd | e.h.churchill | 01248 383676 |
Marianne Gardner | Ymgynghorydd Cyflogadwyedd | m.gardner | 01248 382070 |
Mari Price | Ymgynghorydd Cyflogadwyedd | mari.price | 01248 388793 |
Tracey Morris-Cramp | Uwch Swyddog Clerigol Menter a Chyflogadwyedd | t.morris-cramp |
B-Fentrus
Lowri Owen | Rheolwr Projectau Menter | lowri.owen | 01248 388424 |
Katherine Lewis | Cydlynydd Busnesau Cychwynnol Graddedigion | k.lewis | |
Dr. Beth Edwards | Cydlynydd Datblygu Fenter | b.a.edwards | 01248 383131 |
Rhaglen Cefnogaeth i Raddedigion
Sian Shepherd | Rheolwr Prosiect Cefnogi Graddedigion | sian.shepherd | 01248 388429 |
Gweinyddwr Prosiect Cefnogi Graddedigion | cefnogigraddedigion@bangor.ac.uk |
GO Wales: Prosiect Cyflawni Drwy Brofiad Gwaith
Lis Owen | Rheolwr Prosiect | lis.owen | 01248 388426 |
Jo Mitchell | Swyddog Prosiect | jo.mitchell | 01248 382578 |
Hannah Fray | Gweinyddwr Prosiect | h.fray | 01248 383013 |
Rydym yn perthyn i'r Gymdeithas Gwasanaethau Cynghorau ynghylch Gyrfaoedd i Raddedigion (AGCAS).
Manylion Cyswllt
tel: +00 (44) 01248 382071
e-bost: gyrfaoedd@bangor.ac.uk
Facebook: PBcyflogadwyedd / PBcyflogadwyedd
Twitter: PBcyflogadwyedd / BUemployability
Instagram: pbcyflogadwyedd
LinkedIn: Cyflogadwyedd Prifysgol Bangor / Bangor University Employability
Wedi'i ddiweddaru Awst 2022